Canolfan Mileniwm Cymru
  
Wales Millenium Centre

Mae Canolfan Mileniwm Cymru ar ei thraed bellach, a gellir ei gweld yn ymgodi i'r ffurfafen o sawl cyfeiriad ym Mae Caerdydd. Mae trydydd gwersyll yr Urdd sydd o fewn y Ganolfan bron yn barod, ond bydd yn rhaid aros i'r Ganolfan gyfan gael ei chwblhau cyn agor ein Gwersyll yn y ddinas.

The Wales Millennium Centre is now on its feet, and can be seen rising up into the sky from several directions in Cardiff Bay. The Urdd's third residential centre, which forms part of the Centre, is almost ready, but we will have to wait for the whole Wales Millennium Centre to be completed before the Urdd's Centre is opened.


Y Ganolfan Mileniwm wrthi yn cael ei hadeiladu.
The Millennium Centre being built

Disgwylir i'r Ganolfan fod yn weithredol erbyn Tachwedd 2004. Bydd y gwersyll yma yn cynnwys 150 o welyau, theatr i'r Urdd sy'n dal 150, lolfa, dwy ystafell ddosbarth, ffreutur yn ogystal â swyddfeydd i staff y Gwersyll, staff Talaith y de ac Adran yr Eisteddfod a'r Celfyddydau yn y  de.

The Centre is expected to be operational by November 2004. It will include 150 beds, a 150-seat theatre for the Urdd, a lounge, two classrooms a refectory as well as offices for Urdd residential centre staff, southern region field staff, and Eisteddfod and Arts department staff for the south.

Preswylwyr eraill yn y Ganolfan fydd Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Cwmni Dawns Diversions, Yr Academi, Ymddiriedolaeth 'Touch', Ty Cerdd a Chwmni Theatr Hyjinx. Mae canolfan sy'n cartrefu'r holl sefydliadau yma ynghyd â phrif theatr i 1,800 yn argoeli i fod yn y gorau yn y byd.

Other residents in the Millennium Centre will be Welsh National Opera, Diversions Dance, Academy, Touch Trust, Ty Cerdd - Music Centre Wales and Hyjinx Theatre Company. The Millennium Centre, housing all these organisations with a main theatre seating 1,800, augurs to be one of the best in the world.


Llun artist o sut bydd y Ganolfan yn edrych.
Artist's rendition of the completed Millennium Centre

Mae cyfle i bobl o bob oed, yn arbennig aelodau’r Urdd ag ysgolion i aros yn y Gwersyll o’r 26ain o Dachwedd, 2004. Os am fwy o fanylion, neu i archebu lle i grwp aros yn y ganolfan unigryw yma, cysylltwch ag:-
Alun Owens (02920) 803350
Alun@urdd.org

There is an opportunity for people of all ages, especially Urdd members and school groups to stay from November 26th, 2004. If you want more information, or to book a place to stay for a group at this unique building, contact:-
Alun Owens (02920) 803350
Alun@urdd.org

Am mwy o wybodaeth ar y Ganolfan, ewch i safle we Canolfan Mileniwm Cymru - www.wmc.org.uk

For more information on the Centre, visit the Wales Millenium Centre's website - www.wmc.org.uk