Cynllun Gwlad Pwyl
 
Ymweliad a Cartref Plant yn Legnicia,
Gwlad Pwyl, Ebrill 2001

Estyn Dwylo Dros y Môr
Yn ystod mis Ebrill bydd criw o 12 o’r Urdd yn teithio i Wlad Pwyl fel rhan o brosiect Cyd-ddyn a Christ yr Urdd. Bydd 2 o staff yr Urdd, cyfieithydd a naw Urddaholic yn mynd i gyd.Byddwn yn ymweld â chartref plant yn Legniza ac yn treulio wythnos yn eu cwmni. Mae’n gartref i 44 o blant amddifad ac ar ein ymweliad byddwn yn rhoi cymorth i addurno’r adeilad a gwneud gwaith cynnal a chadw cyffredinol.

Wrth drafod ein hymweliad gyda phrifathro’r ysgol nododd, "mae plant yr ysgol yn frwd iawn i gyfarfod a phlant o Gymru ac maent yn awyddus i estyn cyfeillgarwch tuag atoch".

Mae dros £2000 wedi ei godi yn barod ac mae nifer o roddion gennym i roi. Am y tro cyntaf bydd cyfle i ddarllen Neges Ewyllys Da yng Nghymraeg a Phwyleg mewn gwasanaeth eglwysig ac edrychwn ymlaen i gael y profiad o ganu iddynt yn eu gwasanaeth.

Mae’n sicr bydd y disgyblion ysgol o Gwyr, Cwm Rhymni, Glantaf a Llanhari yn cynrychioli Cymru yn arbennig ac edrychwn ymlaen i groesawu y plant amddifad yn ôl i Gymru yn ystod yr haf.


Pwy sy'n mynd ar y daith? Pam mae'n nhw eisiau mynd?

Dyfan
Powel (Treforus)
Fy enw i yw Dyfan Powel. Rwy'n byw yn nrheforus. Mae'r llythyr yma wedi dechrau yn eithaf boring. Mae diddordeb gyda fi yng Ngrhiced. Rwyn mynd i weld Morgannwg yn aml ac yn chwarae i Dreforus. Rwy'n hoffi cerddoriaeth, The Clash, Beatles, Green Day, SFA, Sex Pistols, Paul Simon..........a.y.y.b.

Gwnes i helpu i godi'r arian i wlad Pwyl drwy helpu drefnu boreuon coffi, rafflau a gemau pel rhwyd yn erbyn r athrawon a gan wneud casgliad yn y capel. Rwyf a diddordeb i barhau gyda gwaith gwirfoddol yn y dyfodol ac rwyn aelod o gapel fellu wedu neidio at y cyfle yma i fynd i Pwyl.

Gwenllian Glyn (Ysgol Gyfun Glantaf, Caerdydd)
DYDDIAD GENI:    7/2/84 (17 oed)

PYNCIAU LEFEL A:  Cymraeg, Cerdd, Cymdeithaseg a Daearyddiaeth
BLWYDDYN YSGOL:  12
DIDDORDEBAU:  Actio, Canu, Cymdeithasu a chael hwyl!
 
PAM YDW I EISIAU MYND I WLAD PWYL?:  Rydw i'n mwynhau helpu pobl sy'n llai ffodus na fi - mae'n rhoi hwb a phleser i mi i roi gwen ar eu gwynebau.  Dwi'n edrych ymlaen i wneud ffrindiau newydd allan yna hefyd a rydw i'n benderfynol ein bod ni i gyd yn mynd i gael amser gwych a llawn hwyl!  Rydw i'n gobeithio y cawn ni amser bythgofiadwy a rydw i'n edrych ymlaen yn fawr am y sialens.
 
FFYRDD O GODI ARIAN:  Ar hyn o bryd rydw a Ellie o Lantaf wedi codi tua £800 a'n gobaith yw i godi hyd yn oed mwy er mwyn mynd â'r arian yma allan i Wlad Pwyl.  Rydym wedi cynnal nifer o weithgareddau er mwyn casglu'r arian yma - diwrnod gwisg anffurfiol, cael 3 o fechgyn i ail-ddweud popeth am ddiwrnod cyfan a chael pobl i'w noddi, cystadleuaeth pel-rwyd, perswadio athrawes i wisgo fyny fel tedi-ber a mewn gwisg nofio o'r 1920au(!) a cherdded o amgylch y dosbarthiadau â bwcedi lliwgar.  Rydym yn gobeithio hefyd mynd i Tescos i bacio bagiau cwsmeriaid, cynnal gig ym mloc y 6ed a shavio side-locks aelod o'r 6ed i ffwrdd os yw amser yn caniatau gan fod amser yn mynd yn brin!

Llinos Madeley (Ysgol Gyfun Cwm Rhymni)
Fy enw i yw Llinos Madeley ac rydw i'n aelod o Chweched Dosbarth Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Fe benderfynais i i geisio am le ar y daith er mwyn ennill y cyfle i ddysgu ynglyn a diwylliant arall, hollol newydd ac ar y run pryd, dysgu pobl gwlad Pwyl am ddiwylliant Cymru. Yn ogystal a hynny, roeddwn i'n ymwybodol iawn o fywydau caled plant amddifad y cartref - gobeithio bydd ein hymweliad ni o fydd i nhw ac yn rhywbeth iddyn nhw i gyffroi ynghylch gymaint ag yr ydw i. Rydw i a Rhian (aelod arall y grwp o Gwm Rhymni) wedi bod yn brysur yn codi arian! Cynhalwyd disgo i flwyddyn 7 ac 8 a wnaeth ennill £200 i'r achos; diwrnod gwisg rhydd a gododd £500; raffl pel rygbi wedi'i harwyddo gan garfan rygbi Cymru (heb gasglu'r holl arian eto); gem pelrwyd rhwng y staff a'r chweched - £30 ac yn olaf, rydym yn cynnal cwis nos Iau nesaf (29/3) yng Nghlwb Tenis Caerffili.

Rhian Hodges - Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
Siwmae ! F'enw i yw Rhian Hodges rwyf yn 17 mlydd oed ac yn mynychu Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Ar hyn o bryd rwyf yn astudio'r pynciau AS canlynol, Ast.Gref , Cymraeg  ,Saesneg a Chymdeithaseg.(Ond digon o'r manylion diflas!!!) Rwy'n hoffi cerddoriaeth yn enwedig Catatonia, sa i'n gallu aros am eu halbwm newydd, bysedd wedi'u croesi mi fydd cystal a'r gweddill!!

O'n hysgol ni, Llinos Madeley a finnau sy'n mynd ac rydym wedi bod yn brysur iawn yn paratoi am y daith! Mae rhai o'n syniadau codi arian yn cynnwys cynnal disgo i flynyddoedd 7 ac 8 o fewn ein hysgol. Diolch i ddisgyblion iau yr ysgol am eu holl gefnogaeth frwd!! Chwaraeon ni gem Pel- Rwyd y chweched yn erbyn yr athrawon,  yn naturiol y chweched bu'n fuddugol! Roedd gofyn i bawb dyfalu sgor y gem Pel - Rwyd! Unwaith yn rhagor rwyf moyn dweud diolch o galon i'r holl athrawon sydd wedi bod yn hollol gefnogol i Llinos a finnau , diolch hefyd am eu haelusrwydd! Un syniad arall oedd syniad gwych Llinos o gynnal noson cwis yng Nghlwb Tenis Caerffili - roedd hyn yn hynod o lwyddiannus, diolch eto. Ar ben y syniadau yma roedd ganddyn ni cyfres o rafflau yn cael eu rhedeg wedi'u noddi gan y siop gyferbyn a'r ysgol trwy gyfrannu wobrau i'w hennill. Diolch iddynt am eu amynedd a chefnogaeth! (Mae'r nodyn yma yn dechrau swnio fel un o'r areithiau 'diolch' yr Oscars!!!) Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at y daith gan gredaf mi fydd yn brofiad bythgofiadwy.

Nôl