Gair o’r Gadair

Braint aruthrol i mi oedd cael fy newis yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Môn 2004. Y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Môn oedd yn 1976 ac mae’n braf iawn cael cyfle i gynnal Prifwyl yr Urdd ym Môn unwaith eto.

Yr Eisteddfod yw’r Wyl fwyaf o’i bath ar gyfer ieuenctid yn Ewrop. Mae’n Wyl ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru sy’n rhoi cyfle penigamp iddyn nhw ddangos eu doniau a chystadlu ar lwyfan cenedlaethol. Bydd tua 14,000 o gystadleuwyr a hyd at 100,000 o ymwelwyr o bob rhan o Gymru’n ymweld â’r Eisteddfod. Ar y maes bydd stondinau lu a chyfle i gymryd rhan mewn pob math o weithgaredd o arlunio i ddringo waliau. Mae’r cystadlaethau llwyfan yn cynnwys canu, llefaru, dawnsio gwerin, dawnsio disgo, cerddoriaeth roc, dramau a llenyddiaeth. Fe fydd yna hefyd y prif gystadleuaethau – y Gadair, y Goron, y Fedal Lenyddiaeth, Medal y Dysgwyr, y Fedal Ddrama a Thlws y Cerddor.

Cynhelir Eisteddfod yr Urdd mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru bob blwyddyn i’w 50,000 o aelodau rhwng 8 a 25oed. Rydw i mor falch mai ni fydd yn cael y fraint o groesawu’r Eisteddfod nesaf. Caiff y plant a’r bobl ifanc brofi cynhesrwydd ein croeso, a chawn ninnau fwynhau eu cwmni a’u talentau hwy. Mae’r Eisteddfod yn para am wythnos ac fe fydd digwyddiadau o fore gwyn tan nos. Cystadlu iach a brwd rhwng y plant a’r bobl ifanc ydi hanfod yr Eisteddfod ac rwy’n gwybod fod gwledd yn ein haros.

Mi fyddai hyn i gyd yn amhosib, wrth gwrs, heb gefnogaeth trigolion yr ynys. Eisoes bu criw diwyd wrthi’n paratoi’r ffordd ac wrth ddatgan fy niolch i’r Cyngor am eu cefnogaeth hwythau, apeliaf at bawb i wneud eu rhan i sicrhau fod yr Eisteddfod hon a gynhelir ym Môn yn 2004 yr orau eto.

Gyda’ch cymorth chwi, rydw i’n sicr y bydd hi!

Derek Evans,

Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith

Eisteddfod Urdd Gobaith Cymru Môn 2004

 

 

 

Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru - Môn 2004