iawbach.gif (3823 bytes)  

Taflen athrawon iaw! Ionawr 2006

Croeso i iaw! mis Ionawr.  Cofiwch fod y daflen hon ar safle'r Urdd ar y we - urdd.org  Mae croeso i chi argraffu copïau ychwanegol ohoni i staff eich adran.  Byddem yn falch o dderbyn eich sylwadau ar y cylchgrawn ac ar y daflen hon eleni, er mwyn sicrhau bod yr adnoddau hyn yn cael y defnydd gorau yn eich gwersi.  Diolch am ddefnyddio'r cylchgrawn eleni a blwyddyn newydd dda i chi a'ch disgyblion.
 


Tudalen 4 5 Harry Potter and the Goblet of Fire

Ar ôl darllen yr erthygl rhowch enwau'r ffilmiau canlynol i'r dosbarth iddyn nhw benderfynu pa dystysgrif maen nhw'n meddwl sydd i'r ffilm:  The Chronicles of Narnia: The Lion, the Witch and the Wardrobe (PG); The Incredibles (PG); James Bond: Die Another Day (12); Four Weddings and a Funeral (15); Bugs Life (U); Pride and Prejudice (PG); Legend of Zorro (PG).

Gall y disgyblion sydd wedi gweld Harry Potter and the Goblet of Fire ysgrifennu adolygiad byr ohoni, neu ysgrifennu paragraff yn esbonio pam eu bod nhw'n ffan o Harry Potter (neu beidio!).

Tudalen 8 9 Dewch i Ddawnsio

Ar ôl darllen yr erthygl, rhowch y cwestiynau canlynol i'r dosbarth.  Mae'r atebion i'w cael ar wefan Strictly Come Dancing - bbc.co.uk/strictlycomedancing

  1. Beth ydy cyfenw Camilla? (Dallerup)
  2. Enwch y pedwar beirniad. (Arlene Phillips, Bruno Tonioli, Craig Revel Horwood a Len Goodman)
  3. Pa ddawns ydy'r un mwyaf poblogaidd yng Ngharnifal Rio - y samba neu'r foxtrot? (y samba)
  4. Pwy oedd y pâr cyntaf i adael y gystadleuaeth?  (Siobhan Hayes a Matthew Cutler)
  5. Pwy oedd yn cyflwyno It Takes Two? (Claudia Winkleman)
  6. Pwy oedd yn dawnsio efo Patsy?  (Anton Du Beke)
  7. Pwy oedd yn dawnsio gyda Lilia Kopylova llynedd? (Aled Jones)
  8. Pwy ydy partner go iawn Erin Boag? (Anton Du Beke)
  9. Sawl test match mae Darren Gough wedi ei chwarae i Loegr? (58)
  10. Ym mha wythnos wnaeth Fiona Philips adael y gystadleuaeth? (Wythnos pedwar)

Tudalennau 10 11 Cofio Auschwitz

Ar ôl darllen yr erthygl, dywedwch wrth y disgyblion edrych yn y bocs Geirfa a ffeindio'r gair Cymraeg am:

mwy nag un corff; mwy nag un cawod; person sy'n cynllunio adeiladau; gair croes i heddwch; gair am ddisgwyl babi; gair croes i genedigaeth; gair am seremoni o addoli; gair croes i gwan; mwy nag un gwersyll; mwy nag un milwr.  Os hoffech chi fel ysgol gynnal digwyddiad neu wasanaeth i nodi Diwrnod Cofio'r Holocaust mae croeso i chi gysylltu â Catrin Evans, Swyddog Urddaholics De Cymru am syniadau neu fanylion pellach: CatrinE@urdd.org / 02920 635685

 Mis Chwefror yn iaw!

·         Adeilad y Cynulliad

·         Beks yn Hong Kong

·         Charlotte Church

·         Dydd Mawrth Crempog