Anfon lythyr at Cip i ennill £100 i’r ysgol a £40 i ti dy hun | |
Mae Cip yn cynnal cystadleuaeth ysgrifennu llythyr arbennig ar y cyd gyda Swyddfa'r Post. Caiff y gystadleuaeth ei chynnal yn Cip ym mis Ionawr, Chwefror a Mawrth. Eleni, dros y tri mis, bydd chwe enillydd yn ennill £40 i’w wario a £100 i’r ysgol. Mae cystadleuaeth i flynyddoedd 3 a 4 ac un i flynyddoedd 5 a 6. Mae blynyddoedd 3 a 4 yn ysgrifennu cerdyn hyd at 80 gair a blwyddyn 5 a 6 yn ysgrifennu llythyr rhwng 150 a 250 gair. Thema mis Ionawr yw Santes Dwynwen a’r dyddiad cau yw 1 Chwefror. Ym mis Chwefror y thema fydd Darllen a’r dyddiad cau ar 1 Mawrth, a Diwrnod i’w Gofio ym mis Mawrth i’w hanfon at Swyddfa’r Urdd erbyn 1 Ebrill. Dylid anfon y llythyron at: Cystadleuaeth Ysgrifennu Llythyr, Cip, Swyddfa’r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, Ceredigion SY23 1EY, gan gofio rhoi enw, oed ac enw ysgol ar bob llythyr. Am fwy o fanylion cysyllter â Hawys Tomos, Swyddfa’r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, 01970 613112, hawys@urdd.org
|