Croeso gan Bob Parry O.B.E. Arweinydd y Cyngor

Pleser mawr iawn i mi fel Arweinydd y Cyngor yw cael datgan cefnogaeth frwd Cyngor Sir Ynys Môn i Brifwyl yr Urdd a gynhelir ym Môn ym mis Mai 2004.

Rydym yn falch fel Cyngor o ddatgan ein brwdfrydedd dros hybu treftadaeth yr ynys a’r iaith Gymraeg, ac mae cefnogi Eisteddfod yr Urdd yn ffordd ardderchog o sicrhau fod ein hieuenctid yn cael eu cyflwyno a’u meithrin yn ein llên, ein diwylliant a’n traddodiadau. Rydym yn falch o gefnogi’r Wyl drwy’r Gwasanaeth Ieuenctid a’n hysgolion. Bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2004 yn cynnig llwyfan unigryw i holl ieuenctid Cymru gael dangos eu doniau.

Edrychwn ymlaen at gael estyn croeso cynnes i’r holl blant, pobl ifanc, athrawon a rhieni fydd yn ymweld â’r ynys er mwyn mynychu’r Eisteddfod

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn estyn croeso cynnes i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i Fôn yn 2004 ac yn dymuno pob llwyddiant i’r Wyl.

 

 

 

Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru - Môn 2004