iawbach.gif (3823 bytes)

 

Taflen Athrawon iaw! Medi 2005

Croeso i iaw! mis Medi.  Cofiwch fod y daflen hon ar safle'r Urdd ar y we - urdd.org  Mae croeso i chi argraffu copïau ychwanegol ohoni i staff eich adran.  Byddem yn falch o dderbyn eich sylwadau ar y cylchgrawn ac ar y daflen hon eleni, er mwyn sicrhau bod yr adnoddau hyn yn cael y defnydd gorau yn eich gwersi.  Diolch am ddefnyddio'r cylchgrawn eleni.
 


Tudalennau 1 8 9 Clawr a Stereophonics

Rhowch sticeri post-it bach dros y clawr, gyda rhif ar bob un (neu fis/ neu unrhyw gasgliad o eirfa rydych chi'n awyddus i'w adolygu).  Yn eu tro, rhaid i'r disgyblion ddewis un o'r sticeri i'w tynnu i ffwrdd, a dyfalu llun pwy ydi'r prif lun ar y clawr.

Chwaraewch un o draciau'r Stereophonics i'r dosbarth cyn darllen yr erthygl amdanyn nhw.  Rhowch y cwestiynau hyn i'r dosbarth eu hateb:

1. Pwy sy'n chwarae'r gitâr fâs i'r Stereophonics? 

2. Beth oedd enw trydydd albwm y Stereophonics?

3. Ym mha flwyddyn enillodd y Stereophonics Best New Group yn y Brits?

4. O ble mae Javier Weyler yn dod?

5. Beth oedd enw gwreiddiol y Stereophonics?

6. Beth oedd dyddiad Live8?

7. Pryd mae Stereophonics yn chwarae yng Nghaerdydd?

8. Beth oedd enw'r sengl aeth i rif un yn y siartiau?

Tudalennau 10 11 Affrica

Gwnewch gopïau o'r erthygl hon a'i thorri fyny yn baragraffau a theitlau.  Rhowch un set i bob grwp a dywedwch wrth y grwpiau ail adeiladu'r erthygl gan fatsio'r teitl cywir i bob paragraff.

Tudalennau 14 15 Copa'r Wyddfa

Gwnewch gopïau  o dudalen  14 gan ddileu pob bair sydd yn y bocs Geirfa.  Dywedwch wrth y disgyblion lenwi'r bylchau gan edrych ar y bocs ar dudalen 15 yn unig.

Tudalen 16 Fy Nghas Bethau

Mae Stephanie yn sôn am bum cas beth.  Dywedwch wrth y disgyblion ysgrifennu rhestr o bump peth nad ydyn nhw yn eu hoffi.  Yna, cliriwch le yn yr ystafell ddosbarth neu ddefnyddio man agored.  Enwch un ochr yn wal Caru a'r ochr gyferbyn yn wal Casáu.   

Darllenwch y rhestr isod o bethau mae Stephanie yn eu casáu, a gofynnwch i'r disgyblion eu gosod eu hunain ar linell ddychmygol rhwng y ddwy wal yn ôl faint maen nhw'n hoffi neu ddim yn hoffi'r peth dan sylw.  Holwch y disgyblion pam dewison nhw eu safle arbennig.  Yna defnyddiwch rai o restrau'r disgyblion i weld pwy sy'n cytuno gyda chas bethau ei gilydd.

lifftiau; pryfaid cop; ysgewyll; arholiadau; Coronation Street
 

  Mis Hydref yn iaw!

·         Jem

·         Ysmygu mewn llefydd cyhoeddus

·         Stori fer

·         Les Mis yn y West End

·         Caerdydd yn dathlu