Cynllun Gwlad Pwyl
|
Ymweliad a
Cartref Plant yn Legnicia,
Gwlad Pwyl, Gorffennaf 2002 |
Beth oedd pwrpas y daith eto?
Ar fore’r 19fed mis Gorffennaf, 2002 gadawodd bws mini Gwersyll
Glan-llyn ar gyfer taith 36 awr i Legnicia, Gwlad Pwyl. Ar ôl
wythnosau o godi arian, dros £6,300 i gyd, roeddem yn barod i gychwyn
ein taith i gartref plant yn Legnicia.Yn
syml roeddem am fynd allan i aros mewn cartref oedd wedi ei darparu ar
gyfer 67 o blant amddifad. Y bwriad pennaf oedd gwneud ffrindiau
newydd, cymdeithasu a chynorthwyo i wella ychydig ar eu safonau byw
gyda'r arian gasglwyd ar eu cyfer.
Roedd y plant yn blant amddifad. Yr oedd gan y
cartref lwfans o £10 y mis i ddilladau, bwydo ac addysgu’r plant. Er
hyn roedd eu croeso a’u cyfeillgarwch yn arbennig. Cyn hir roeddent
wedi dysgu criw yr Urddaholics i gyfri ym Mhwyleg, dweud helo, nos da,
diolch ac yn y blaen.
Roeddent hyd yn oed yn ein dysgu i ganu (wel…trio
canu ta beth!)
Llwyddwyd i brynu ystafell gyfan o gyfrifiaduron,
5 cyfrifiadur yn cynnwys cadeiriau, byrddau, paent a rhoddion. Yn
ogystal â hyn gyda'r arian oedd yn weddill mae rhai o blant y cartref
yn ffodus i gael y cyfle i ddod i Gymru a threulio ychydig o amser yng
ngwersyll Llangrannog, haf eleni.
Yr oedd y daith yn un hynod lwyddiannus. Yr
oedd nifer or criw yn emosiynol iawn wrth ymadael. Yr oedd un peth yn
sicr cafodd pob un brofiadau bythgofiadwy.
Ym mis Hydref 2002 derbyniodd y criw Wobr
Ragoriaeth am Waith Ieuenctid yng Nghymru gan Gyngor Ieuenctid Cymru
am eu gwaith da ym Mae Caerdydd. Cyflwynwyd y wobr gan Jane Davidson.
Yn ddiweddar bu criw Ystalyfera draw i weld MP
Peter Hain i ddatgan eu pryder ynglyn â stad y cartrefi ar stad
ariannol sydd yng Ngwlad Pwyl. Bu trafodaeth fawr ynglyn â beth allent
wneud i helpu.
Ddiwedd mis Mawrth 2003 derbyniodd criw Gwynllyw
wobr (ardal Torfaen) am eu gwaith rhagorol yng Ngwlad Pwyl. Roedd hi’n
noson arbennig iawn yn Neuadd y Sir, Cwmbran lle derbyniwyd y wobr gan
Rhodri Morgan MP AM, Prif Ysgrifennydd y Cynulliad.
Mae’r prosiect yn datblygu o ddydd i ddydd!
Peter Hain a chriw Ystalyfera
Noson Gwobr
Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yng Nghymru
Noson wobrwyo
Gwent, criw Gwynllyw gyda Rhodri Morgan
|