TREFNU TAITH GWIRFODDOL I ROMANIA

 
Bilingual Version

Mae'r criw yma o Brifysgol Cymru Aberystwyth yn brysur godi ymwybyddiaeth ac arian i fynd ar daith arbennig iawn ym mis Mehefin i ardal Oradea yn Romania. Yno fe fyddan nhw'n cydweithio yn glos iawn gyda mudiad Romanian Foundation for Children, yn rhannu diwylliant, hwyl a chariad. Mae'r RFC yn gwarchod hawliau plant a theuluoedd o leiafrifoedd ethnig yn Romania ac mae edrych ymlaen mawr yno ac yng Nghymru ar gyfer y daith. Os hoffech gefnogi'r prosiect hwn mewn unrhyw fodd yna cysylltwch a'r criw drwy LlinosR@urdd.org am fwy o fanylion.