![]() |
|
Taflen athrawon iaw! Rhagfyr 2005 Croeso i iaw! mis Rhagfyr. Cofiwch fod daflen hon ar safle'r Urdd ar y we - urdd.org Mae croeso i chi argraffu copïau ychwanegol ohoni i staff eich adran. Byddem yn falch o dderbyn eich sylwadau ar y cylchgrawn ac ar y daflen hon eleni, er mwyn sicrhau bod yr adnoddau hyn yn cael y defnydd gorau yn eich gwersi. Diolch am ddefnyddio'r cylchgrawn eleni a Nadolig llawen iawn i chi a'ch disgyblion. |
|
Cyn darllen yr erthygl yma, rhowch y ffigyrau canlynol ar y bwrdd gwyn/ du. Dywedwch bod y ffigyrau i gyd yn ymddangos mewn erthygl ar gêm Scrabble newydd yn y Gymraeg. Dyfalwch gyda'r dosbarth beth ydi arwyddocâd y ffigyrau i gyd: 29, 1932, 1,800,000, 121, 100 miliwn, 1991, 1952. Ar ôl dyfalu esboniad i bob rhif, rhowch y dewisiadau canlynol i'r dosbarth, a dylai pawb fatsio un rhif gydag un ffaith. Wrth ddarllen yr erthygl cewch weld pwy sydd wedi dyfalu yn gywir 1. Blwyddyn cynnal Pencampwriaeth y Scrabble y Byd am y tro cyntaf. (1991) 2. Blwyddyn dyfeisio Scrabble. (1932) 3. Blwyddyn gwerthu Scrabble yn siop Macy's yn Efrog Newydd am y tro cyntaf. (1952) 4, Mae Scrabble ar gael mewn ______ iaith. (29) 5. Mae Scrabble ar werth mewn ______ gwlad. (121) 6. Y nifer o eiriau gafodd eu bwydo i gyfrifiadur i baratoi'r Scrabble Cymraeg. (1,800,000) 7. Y nifer o setiau Scrabble sydd wedi eu gwerthu dros y byd. (100 miliwn) Tudalen 6 7 Gweithlen Y Parti Rhowch ddarn o bapur A4 i bob disgybl. Dywedwch wrthynt ddychmygu eu bod nhw mewn parti Nadolig. Ble mae'r parti? Mae'r disgyblion yn ysgrifennu ar y papur, ei blygu, yna'i roi i'r person ar y dde. Holwch pa ddyddiad mae'r parti? Faint o'r gloch mae'r parti'n dechrau? Pwy sydd yn y parti? Pa fwyd sydd yn y parti? Pa gerddoriaeth sydd yn y parti? Faint o'r gloch mae'r parti'n gorffen? Mae'r disgyblion yn sgwennu ateb i bob cwestiwn, yn plygu'r papur a'i basio mlaen. Ar y diwedd mae'r disgyblion yn darllen yr atebion. Gofynnwch ydych chi'n hoffi'r parti? Pam? Pam ddim? Tudalennau 8 9 Catrin Finch Gwnewch gopïau o'r erthygl, gan dorri'r wybodaeth ar dudalen 9 yn gwestiynau ac atebion. Rhowch set o'r cwestiynau a'r atebion i bob grwp a dweud wrth y disgyblion ail adeiladu'r cyfweliad. Tudalennau 14 15 Little Britain
Dangoswch glawr iaw! i'r
dosbarth a holi pwy sy'n hoffi Little Britain. Gofynnwch
iddyn nhw enwi eu hoff gymeriadau ar y sioe. Os oes rhai disgyblion sydd
ddim yn edrych ar y gyfres gofynnwch i rai o'r ffans ddweud ychydig am y
gyfres wth y gweddill. Gallwch ddangos pwt o'r rhaglen i'r dosbarth
efallai. Mae gweithgaredd pellach ar ochr arall y daflen hon. Mis Ionawr yn iaw! · Colin Jackson yn Strictly Come Dancing · Llysieuwyr · Gemau Olympaidd Llundain
|