Cynllun Gwlad Pwyl
Poland Project
|
Ymweliad a
Cartref Plant yn Legnicia,
Gwlad Pwyl, Ebrill 2001
Visit to an orphange
in Legnicia, Poland, April 2001 |
Estyn Dwylo Dros y Môr
Reaching across the sea
Yn ystod mis Ebrill bydd criw o 12 o’r Urdd yn
teithio i Wlad Pwyl fel rhan o brosiect Cyd-ddyn a Christ yr Urdd.
Bydd 2 o staff yr Urdd, cyfieithydd a naw Urddaholic yn mynd i
gyd. Byddwn yn ymweld â chartref plant yn Legnicia ac yn treulio wythnos
yn eu cwmni. Mae’n gartref i 44 o blant amddifad ac ar ein ymweliad
byddwn yn rhoi cymorth i addurno’r adeilad a gwneud gwaith cynnal a
chadw cyffredinol.
During April, 9 Urddaholic will travel to Poland as part of a project
by the Urdd. 2 staff members and a translator will make up the rest of
the group. We will be visiting an orphanage in Legnicia and spending a
week in their company. It is home to 44 orphans, and we will help to
decorate the building, and general maintenance work.Wrth drafod ein
hymweliad gyda phrifathro’r ysgol nododd, "mae plant yr ysgol yn frwd
iawn i gyfarfod a phlant o Gymru ac maent yn awyddus i estyn
cyfeillgarwch tuag atoch".
Whilst discussing our visit with
the school's headmaster, he said "The children are very enthustiastic
about meeting children from Wales, and they would like to extend their
friendship towards them."
Mae dros £2000 wedi ei godi yn barod ac mae
nifer o roddion gennym i roi. Am y tro cyntaf bydd cyfle i ddarllen
Neges Ewyllys Da yng
Nghymraeg a Phwyleg mewn gwasanaeth eglwysig ac edrychwn ymlaen i gael
y profiad o ganu iddynt yn eu gwasanaeth.
Over £2000 has been raised
already, and we have a number of gifts to give. For the first time,
there is an opportunity to read the
Message of Peace and Goodwill in
Welsh and Polish in a Church Service, and we look forward to the
experience of singing to them.
Mae’n sicr bydd y disgyblion ysgol o Gwyr, Cwm
Rhymni, Glantaf a Llanhari yn cynrychioli Cymru yn arbennig ac
edrychwn ymlaen i groesawu y plant amddifad yn ôl i Gymru yn ystod yr
haf.
I'm sure that the pupils from
Gwyr, Cwm Rhymni, Glantaf, and Llanhari will represent Wales
brilliantly and we look forward to welcome the orphans back to Wales
during the Summer.
Pwy sy'n mynd ar y daith? Pam mae'n nhw
eisiau mynd?
Who is going on the trip? Why do
they want to go?
Dyfan Powel (Treforus)
Fy enw i yw Dyfan Powel. Rwy'n byw yn nrheforus. Mae'r
llythyr yma wedi dechrau yn eithaf boring. Mae diddordeb gyda fi yng
Ngrhiced. Rwyn mynd i weld Morgannwg yn aml ac yn chwarae i Dreforus.
Rwy'n hoffi cerddoriaeth, The Clash, Beatles, Green Day, SFA, Sex
Pistols, Paul Simon..........a.y.y.b.
Gwnes i helpu i godi'r arian i wlad
Pwyl drwy helpu drefnu boreuon coffi, rafflau a gemau pel rhwyd yn
erbyn yr athrawon a gan wneud casgliad yn y capel. Rwyf a diddordeb i
barhau gyda gwaith gwirfoddol yn y dyfodol ac rwyn aelod o gapel felly
wedu neidio at y cyfle yma i fynd i Pwyl.
My name is
Dyfan Powel. I live in Treforus. I like cricket. I go to watch
Glamorgan play often, and I play for Treforus. I like music,
especially The Clash, Beatles, Green Day, SFA, Sex Pistols, Paul
Simon.... etc.
I helped to raise
money for Poland by organising coffee mornings, raffles, netball games
against our teachers, and a collection in the Chapel. I plan to
continue my voluntary work in the future, and I am also a member of a
Chapel, so have jumped at this chance to go to Poland.
Gwenllian Glyn (Ysgol Gyfun Glantaf,
Caerdydd)
DYDDIAD GENI: 7/2/84 (17 oed)
PYNCIAU LEFEL A: Cymraeg, Cerdd, Cymdeithaseg a
Daearyddiaeth
BLWYDDYN YSGOL: 12
DIDDORDEBAU: Actio, Canu, Cymdeithasu a chael
hwyl!
PAM YDW I EISIAU MYND I WLAD PWYL?: Rydw i'n
mwynhau helpu pobl sy'n llai ffodus na fi - mae'n rhoi hwb a phleser
i mi i roi gwen ar eu gwynebau. Dwi'n edrych ymlaen i wneud
ffrindiau newydd allan yna hefyd a rydw i'n benderfynol ein bod ni i
gyd yn mynd i gael amser gwych a llawn hwyl! Rydw i'n gobeithio y
cawn ni amser bythgofiadwy a rydw i'n edrych ymlaen yn fawr am y
sialens.
FFYRDD O GODI ARIAN: Ar hyn o bryd rydw a Ellie
o Lantaf wedi codi tua £800 a'n gobaith yw i godi hyd yn oed mwy er
mwyn mynd â'r arian yma allan i Wlad Pwyl. Rydym wedi cynnal nifer
o weithgareddau er mwyn casglu'r arian yma - diwrnod gwisg
anffurfiol, cael 3 o fechgyn i ail-ddweud popeth am ddiwrnod cyfan a
chael pobl i'w noddi, cystadleuaeth pel-rwyd, perswadio athrawes i
wisgo fyny fel tedi-ber a mewn gwisg nofio o'r 1920au(!) a cherdded
o amgylch y dosbarthiadau â bwcedi lliwgar. Rydym yn gobeithio
hefyd mynd i Tescos i bacio bagiau cwsmeriaid, cynnal gig ym mloc y
6ed a shavio side-locks aelod o'r 6ed i ffwrdd os yw amser yn
caniatau gan fod amser yn mynd yn brin!
Date of Birth: 7/2/84 (17
yrs old)
A Level Subjects: Welsh, music, sociology and
geography
School Year: 12
Interests: Acting, singing, socialising and having fun!
WHY DO I WANT TO GO TO POLAND?:
I enjoy helping people less fortunate than myself, it gives me joy
to see a smile on their faces. I am looking forward to makeing new
friends there too, and I am determined that we are going to have a
great time and a lot of fun! I hope that we will have an
unforgettable time and am looking forward to the challenge.
METHODS OF FUND RAISING: At
this moment, Ellie (also from Glantaf) and I have raised around £800
and we hope to raise more so that we can take this money out to
Poland. We have organised a number of activities - informal clothes
day at school, got 3 boys to repeat everything said for a whole day,
and got people to sponsor them, a net-ball tournament, persuaded a
teacher to dress up like a teddy bear, and to wear a swimming
costume from the 1920s (!). We also walked around classrooms with
buckets collecting money. We also hope to go to Tesco's to pack
bags, have a gig in the 6th form block.
Llinos Madeley (Ysgol Gyfun Cwm Rhymni)
Fy enw i yw Llinos Madeley
ac rydw i'n aelod o Chweched Dosbarth Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Fe
benderfynais i i geisio am le ar y daith er mwyn ennill y cyfle i
ddysgu ynglyn a diwylliant arall, hollol newydd ac ar y run pryd,
dysgu pobl gwlad Pwyl am ddiwylliant Cymru. Yn ogystal a hynny,
roeddwn i'n ymwybodol iawn o fywydau caled plant amddifad y cartref -
gobeithio bydd ein hymweliad ni o fydd i nhw ac yn rhywbeth iddyn nhw
i gyffroi ynghylch gymaint ag yr ydw i. Rydw i a Rhian (aelod arall y
grwp o Gwm Rhymni) wedi bod yn brysur yn codi arian! Cynhalwyd disgo i
flwyddyn 7 ac 8 a wnaeth ennill £200 i'r achos; diwrnod gwisg rhydd a
gododd £500; raffl pel rygbi wedi'i harwyddo gan garfan rygbi Cymru (heb
gasglu'r holl arian eto); gem pelrwyd rhwng y staff a'r chweched - £30
ac yn olaf, rydym yn cynnal cwis nos Iau nesaf (29/3) yng Nghlwb Tenis
Caerffili.
My name is Llinos Madeley, and
I am a 6th form pupil at Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. I decided to try for
this trip, because it is an opportunity to learn about another
culture, and at the same timme, teach the locals about our culture in
Wales. As well as this I am aware of the hard lives lived by some of
the orphans in the home - hopefully our visit will help them and I
hope that they are as excited about our visit as I am. Rhian (another
member of the Cwm Rhymni group) and I have been very busy fund
raising! We have held a disco for years 7 & 8 that raised £200, a
no-uniform day at school, which raised £500, a raffle to win a rugby
ball signed by the Welsh squad (haven't collected all the money yet);
a netball game between the staff and the 6th form - £30, and lastly we
are organising a quiz night at Caerphilly Tennis club.
Rhian Hodges
- Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
Siwmae ! F'enw i yw
Rhian Hodges rwyf yn 17 mlydd oed ac yn mynychu Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
Ar hyn o bryd rwyf yn astudio'r pynciau AS canlynol, Ast.Gref,
Cymraeg, Saesneg a Chymdeithaseg.(Ond digon o'r manylion diflas!!!)
Rwy'n hoffi cerddoriaeth yn enwedig Catatonia, sa i'n gallu aros am eu
halbwm newydd, bysedd wedi'u croesi mi fydd cystal a'r gweddill!!
O'n hysgol ni, Llinos Madeley a finnau
sy'n mynd ac rydym wedi bod yn brysur iawn yn paratoi am y daith! Mae
rhai o'n syniadau codi arian yn cynnwys cynnal disgo i flynyddoedd 7
ac 8 o fewn ein hysgol. Diolch i ddisgyblion iau yr ysgol am eu holl
gefnogaeth frwd!! Chwaraeon ni gem Pel- Rwyd y chweched yn erbyn yr
athrawon, yn naturiol y chweched bu'n fuddugol! Roedd gofyn i bawb dyfalu
sgor y gem Pel - Rwyd! Unwaith yn rhagor rwyf moyn dweud diolch o
galon i'r holl athrawon sydd wedi bod yn hollol gefnogol i Llinos a
finnau , diolch hefyd am eu haelusrwydd! Un syniad arall oedd syniad
gwych Llinos o gynnal noson cwis yng Nghlwb Tenis Caerffili - roedd
hyn yn hynod o lwyddiannus, diolch eto. Ar ben y syniadau yma roedd
ganddyn ni cyfres o rafflau yn cael eu rhedeg wedi'u noddi gan y siop
gyferbyn a'r ysgol trwy gyfrannu wobrau i'w hennill. Diolch iddynt am
eu amynedd a chefnogaeth! (Mae'r nodyn yma yn dechrau swnio fel un o'r
areithiau 'diolch' yr Oscars!!!) Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at y
daith gan gredaf mi fydd yn brofiad bythgofiadwy.
Hi! My name is Rhian
Hodges, I am 17 yrs old, and attend
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. I am studying the
following AS subjects: Religious education, Welsh, English and
Sociology. (But enough of the boring details!) I enjoy music,
especially Catatonia, I acn't wait for their new album, hopefully it
will be just as good as their others!
It is Llinos Madeley and I who will be
going from our school, and we have been very busy preparing for the
journey! Some of our fundraising ideas have been to have a disco for
years 7 & 8 in our school. Thanks to all of the younger pupils for
their enthusiasm! We played netball against our teachers. Thanks to
all of the teachers who have been supportive, and for their
generosity! Another great idea was to have a quiz night at Caerphilly
Tennis club - this was extremely successful. As well as all of these
we had a number of raffles sponsored by the shop opposite the school
(who supplied the prizes). I am looking forward to the trip, and I
believe it will be an unforgettale experience.
|