|
Canolfan Mileniwm Cymru |
Mae Canolfan Mileniwm Cymru ar ei thraed bellach, a gellir ei gweld yn ymgodi i'r ffurfafen o sawl cyfeiriad ym Mae Caerdydd. Mae trydydd gwersyll yr Urdd sydd o fewn y Ganolfan bron yn barod, ond bydd yn rhaid aros i'r Ganolfan gyfan gael ei chwblhau cyn agor ein Gwersyll yn y ddinas.
Disgwylir i'r Ganolfan fod yn weithredol erbyn Tachwedd 2004. Bydd y gwersyll yma yn cynnwys 150 o welyau, theatr i'r Urdd sy'n dal 150, lolfa, dwy ystafell ddosbarth, ffreutur yn ogystal â swyddfeydd i staff y Gwersyll, staff Talaith y de ac Adran yr Eisteddfod a'r Celfyddydau yn y de. Preswylwyr eraill yn y Ganolfan fydd Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Cwmni Dawns Diversions, Yr Academi, Ymddiriedolaeth 'Touch', Ty Cerdd a Chwmni Theatr Hyjinx. Mae canolfan sy'n cartrefu'r holl sefydliadau yma ynghyd â phrif theatr i 1,800 yn argoeli i fod yn y gorau yn y byd.
Mae cyfle i bobl o bob oed, yn arbennig aelodau’r Urdd ag ysgolion i
aros yn y Gwersyll o’r 26ain o Dachwedd, 2004. Os am fwy o fanylion, neu i
archebu lle i grwp aros yn y ganolfan unigryw yma, cysylltwch ag:- Am mwy o wybodaeth ewch i safle we Canolfan Mileniwm Cymru - www.wmc.org.uk
|