![]() |
|
Taflen athrawon iaw!
Tachwedd 2005 |
|
Rhannwch y dosbarth yn grwpiau o wyth a dywedwch wrthy disgyblion ddewis un llythyr yr un. Dylen nhw ddarllen y llythyr hwnnw yn unig, astudio'r llythyr am rhyw bum munud yna adrodd y cynnwys yn ôl i weddill y grwp. Heb edrych eto ar yr erthygl, dylai'r grŵp geisio penderfynu pa lythyrwr sy'n dweud pob un o'r canlynol:
Tudalen 3 George yn y ffair Ar ôl darllen cartŵn George gall y disgyblion ysgrifennu stori am eu hymweliad nhw â'r ffair. Tudalen 4 Siopa ar y we neu beidio Ar ôl darllen erthygl Lori rhannwch y dosbarth yn grwpiau i drafod beth mae Lori yn ddweud. Dylen nhw adrodd nôl i weddill y dosbarth ar y pwyntiau canlynol: Pwy yn y grwp sydd wedi siopa ar y we? Enwch dair mantais o siopa ar y we. Tudalennau 8 9 Haka Caerdydd Ar ôl darllen yr erthygl am Seland Newydd beth am holi'r disgyblion, mewn grwpiau, i lunio eu haka eu hunain ar gyfer un o dimau chwaraeon eich ysgol chi? Gallan nhw ymarfer yr haka ac wedyn ei pherfformio hi i weddill y dosbarth. Fel gwaith cartref gall y disgyblion ffeindio tair ffaith am Fiji, De Affrica ac Awstralia i'w rhannu efo gweddill y dosbarth cyn y gemau rygbi hynny. Tudalennau 10 11 Bwyd Ysgol Dywedwch wrth y disgyblion ysgrifennu beth gawson nhw i ginio ysgol heddiw? Gallan nhw gadw dyddiadur bwyd am dri diwrnod i weld ydyn nhw'n bwyta'n iach. Gall y disgyblion llai hyderus lunio bwydlen cinio ysgol delfrydol. Tudalennau 14 15 Carioci Mae llawer o'r stori yma wedi ei hysgrifennu mewn deialog. Gall y disgyblion actio rhannau ohoni mewn grwpiau o dri. Mis Rhagfyr yn iaw! · Catrin Finch · Scrabble yn Gymraeg · Gemau Olympaidd Llundain
|