iawbach.gif (3823 bytes)  

Taflen athrawon iaw! Chwefror 2006

Croeso i iaw! mis Chwefror.  Cofiwch fod y daflen hon ar safle'r Urdd ar y we - urdd.org  Mae croeso i chi argraffu copďau ychwanegol ohoni i staff eich adran.  Byddem yn falch o dderbyn eich sylwadau ar y cylchgrawn ac ar y daflen hon eleni, er mwyn sicrhau bod yr adnoddau hyn yn cael y defnydd gorau yn eich gwersi. 

 


Tudalen 4 5 Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Defnyddiwch baent gwyn i guddio bob un o'r geiriau sydd yn y Bocs Geirfa lle maen nhw'n ymddangos yn yr erthygl.  Gwnewch gopďau o'r tudalennau a rhowch un copi i bob pâr i lenwi'r bylchau yn gywir. Mae un camgymeriad yn y cylch cyntaf ar dudalen 5 - gofynnwch i'r disgyblion ei ffeindio!

Tudalen 7 8 Charlotte Church

Gwnewch gopďau o'r bocs Ffeil Ffeithiau ar dudalen 8.  Torrwch y wybodaeth yn gwestiynau ac atebion a rhowch y cyfan mewn amlen - un i bob grwp.  Tasg y grwpiau ydy matsio'r ateb a'r cwestiwn cywir i ail adeiladu'r ffeil ffeithiau.

Nawr rhowch gopi o'r ffeil ffeithiau i bob disgybl i'w lenwi eu hunain.  Casglwch nhw i gyd a'u rhoi mewn amlen fawr.  Gofynnwch i un o'r disgyblion ddewis un ffeil ffeithiau o'r amlen a'i ddarllen i weddill y dosbarth. Ydi'r plant yn gallu dyfalu ffeil ffeithiau pwy ydi o?

Tudalen 12 13 Bywyd Beks

Ar ôl darllen y cyfweliad gyda Beks, dywedwch wrth y disgyblion ddychmygu mai nhw ydi Beks, ac ysgrifennu tri ddiwrnod o'i dyddiadur.  Dylai'r cyntaf fod dair mlynedd yn ôl, y diwrnod roedd Beks ac Ela yn gadael Cymru ac yn symud at Rhodri i Hong Kong, dylai'r ail fod wythnos ar ôl cyrraedd Hong Kong a dylai'r trydydd fod eleni, a'r teulu bellach wedi hen setlo yno.  Gall rhai o'r disgyblion mwyaf hyderus ddarllen mwy o hanes Beks yn ei chyfres o erthyglau ar wefan BBC Cymru - www.bbc.co.uk/cymru gan glicio ar Tramor, Asia a Hong Kong. 

Tudalen 14 15 Gwaith Cartref Maths

Cyn darllen y stori yma esboniwch mai stori am waith cartref, wedi ei gosod un gyda'r nos, sy'n gyfres o ebyst rhwng dau ffrind o'r enw Garmon ac Elis ydi'r stori fer y mis yma.  Rhowch destunau yr ebyst i'r disgyblion a dywedwch wrthyn nhw ddyfalu beth sy'n digwydd yn y stori… At Garmon: Heia! At Elis: Ateb Heia! At Garmon: Diolch At Elis: Help! At Garmon: Ateb Help At Elis: Elis! At Garmon: Paid a Phoeni! At Elis: Help! At Garmon:Ti'n poeni gormod! At Elis: Stopia! At Elis: Wedi gorffen!

At Garmon: Ti yna?! At Elis: Rhyw Hwyr! At Garmon: Paid mynd At Garmon: Garmon.  Yna darllenwch y stori i weld oedden nhw'n agos o gwbwl.

Tudalen 16 Os gwelwch yn dda ga'i grempog?

Rhowch enwau'r chwe gwlad ar y bwrdd du a holi'r disgyblion beth sy'n arbennig am grempogau bob gwlad.  Yna darllenwch yr erthygl fel dosbarth i weld oedden nhw'n gywir. 
 

Mis Mawrth yn iaw!

·         Maggot a'r Goldie Lookin Chain

·         Pen-blwydd Hen Wlad Fy Nhadau

·         Gemau'r Gymanwlad