Cynllun Gwlad Pwyl
|
Ymweliad a
Cartref Plant yn Legnicia,
Gwlad Pwyl, Ebrill 2001 |
Hanes yr ymweliad
Wrth edrych ar y teledu wythnos
diwethaf efallai bod rhai ohonoch wedi gweld criw o ddeg Urddaholic
yng Ngwlad Pwyl ar raglen deledu ‘Ffeil’ a ‘Wales Today’
Ar fore’r 4ydd o Ebrill roedd pawb yn
brysur yn llwytho bws mini Gwersyll Llangrannog ar gyfer y daith 20
awr i Legnica, Gwlad Pwyl. Ar ôl wythnosau o godi arian, dros £4000 i
gyd, roeddwn yn barod i gychwyn ein taith i gartref plant yn Legnica.
Beth oedd pwrpas y daith?
Yn syml roeddwn am fynd allan i aros mewn cartref i 67 o blant
amddifad gyda’r bwriad o gymdeithasu, gwneud ffrindiau newydd a gwneud
ychydig o waith gyda’r £4000 y codwyd. Wrth i’r bws mini gyrraedd y
cartref sylweddolom yn syth bod eu croeso yn mynd i fod yn arbennig o
gynnes.
Roedd y plant yn blant amddifad ac
roedd gan y cartref £10 y mis i ddilladau, bwydo ac addysgu’r plant.
Er hyn roedd eu croeso a’u cyfeillgarwch yn arbennig. Cyn hir roeddent
wedi dysgu criw yr urddaholics i gyfri ym Mhwyleg ,dweud helo, shwmai,
nos da, diolch ac yn y blaen. Roeddent hyd yn oed yn ein dysgu i ganu
(wel…trio canu ta beth!)
Hoffai criw yr Urddaholics ddiolch i
bawb a wnaeth helpu gyda’r codi arian. Llwyddwyd i brynu cegin gyfan
iddynt, cyfrifiaduron, peiriant llun gopïo, paent a rhoddion. Yn
ogystal a hyn byddwn yn gallu eu gwahodd yn ôl i Langrannog dros yr
haf.
Ar ôl y daith nododd un o’r Urddaholics:
"Wna i byth gymryd dim byd yn ganiataol eto."
Dyna oedd y teimlad cyffredinol ar ôl y daith gan bawb.
Profiad bythgofiadwy a’r gobaith yw
cyflawni taith debyg yn y dyfodol agos.
|