Llythyron gan Ysgol Rhyd y Grug ar gyfer tudalennau gwe Cip Ionawr 2004
Helo! Fy enw i yw Ashleigh. Mae gen i ddwy chwaer - eu henwau nhw yw Amy a Chloe. Fy oedran yw 8 mlwydd oed ac rwy’n dathlu fy mhen‑blwydd ar Fawrth un deg chwech. Fy hoff fwyd yw byrger a sglodion a physgod. Fy ffrind gorau yw Samantha. Rydym ni wedi bod yn brysur yn ystod y pythefnos yma achos dim ond nawr rydym ni i gyd yn ysgol!!
Hwyl fawr Cipyn Caws!
Ashleigh Jade Grzesica
Ysgol Gymraeg Rhyd-y-grug
Annwyl Cipyn Caws
Ein henwau yw Zoe ac Eleri. Rydw i, Eleri, yn byw ym Medlinog ac mae Zoe yn byw
yn Nhreharris. Rydym yn hoffi celf a chrefft. Mae Zoe eisiau bod yn artist a
fi eisiau bod yn filfeddyg. Ein ffrindiau gorau yw Chloe, Cerys a Megan.
Rydym yn ffrindiau gorau!! Rydw i Eleri yn hoffi Mwy o Jôcs Cipyn Caws.
Hwyl fawr
Annwyl
Cipyn Caws
Ein henwau ni yw Joshua O’Keeffe a Kyle Thomas. Rydym ni yn wyth oed ac ni’n
cefnogi Manchester United a Chymru ym mhêl-droed.
Mae Joshua yn byw yn Merthyr Vale ac rydw i yn byw yn Edwardsville.
Enw ein hysgol yw Rhyd-y-Grug. Ein hathrawes ni yw Miss Jones. Ein ffrindiau
gorau yw Sam Prosser a Hywel Manuell. Ein hoff chwaraeon ni yw pêl-droed.
Rydyn ni ym mlwyddyn pedwar.
Hwyl am nawr!
Kyle a Joshua
Hwyl fawr Cipyn Caws
Oddi wrth
Luci Sirrell a Bethan Veale
Hwyl
Luke a Callum
Annwyl Cipyn Caws
Ein henwau ni yw Megan a Georgia. Rwy’n byw yn Edwardsville ac mae Georgia yn
byw yn Aberfan. Rydyn ni’n hoffi darllen Cip yn y tŷ! Ni’n brysur iawn
yn ysgrifennu llythyron ato chi.
Megan a Georgia
x x x x x
Annwyl
Cipyn Caws
Ein henwau ni yw Gerwyn Morris a Sam Griffin. Ein hoedran ni yw wyth. Ein hoff
liwiau ni yw coch a glas. Rydyn ni'n hoffi Busted. Rydw i yn byw yn Aberfan ac
mae Sam yn byw yn Mynwent y Crynwyr. Rydw i yn chwarae pêl‑droed ac mae Sam yn
chwarae rygbi.
Hwyl
Sam a Gerwyn
Cofion cynnes