![]() |
Sut i Ymaelodi |
Sut i ymaelodi â'r Urdd
Cynradd: I ymaelodi dylech yn gyntaf holi eich ysgol ac ymaelodi fel rhan o gangen yr ysgol, neu os nad yw'r ysgol yn ymaelodi fel cangen, gallwch holi a oes cangen o'r Urdd yn cwrdd yn lleol fel Adran Bentref.
Os nad oes cangen ysgol nac Adran Bentref yn eich
ardal gallwch ymaelodi fel unigolyn trwy argraffu'r ffurflen ymaelodi yma ac anfon siec
neu arian parod o £5.50 yr aelod
at Swyddog Aelodaeth, Swyddfa'r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23
1EY.
( 01970 613 102 e-bost: aelodaeth@urdd.org
Ffacs: 01970 626 120 )
Cofiwch
mae'n rhaid i bawb fod yn aelod o'r Urdd cyn cymryd rhan mewn gweithgareddau'r Urdd, ac mae'n rhaid i'r Urdd dderbyn yr arian aelodaeth cyn rhoi rhif aelodaeth er mwyn i'r aelod fedru cystadlu ar unrhyw lefel.Argraffu ffurflen - ffurflen llai na blwyddyn 10 yma
|
YMUNA GYDAG URDD GOBAITH CYMRU CYN RHAGFYR 24, 2005 I GAEL Y PEDWERYDD YN Y CASGLIAD O FATHODYNNAU METEL MISTAR URDD!! | |
Am dâl aelodaeth o £5.50
yn unig fe gei di: |
||
OND, MAE NA FWY! Wrth fod yn aelod o Urdd Gobaith Cymru cei gyfle i: |
||
gystadlu mewn nifer o wahanol gystadlaethau yn Eisteddfod yr Urdd o ganu a dawnsio i gelf a chrefft | gystadlu yn Chwaraeon yr Urdd o gala nofio i draws gwlad ac o bêl-droed a rygbi i bêl-rwyd a hoci. | aros yng Ngwersylloedd yr Urdd (Llangrannog, Glan-llyn neu Bentre Ifan) a mwynhau sgio, gwibgartio, hwylio, canwio, merlota .a llawer mwy! |
wneud ffrindiau newydd yn Adran yr Urdd a chymryd rhan ym mhob math o weithgareddau a thripiau cyffrous i niferoedd o barciau a chanolfannau hamdden |
|
|
Felly, beth am i ti a dy ffrindiau ymuno gydar Urdd Heddiw! |
Sut i ymaelodi - Uwchradd
Sut i ymaelodi -
Urddaholics
Tâl Aelodaeth: £5.50 yw'r
tâl aelodaeth am 1 Medi 2005 hyd 31 Awst 2006.
Dylid gwneud sieciau'n daladwy i 'Urdd
Gobaith Cymru'.
Am unrhyw ymholiadau ynglyn ag aelodaeth, cysylltwch
â'r:
Swyddog Aelodaeth,
Swyddfa'r Urdd,
Ffordd Llanbadarn,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23
1EY.
Ffôn: 01970 613 102
e-bost: aelodaeth@urdd.org
Ffacs: 01970 626 120