Bilingual Version
Croesawyd pobl ifanc o Wlad Pwyl i Gymru am y trydydd tro
fel rhan o gynllun Cymru/Gwlad Pwyl yr Urdd ym mis Awst. Roedd edrych ymlaen
mawr wedi bod yng Nghymru i’w croesawu a hefyd ym Mhwyl i gael dod ar y
daith hir iawn yr holl ffordd mewn bws! Roedd cyffro ymysg y Pwyliaid eleni
yn fwy nag arfer oherwydd roedd dau gartref plant yn cael cyfle i ddod i
Gymru. Felly, cyfle i wneud ffrindiau newydd ar y bws ac i wneud mwy o
ffrindiau yn Llangrannog a Chaerdydd.
Roedd criw o Urddaholics yn Llangrannog yn disgwyl y bws ac wedi trefnu
rhaglen gyffrous ar gyfer ein ffrindiau o Wlad Pwyl o weithgareddau gwersyll,
mynd i Oakwood, mynd ar gwch a chael mynd i wersyll newydd yr Urdd yng
Nghaerdydd.
Roedd yn gyfle cyntaf i rai o’r bobl ifanc adael y Cartref Plant heb sôn am
adael Gwlad Pwyl, ac i nifer ohonynt roedd gweld y môr yn Llangrannog yn
brofiad bythgofiadwy. Roeddent i gyd wedi gwirioni gyda’r gweithgareddau ac
o weld tirlun Cymru ar eu taith draw.
Rhannu cyfeillgarwch a diwylliant oedd nod yr ymweliad a rhoi croeso a
phrofiadau gwych i’r Pwyliaid. Trefnwyd ambell noson o ddawnsio gwerin,
gemau, disgo ac ar y noson olaf cafwyd noson wobrwyo go arbennig! Yn cynnwys
tystysgrif am y sgrech waethaf ar y reid gyflyma yn Oakwood – aeth i Fam y
Cartref!!
Llongyfarchiadau i bawb am drefnu ymweliad llwyddiannus dros ben!
|