O’R NEWYDD 2 – Chwefror 2004.

Mae’n hanfodol fod y daflen hon yn cael ei dosbarthu yn eang rhwng pob adran o waith yr Ysgol/Adran/Aelwyd sy’n ymwneud a chystadlaethau’r Eisteddfod

Adran Gerddoriaeth

Cyst. Rhif 2    Unawd 8 – 10 oed – ‘Y We’ E. Olwen Jones, pennill 2 llinell 4 – Dylid canu w w w NID w driphlyg

Cyst. Rhif 3    Unawd 10 – 12 oed – ‘Ffrwd fach Loyw’, Mansel Thomas

Daeth i’n sylw fod camgymeriad wedi’w wneud wrth drawsgyweirio copi

Rhif 5028a. Mae Cwmni Gwynn yn ymddiheuiro am hyn ac os oes rhywun wedi prynu copi  drwy’r Cwmni, maent yn barod i anfon copi newydd iddynt.

Cyst. Rhif 22  Ensemble lleisiol dan 12 oed – nid oes rhaid i’r gystadleuaeth hon ymddangos yn yr Eisteddfod Cylch a Sir yn 2004.

Adran Llefaru

Cyst. Rhif 94 – Grŵp 12 – 15 oed: ‘Yn Nyddiau Herod’, Eirian Davies
Dylid sicrhau mai Detholiad  o Yn Nyddiau Herod sydd yn cael ei ddefnyddio fel geiriad i’r Rhaglen Eisteddfod Cylch a Sir. Dylid hepgor y bedair linell ola’ yn y bumed bennill. O "Yn lle’r asyn"…. i …. "y drygiau."

Cyst. 89 – Llefaru Unigol 10 – 12 oed – ‘Llythyr at Rieni’, Tudur Dylan Jones
Ymddengys fod yna rai cystadleuwyr yn dysgu y darn anghywir.
Rhaid sicrhau fod y darn wedi dod o’r llyfr  ‘Adenydd’ neu o’r Adran Eisteddfod


 

 

 

 

Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru - Môn 2004