O’R NEWYDD.
Newidiadau i’r Rhestr Testunau (Tachwedd 2003).



Mae’n hanfodol fod y daflen hon yn cael ei dosbarthu yn eang rhwng pob adran o waith yr Ysgol/Adran/Aelwyd sy’n ymwneud a chystadlaethau’r Eisteddfod.


ADRAN GERDDORIAETH:

Rheolau Lleisiol
Rhif 7 (Tudalen 22 yn y Rhestr Testunau) – angen ychwanegu cystadleuaeth rhif 21 at y rhestr.

Cystadleuaeth Rhif 7
Deuawd 12 – 15 oed – Geiriau Cymraeg ar gael o Adran yr Eistedfod, Swyddfa’r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth..

Cystadleuaeth Rhif 11
Unawd Soprano 19 – 25 oed – FAURE 25 SELECTED SONGS – HIGH VOICE
yw enw cywir y llyfr.

Cystadleuaeth Rhif 39
Cyflwyno Alaw Werin Unigol 19 – 25 oed - Y Bore Glas, – copiau ar gael o Adran yr Eisteddfod, Swyddfa’r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth. Pris Ł1.00.


ADRAN CERDD DANT

Cystadleuaeth Rhif 70 -
Unawd 10 – 12 oed - ’ATSAIN’ yw’r gainc, allan o’r llyfr Lobscows, Curiad.

Cystadleuaeth Rhif 72
Deuawd dan 15 oed – Gan fod y llyfr ‘Adenydd’ wedi mynd allan o brint gellir cael y geiriau o Adran yr Eisteddfod,Swyddfa’r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth.


ADRAN LLEFARU.

Cystadleuaeth Rhif 89
Unigol 10 – 12 oed – Gan fod y llyfr ‘Adenydd’ wedi mynd allan o brint gellir cael y geiriau o Adran yr Eisteddfod, Swyddfa’r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth.


ADRAN THEATR.

Cystadleuaeth Rhif 117
Cyflwyno Drama Unigol 14 – 25 oed – 117 yw rhif cywir y gystadleuaeth nid 123 fel y nodir ar dudalen 116 o’r Rhrestr Testunau.




ADRAN DAWNSIO GWERIN.

Yn dilyn cyfarfod o Fwrdd yr Eisteddfod a’r Celfyddydau a gynhaliwyd yn ddiweddar, penderfynwyd diwygio Rheol 8 o’r Rheolau Cystadlu (Tudalen 58 yn y rhestr Testunau), fel a ganlyn:
8. Wrth ffurfio partion dawnsio gwerin, buddiol fyddai cadw mewn cof mai hanfod dawnsio gwerin yw dawnsio cymysg, a dylid anelu at hynny lle bo’n bosibl. (Dylid diddymu gweddill y rheol).

Cystadleuaeth Rhif 118 – Dawns dan 10 oed.
Dylid defnyddio Alaw 39b (tudalen 23)Y Cambro-Brython (3) o’r llyfr Blodau’r Grug.


ADRAN Y DYSGWYR.

Cystadleuaeth 167 – Parti Cerdd Dant dan 19 oed.
Os nad oes modd i chi fedru cael gafael ar y llyfr ‘Wrth y Preseb’, gellir cael y darn ‘Roedd Ser yn Ddisglair’, yn y llyfr ‘Clywch Lu’r Nef’, Gwasg Pantycelyn.


ADRAN GWAITH CARTREF.
Yn yr ystod oedran Uwchradd anogir anfon y gwaith ar ddisg ynghŷd â chopi caled.





 

 

 

 

Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru - Môn 2004