Cynllun Gwlad Pwyl
|
Ymweliad a
Cartref Plant yn Legnicia,
Gwlad Pwyl, Ebrill 2001 |
Bu’n gyfnod cyffrous iawn yn ystod Mawrth
ac Ebrill i 10 o Urddaholics! Bu pawb yn brysur iawn yn codi arian ac
yn cynorthwyo i drefnu taith arbennig i wlad pwyl.
Trwy gysylltiadau a thref legnicia aeth 10
urddaholic! I ymweld a chartref plant arbennig gan ddod a llawer iawn
o gariad a hwyl i fywydau 67 o blant a phobl ifanc mewn cartref
amddifad. Roedd y cartref yn un hapus iawn ond yn brin o adnoddau
rydym ni yn gymryd yn ganiataol bob dydd. Gyda’r arian a gasglwyd gan
yr urddaholics! Llwyddwyd i gael nwyddau pwysig i’r cartref.
Trosglwyddwyd un ystafell yn gegin er mwyn addysgu’r aelodau hyn sut i
goginio ac edrych ar ol eu hunain ar gyfer eu ymadawiad o’r cartref
wedi i’w haddysg ddod i ben a’r amser i edrych am waith.
Roedd hefyd cyfle i gael nwyddau
cymdeithasol ar gyfer yr holl gartref megis ffon newydd, peiriant
fidio, peiriant ffacs a 2 brintar ar gyfer cyfrifiaduron.
Cyhoeddwyd neges ewyllys da yr urdd ym
mhwyleg ac yn gymraeg o’r cartref ac hefyd yn yr academi leol.
Cyflwynwyd plat arbennig i gyfarwyddwr y cartref a chafwyd parti mawr
ar gyfer aelodau’r cartref, gan rannu anrhegion a nwyddau’r Urdd.
Gweler safle urddaholics hefyd am fwy o
luniau a hanes y daith, y peintio a’r gweithgareddau dawnsio!
Diolch i Dyfan, Nadine, Leigh, Llinos,
Rhian, Aniela, Elin, Gwenllian, Kasha ac Elinor am eu gwaith
ardderchog.
DA IAWN CHI!
|