|
|
|
|
Annwyl Cipyn,
Helô, fy enw i yw Aneurin ac rwyn naw oed. Rwyn byw yn Llanrhaeadr ym
Mochnant. Rydw i yn mynd i Ysgol Pennant, Penybont Fawr. Fy ffrindiau gorau yw James, Rob,
Jake ac Arthur fy nghefnder.
Hwyl fawr Cipyn!
Aneurin Jones
Annwyl Cipyn Caws,
Helô, fy enw i yw Ben. Dwin naw oed. Dwin byw yn Hirnant. Fy ffrindiau gorau
yw Tomos a Joe. Mae gen i ddau frawd Tom a Sam. Mae Sam yn chwarae criced i Sir
Amwythig. Dwin hoffi Cip yn fawr iawn. Fy hoff dimau pêl-droed yw Lloegr a
Chymru.
Hwyl fawr,
Ben Roberts
Annwyl Cipyn,
Fy enw i yw Bradley. Rwyf yn mynd i Ysgol Pennant. Fy ffrindiau i yw Gus, Tristan, Llion,
Rhys, Nat a Scott. Dwin hoffi'r pwnc Saesneg. Fy hoff dimau pêl-droed yw Cymru a
Manchester United. Dwin hoffi chwarae pêl-droed, Monopoly a gêmau cyfrifiadur. Mae
gennyf bum anifail anwes, dwy gath, dwy lygoden fawr ac un gwningen.
Hwyl fawr gan
Bradley Merchant
Annwyl Cipyn,
Fy enw i yw Catrin. Rwyn 10 oed ac yn byw gyferbyn yr ysgol. Rwyn hoff iawn o Cip
yn enwedig y jôcs. Fy ffrind gorau yw fy nghyfnither Sioned oherwydd mae hin
ddoniol. Mi fuaswn yn hoff iawn o fynd i Sbaen. Fy hoff dîm pêl-droed yw Man U.
Hwyl am y tro,
Catrin Jones
Annwyl Cipyn,
Dwi wedi bod yn brysur y gwyliaur haf ma efor eisteddfod a phethau. Ond
dydd Gwener, 28 o Awst, wnes i fynd ar wyliau gyda chybiau am ddwy noson, ond roedd
on dipyn o wyliau swnllyd. Fy hoff chwaraeon yw criced, a dwin chwarae i
Groesoswallt weithiau. Rwyn edrych ymlaen at y Cip nesa.
Hwyl fawr,
Edmund Layland
Annwyl Cipyn,
Fy enw i yw Emma Beech. Dwin mynd i Ysgol Pennant ym Mhowys. Dwin 10 mlwydd
oed. Mae gen i un brawd or enw Daniel, un ci or enw Tyson ac aderyn or
enw Spike. Fy hoff bwnc yn Ysgol Pennant yw Mathemateg. Fy hoff ganwr pop yw Christina
Aguilera.
Hwyl fawr,
Emma Beech
Annwyl Cipyn,
Fy enw i yw Huw. Rwyf yn 8 oed. Rwyn byw yn Cefn Coch. Rwyn mynd i Ysgol
Pennant. Fy hoff dîm pêl-droed yw Cymru a Manchester United. Rwyn hoffi chwarae
rygbi. Rwyn cefnogi Cymru. Fy ffrindiau gorau yw Tomos Evans, Llion Vaughan a Rhys.
Rwyn hoffi bwyta crempog a sglodion.
Hwyl,
Huw Worthington
Annwyl Cipyn,
Helô, fy enw i yw Iwan. Dwin 9 oed. Rwyn byw yn Llangynog. Dwin hoffi
chwarae pêl-droed. Fy hoff dîm yw Cymru. Mae gen i dri chi a dwin byw ar ffarm
or enw Llwyn Onn. Fy ffrindiau gorau yw Llion, Llion Vaughan, Tom, Tomos, Joe, Jake
a Robert.
Hwyl,
Iwan Davies
Annwyl Cipyn,
Helô, fy enw i yw Jake. Dwin 9 oed. Cefais fy ngeni yn Lloegr ac rydw in byw
yng Nghymru. Fy hoff gomig yw Cip. Fy hoff chwaraeon yw pêl-droed. Mae gen i gath
or enw Swoop a chi or enw Scooby Doo.
Hwyl fawr,
gan Jake Fox
Annwyl Cipyn,
Helô! Fy enw i yw Joe ac rwyn naw oed. Rwyn byw yn Penybont Fawr. Fy hoff
bwnc yn ysgol yw hanes. Dwin cefnogi Cymru a Manchester United. Mae gen i chwaer
syn 15 oed. Fy ffrindiau gorau yw Tomos, Iwan, Huw, Tom a Ben. Fy hoff grwp pop yw
Busted.
Hwyl am rwan,
Joe Makinson
Annwyl Cipyn,
Helô, Llion sy yma o Ysgol Penybont Fawr. Dwin hoffi pêl-droed, fy hoff dimau yw
Cymru a Man U. Fy ffrindiau gorau yw Tom, Huw, Joe a Llion Vaughan. Mae Huw yn hoffi
pêl-droed a rygbi ai hoff fwyd e yw crempogau a sglodion. Mae Joe yn hoffi
pêl-droed a Play Sation ac maen hoffi lasagne. Mae Llion yn hoffi pêl-droed a
merched a jocio gydar bechgyn. Mae Tom yn hoffi rygbi, criced a phêl-droed.
Wel hwyl am y tro,
Llion Evans
Annwyl Cipyn Caws,
Helô, fy enw yw Llion. Dwin ddeg oed. Fy hoff dîm pêl-droed yw Man U.!!! Fy hoff
bwnc yw Ymarfer Corff. Fy hoff grwp pop yw Busted achos maen nhwn canu "What I
go to School For". Dwin hoffi Robbie Williams yn canun unigol achos
dwin hoffi pob peth mae on canu.
Ta ta am rwan,
Llion Vaughan
Annwyl Cipyn,
Helô! Lowri sy 'ma. Dwin ddeg oed ac yn mynd i Ysgol Pennant. Fy ffrindiau yw Jade,
Emma, Heidi a Catrin. Mae gen i frawd or enw Tomos sydd yn wyth oed ac sydd yn boen!
Fy niddordebau yw nofio, hel clecs, siopa, cefnogi Cymru a darllen Cip!
Hwyl am y tro!
Lowri Jones
Annwyl Cipyn,
Helô!! Fy enw i yw Rhys ac rwyn ddeg oed. Fy hoff grp pop yw Stereophonics. Fy
mhwnc yw Cymraeg a Chelf. Rwyn chwarae pêl-droed ir tîm yr ysgol. Fy hoff
glwb yw Dinas Caerdydd, a hoff chwaraewr yw John Hartson. Rwyn darllen Cip
bob mis ac yn hoff iawn or posau.
Gan dy hoff ffan,
Rhys Evans
Annwyl Cipyn,
Fy enw i ydy Tomos. Dwin naw oed, dwin mynd i Ysgol Pennant. Fy hoff bwnc yw
Hanes. Dwin hoffi pêl-droed a rygbi. Mae gen i chwaer or enw Catrin, ond mae
hi wedi dechrau Ysgol Uwchradd Llanfyllin. Fy hoff ffrindiau ydy Joe, Iwan a Huw. Fy hoff
grwp pop yw Stereophonics.
Hwyl am y tro,
Tomos Evans
Annwyl Cipyn,
Helô, fy enw i yw Tristan. Rwyn ddeg oed. Mae gen i chwaer or enw Kylie
syn 16 ac efeilliaid syn 6 oed or enw Emily a Francesca, dau frawd
or enw Lewys syn 14 mlwydd oed a Laurence syn 12 mlwydd oed. Dwin
mynd i Ysgol Pennant, Penybont Fawr.
Ta ta Cipyn,
Tristan Curteis