iawbach.gif (3823 bytes)

 

Taflen athrawon iaw! Hydref 2005

Croeso i iaw! mis Hydref.  Cofiwch fod y daflen hon ar safle'r Urdd ar y we - urdd.org  Mae croeso i chi argraffu copïau ychwanegol ohoni i staff eich adran.  Byddem yn falch o dderbyn eich sylwadau ar y cylchgrawn ac ar y daflen hon eleni, er mwyn sicrhau bod yr adnoddau hyn yn cael y defnydd gorau yn eich gwersi.  Diolch am ddefnyddio'r cylchgrawn eleni.
 


Tudalennau 1 8 9 Clawr a Jem

Gofynnwch i'r dosbarth ydyn nhw'n adnabod y ferch ar y clawr.  Chwaraewch un o draciau Jem i'r dosbarth cyn gwneud gwaith arni.  Cyn darllen yr erthygl amdani rhowch y brawddegau canlynol i'r dosbarth, a dylen nhw benderfynu, mewn grwpiau, pa ffeithiau sy'n gywir. 

  1. Albwm gyntaf Jem ydy Finaly Woken.
  2. Enw iawn Jem ydi Jemma Jones.
  3. Mae Jem yn 22 oed.
  4. Wish I oedd thema'r rhaglen deledu Big Brother.
  5. Canodd Jem yn Glastonbury ac yn V dros yr haf.
  6. Astudiodd Jem y gyfraith ym Mhrifysgol Brighton.
  7. Mae Britney yn canu un o ganeuon Jem - Nothing Fails.
  8. Cân Jem, Come on Closer, oedd trailer Desperate Housewives yn America.

Atebion: 1. cywir  2. Enw iawn Jem ydi Jemma Grifiths.  3. Mae Jem yn 29 oed.  4. Wish I oedd thema Celebrity Love Island  5. Cywir.  6. Cywir.  7. Madonna sy'n canu Nothing Fails.  8. Cywir

Tudalennau 3 George yn casglu mwyar duon

Cyn darllen cartŵn George dangoswch gopi i'r dosbarth gan guddio'r Geirfa ar waelod y dudalen.  Gan edrych ar y lluniau gofynnwch beth ydy mwyar duon, beth ydy powlen, tarw, tarten, gwenyn ac yn y blaen. 

Tudalennau 10 11 Smygu

Rhowch y brawddegau hyn i'r dosbarth i fatsio hanner cyntaf ac ail hanner y brawddegau.

1.  Ar hyn o bryd, mae hi'n anghyfreithlon…

2.  Ond, mae 70% o bobl ifanc Prydain o dan 16 oed…

3.  Mae tua 17 miliwn o sigaréts yn cael eu hysmygu…

4.  Mae pobl ifanc o dan 16 oed yn …

5.  Mewn arolwg diweddar gan y BBC, dywedodd 4 allan o 5 y dylai fod…

a. …yn anghyfreithlon i werth sigaréts i bobl o dan 18 oed.

b. …yn dweud bod prynu sigaréts yn hawdd.

c. …gwerthu sigaréts i blant dan 16 oed.

ch. …gan bobl ifanc dan 16 oed bob wythnos.

d. …gwario tua £135 miliwn ar sigaréts bob blwyddyn.

Tudalennau 14 15 Cyfweliad Jacob

Ar ôl darllen y stori gofynnwch i'r disgyblion ddychmygu mai nhw ydy Jacob.  Dylen nhw ysgrifennu pedwar diwrnod o ddyddiadur fel a ganlyn.  Diwrnod 1 - Diwrnod derbyn y llythyr yn ei wahodd i gyfweliad.  Diwrnod 2 - Diwrnod y stori.  Diwrnod 3 - diwrnod ar ôl y stori - diwrnod y cyfweliad go iawn.  Diwrnod 4 - Wythnos ar ôl diwedd y stori - ar ôl ei ddiwrnod cyntaf yn gweithio yn y siop.
 

 Mis Tachwedd yn iaw!

·         Haka Seland Newydd

·         Trafod bwyd ysgol

·         Rhieni

·         Siopa ar y we