Annwyl Celt y Ceiliog,
Helô Celt, Jonathon ydw i. Dw i'n byw yn Tremeirchion. Dw i'n naw oed.
Mae gen i chwaer o'r enw Eloise. Dw i'n mynd i Ysgol Bodfari. Miss
Pritchard ydi'r pennaeth. Lewis a Glyn ydi fy ffrindiau i. Dw i'n hoffi
chwarae rownders.
Hwyl fawr,
Jonathon
Annwyl Celt y Ceiliog,
Fy enw ydi Ceri. Dw i'n mynd i Ysgol Bodfari. Dw i'n ddeg oed. Dw i’n byw
ym Modfari. Dw i'n hoffi Bodfari achos mae o'n wych. Dw i'n mwynhau nofio,
marchogaeth bocsio cic. Pawb yn yr ysgol ydi fy ffrindiau. Mrs Pritchard
ydi'r pennaeth.
Hwyl,
Ceri
Annwyl Celt y Ceiliog,
Fy enw ydi Tim. Dw i'n mynd i Ysgol Bodfari. Enw'r pennaeth ydi Mrs
Pritchard. Fy athrawes i ydi Mrs Pritchard. Dw i'n hoffi pêl-droed. Fy
ffrindiau ydi Iwan, James, Will, Curtis, Chris, Hetty, Brett a Daniel. Dw i
ddim yn hoffi prawns.
Hwyl fawr,
Tim
Annwyl Celt,
Helô Celt, Liam ydw i’n byw ym Modfari. Dw i'n naw oed. Dw i'n mynd i
Ysgol Bodfari. Mrs Pritchard ydi'r pennaeth. Glyn, Mathew a mam ydi fy
ffrindiau i. Dw i'n hoffi chwarae pêl-droed a rygbi.
Hwyl fawr,
Liam
|