Cysylltu Cymru hefo'r
Affrica
Linking Wales
with Africa
Dechreuais feddwl am y daith yma i Affrica nol yn mis Rhagfyr 2001 pan
y gwelais hysbyseb gan Link Community Development yn un o`r papurau
newydd. Soniodd am gynllun dysgu yn Affrica 2002 ac yn syth fe
apeliodd y syniad yn fawr iawn imi. Hoffwn wybod beth fyddai fel i
ddysgu mewn gwlad arall ac mi roedd y bosibilrwydd o gael gwneud hyn
mewn un o wledydd cyfandir Affrica yn cynig cyfle unigryw.
This is Mr. Ioan Dyer's
report of his trip to Africa in 2002. It was a teaching plan by Link
Community Development. Mr. Dyer started thinking about the trip back
in December 2001, after reading an advert by Link Community
Development in a newspaper. 53 primary and secondary school teachers
from Britain took part in the plan, with some going to South Africa,
some to Ghana, and some (including Mr. Dyer) to Uganda.
The plan continues next year, and the Link Community Development are
looking for more Welsh speaking teachers to go out to Africa next
year. Out of 53 teachers, only 4 came from Wales, and only 2 could
speak Welsh. For more information and to ask for an application form
see Link's website:
ww.lcd.org.uk
For more information on this journey, e-mail:
ioandyer@aol.com
Article written by: Mr. Ioan Dyer (teacher at Ysgol Gymraeg Gilfach Fargoed, Bargoed,
South Wales)
Pictures by: Mr.
Ioan DyerYn ddiymdroi roedd y ffurflen gais wedi’i llenwi
a chyn pen fawr o dro cefais lythyr yn gofyn imi fynychu cyfweliad am
ddiwrnod cyfan yn Abertawe. Doeddwn ddim yn siwr iawn beth i ddisgwyl.
Roedd y diwrnod ei hun yn ddigon diddorol gyda un rhan yn reit
ffurfiol a’r hanner arall yn hollol anffurfiol. Y rhan mwyaf diddorol
o`r cyfweliad oedd datrys problemau sefyllfaoedd oedd wedi codi gan
rai athrawon y Link mewn ysgolion yn Affrica y llynedd. a gofyn sut
fyddwn yn delio gyda nhw. Teimlais yn rhyfedd yn ceisio ymbalfalu a
cheisio delio a sefyllfaoedd affricanaidd yng nghanol Abertawe! Ond yn
ystod yr haf eleni, roedd rhaid gwynebu rhai o`r digwyddiadau yma mewn
sefyllfaoedd go mewn byd real iawn. Roeddwn wrth fy modd ganol mis
Mawrth canlynol pan y ces wybod fy mod i wedi bod yn llwyddianus. Eto,
ar un ochr o`r geiniog roeddwn yn teimlo`n hapus iawn o gael cyfle mor
gyffrous ond ar yr un pryd rhaid imi gyfaddef mod i wedi teimlo’n reit
nerfus hefyd. Dyma fyddai’r tro cyntaf i mi fentro i wlad bell. Yn wir
dyma’r tro cynta y byddwn yn hedfan mewn awyren!
Yna cyn mynd allan i Affrica, fe wnaeth 53 o
athrawon cynradd ac uwchradd gwrdd dros gyfnod o ddau benwythnos.
Daethom i wybod fod rhai yn mynd i dde Affrica, rhai i Ghana ac mi
roeddwn i a rhyw 20ain o athrawon cynradd ar ein ffordd i Uganda. Bryd
hynny hefyd trafodwyd materion fel iechyd a diogelwch, beth i ddisgwyl
allan yn Affrica er enghraifft y gwahanol traddodiadau a`r ieithoedd
gwahanol a siaradir yn y gwledydd. Ar ol derbyn yr hyfforddiant yma
mae’n wir i ddweud imi deimlo’n dipyn mwy hyderus. Mi roeddwn yn ysu
bellach am gael dechrau’r daith.
Am wyth o`r gloch fore Llun Gorffennaf 22ain
glaniodd yr awyren ym maes awyr bach Entebbe. Wrth gerdded o`r awyren
allwn i ddim llai na sylwi oedd pa mor dwym oedd hi mor gynnar yn y
bore. Roedd y gwres yn llethol a theimlais awel gynnes iawn yn fy
nghwmpasu. Saif Entebbe ar lan llyn Fictoria, un o lynoedd mwyaf yn y
byd. O`r awyren, edrychai fel mor enfawr. Roedd prif ddinas Uganda,
Kampala, rhyw awr i ffwrdd.Dros y bump
wythnos nesaf, roedd yr athrawon i gyd yn mynd i weithio mewn ysgolion
gwahanol o gwmpas Masindi. Mae tref Masindi yn ngogeldd orllewin y
wlad, tua 200 cilomedr i ffwrdd o Kampala, siwrne tua pedair awr a
hanner mewn bws. Byddai`r athrawon yn byw ac yn gweithio yn yr un
ardal ond mewn cymunedau gwahanol. Apel y cynllun yma i mi oedd y
ffaith ein bod ni yn aros gyda theuluoedd yn y gymuned. Yn sicr mi
fyddai’r profiad o’r herwydd yn un hollol gwahanol i’r un a gaiff
ymwelwyr arferol eu brofi.
Roeddwn i yn bersonol yn byw ac yn gweithio mewn
pentref bach o`r enw Nyantonzi, pentref o rhyw dau gant o bobl tua 25
cilomedr i`r o dref Masindi. Pentref traddodiadol ydyw gyda ambell i
dy o friciau ar ochr y ffordd Roedd mwyafrif mawr o’r tai wedi eu
gwneud allan o fwd a gwellt. Yn y pentref roedd eglwys, capel, siop yn
gwerthu nwyddau sylfaenol a theilwr yn gwerthu ac yn cynhyrchu dillad.
Y fi oedd yr unig berson gwyn yn y pentref ac yn lleol felly fe’m
galwyd yn "Muzungu" (sef dyn gwyn Kswahili).
Am y bump wythnos nesaf braint oedd cael byw
gyda teulu Issac. Roeddwn i yn byw mewn ty o friciau ac iddo do sinc
heb fod nepell o’r heol. Cefais brofiad bythgofiadwy wrth gyfarfod a
gweld y teulu am y tro cynta. Teulu mawr estyngedig ydoedd ac mi roedd
felly tua 30 o bobl yn byw gyda`i gilydd. Nid oeddwn yn siwr iawn o
statws pawb. O’r cychwyn cyntaf roedd hi`n amlwg fod y gwragedd a`r
merched yn edrych ar ol y dynion. Teimlais hi’n sefyllfa anodd i’w
deall y diwrnodau cyntaf ond cyn pen dim cyfarwyddais a’r ffordd
affricanaidd yma o fyw. Roedd Issac y tad yn mynd allan i weithio ar y
tir. Yn aml iawn roedd y gwragedd yn gweithio yn y ty yn y bore ac
wedyn yn mynd allan i helpu ar y tir yn y prynhawn. Roedd nifer o
blant yn byw yno ac mi roedd pedwar ohonynt yn mynychu`r ysgol roeddwn
i yn gweithio ynddi.
Bob bore am pump o`r gloch mi fyddai`r plant i
gyd yn codi ac mynd allan i dorri coed i`r tan. Yna am hanner awr wedi
saith, mi fyddai’r plant yn mynd i`r ysgol. Ar ol dod nol o`r ysgol,
mi fyddent yn mynd i dorri`r gwair neu i gasglu`r cnydau o’r tir hyd
nes ei bod hi`n tywyllu o gwmpas saith o`r gloch. Mi roedd hi’n
ddiwrnod hir iawn i’r plant ond mi roeddent wrth eu bodd drwy’r amser
ac yn hapus iawn yn gwneud y gwaith yma.
Profiad anhygoel oedd gweithio yn Ysgol Gynradd
Nyantonzi. Ysgol wedi ei wneud allan o friciau, mwd a tho sinc ydoedd
ac yn cael ei chysgodi gan fynydd Nyantonzi. Dim drysau na ffenestri,
dim ond tyllau agored a’r awyr fel pe’n rhan o’r dosbarthiadau. Yn wir
profiad diddorol oedd gweld y bywyd gwyllt yn dod mewn ag allan o’r
dosbarth fel ag y mynent. Hyfryd! Dosbarthiadau syml iawn oedd
ganddynt. Hen ddesgiau yn debyg i`r rhai a welir yn San Ffagan a bwrdd
du. Roedd waliau’r stafelloedd yn foel. Doedd dim byd arnynt.
Dim ond ers mil o ddiwrnodau y mae`r system
addysg newydd yn Uganda wedi bod yn weithreol ac wrth ystyried hynny,
mae`n rhyfeddol fod yr ysgol yn bodoli yn y lle cyntaf. Mae`r plant yn
dod i`r ysgol yn chwech mlwydd oed. Ar diwedd bob blywddyn, mae pob
plentyn ymhob dosbarth yn eistedd arholiad. Os yw plentyn yn methu`r
arholiad, yna y mae nhw yn gorfod ail eistedd y flwyddyn. Dyna paham y
mae yna amrywiaeth eang yn oedrannau y plant. Er enghraifft yn
nhosbarth P7 (dosbarth chwech yng Nghymru) roedd y plentyn ieuengaf yn
11 mlwydd oed a’r plentyn hynaf yn 17 mlwydd oed. Felly wrth dysgu yn
y dosbarth yma, anodd oedd gwahaniaethu`r gwaith ar gyfer plant ac ar
gyfer oedolyn.
Cwriciwlwm newydd iawn oedd yn cael ei ddilyn yn
yr ysgol, cwricwlwm cenedlaethol ar gyfer holl ysgolion Uganda.
Pynciau fel Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth oedd y pynciau craidd.
Yna, roedd y plant yn cael gwersi mewn ieithoedd gwahanol megis
Kswahili, Rinioro a Lugwara. Roeddynt yn hefyd yn cael gwersi ymarfer
corff a chrefft. Roedd pob plentyn o’r lleiaf oll yn dysgu sut oedd
trin y tir a gofalu am a chynhyrchu cnydau. Un peth a oedd yn amlwg i
mi oedd fod y plant yn gwneud llawer mwy o bethau ymarferol na phlant
Cymru. Pob dydd, fe fyddai pob plentyn yn mynd allan i ‘ardd’ yr ysgol
i drin y tir. Roedd tua 15 acer mewn maint! Fe fyddai pob plentyn yn
plannu cnydau, troi y tir, ac yn torri`r gwair rhywbryd yn ystod pob
dydd, a hynny pan oedd yr haul yn chwilboeth. Mae`r ochr ymarferol hon
yn holl bwysig oherwydd wrth ddysgu’r sgiliau ymarferol yn yr ysgol,
mae`r plant yn gallu eu defnyddio yn syth ar y tir nol adre.
Mewn lle mor wledig, mae tyfu cnydau yn gallu
gwneud y gwahaniaeth rhwng byw a marw. Tyfir y cnydau gan y teuluoedd
lleol i wneud bwyd. Roedd unrhyw fwyd a oedd yn weddill yn cael ei
werthu yn y farchnad lleol er mwyn gwneud arian ychwanegol i’r
teuluoedd. Cefais dipyn o syndod i weld fod cymaint cymaint o fwyd yn
cael ei gynhyrchu yn lleol. Roedd cnydau fel bananas, coffi, tatws,
corn, maize, a siwgr yn cael eu tyfu yn lleol. Doedd dim angen prynu
bwyd o gwbl yn ystod y bump wythnos y bum i yno.
Nid oedd ganddon ni athrawon o`r DU rol pendant
tra`n allan yn yr ysgolion. Yn bwrpasol roedd Link wedi peidio rhoi
canllawiau o beth y ddylsen ni wneud yn yr ysgol oherwydd roedd pob un
ohonom a sgiliau a diddordebau gwahanol. Roedd rhai prifathrawon yn
ein plith wedi dod allan er mwyn cynnal gweithdai i`r athrawon er mwyn
dysgu ffyrdd newydd o ddysgu. Ond pendrefynnais i yn bersonnol, mai
dysgu sut oedd athrawon Uganda yn gweithredu oedd y peth gorau i mi ei
wneud yn gyntaf. Treuliais y rhan fwyaf o`r wythnos gyntaf yn eistedd
mewn gwersi a ddysgwyd gan bob un o`r athrawon yr ysgol. Yn ystod yr
ail wythnos, fe fuais yn dechrau dysgu rhai o`r dosbarthiadau. Profiad
diddorol ydoedd, oherwydd dyma`r tro cyntaf i mi ddysgu mewn ysgol
allan o Gymru. Mi roedd yn brofiad newydd i’r plant hwythau. Cofier
mai dyma’r tro cynta iddyn nhw ddod ar draws person gwyn. Penderfynodd
yr athrawon pan oedd gwersi rhydd ganddynt i ddod i edrych arnaf i yn
dysgu. Profiad newydd oedd iddynt fy ngweld i’n defnyddio llyfrau mawr
ac arteffactau i hybu’r dysgu a’r addysgu. Er i mi ddysgu cymaint o’u
dulliau nhw o ddysgu roedd hi`n amlwg fod y staff yn awyddus iawn i
ddysgu technegau newydd ac roedden nhw yn fy holi yn drylwyr iawn ar
bob cyfle posibl am sut oedd hi fel i ddysgu yng Nghymru.
Un o`r adnoddau i mi ddod allan gyda mi a’u
defnyddio yn y dosbarthiadau oedd cyfres Byd Jaci. Cyfres ydyw sy wedi
ei sgrifennu yn benodol i hybu dealltwriaeth , gwybodaeth a medrau
daearyddol plant bach. Mae’n cynnwys tri llyfr stori "Diwrnod Cyntaf
Nia", "Stori Jaci" a "Dyddiadur Kabo". Cyfres ydyw sy’n cysylltu Cymru
ac Affrica ac mi wnes ei defnyddio ar gyfer gwersi iaith lle roeddwn
yn awyddus i gyflwyno Cymru i`r plant ac i`r athrawon. Roedd clywed
fod iaith arall heblaw`r Saesneg yn cael ei siarad ym Mhrydain yn sioc
mawr iddynt. Doedd dim syniad ganddynt fod Cymru neu`r iaith Cymraeg
yn bodoli. Cafodd y plant a`r athrawon hwyl yn dysgu am Gymru, ac mi
roedd y prifathro yn awyddus iawn imi ddysgu peth Cymraeg i’r plant.
Erbyn diwedd yr ail wythnos, roedd rhan fwyaf o`r plant a`r athrawon
wedi dysgu geiriau yn y Gymraeg. Erbyn y trydydd wythnos roedd pob un
o`r plant yn fy nghyfarch yn y bore trwy ddweud "bore da". Profiad
gwefreiddiol!
Pob bore cyn bod y gwersi yn dechrau, roedd y
plant yn ymgynull tu allan i`r dosbarthiadau i ganu`r anthem
genedlaethol a chodi baner Uganda. Un o`r pethau y des i allan gyda fi
i Uganda oedd baner Cymru. Eto, roeddwn nhw wedi rhyfeddi at y faner
ac yn gofyn cwestiynau am y ddraig goch ac ati. Wrth gyrraedd yr ysgol
ar y bore cyntaf gofynnodd y prifathro i mi am y faner. Profiad
emosiynol iawn ydoedd gweld y ddraig goch yn cael ei chodi yng nghanol
Uganda, tra bod yr holl ysgol yn canu anthem cenedlaethol Uganda.
Dywedodd y byddai baner Cymru yn cael ei chodi yn lle baner Uganda tra
y byddwn i yn yr ysgol. Ac dyna bu’n digwydd. A gofynnodd hefyd i mi
ganu Hen Wlad fy Nhadau! Yn ystod y bum wythnos roedd y plant wedi
rhyfeddu gweld y ddraig goch yn chwifio uwchben yr ysgol. Bu’r faner
yn destun trafod pob ymwelydd a ddaeth i’r ysgol o’r pentref. Roedd
pawb eisiau gwybod yr hanes.
Un o`r uchafbwyntiau i mi oedd gweld rhagbrofion
gwyl gerddoriaeth a ganhaliwyd yn yr ysgol. Fe ddaeth chwech o
ysgolion cyfagos i gystadlu mewn deg o gystadleuthau oedd yn cynnwys
dawnsiau traddodiadol, canu so-ffa, adrodd unigol a grwpiau offerynol.
Profiad anhygoel oedd gweld y gwisgoedd lliwgar, dawnsiau egniol a
bywiog, lleisiau clir a cherddoriaeth traddodiadol unigryw. Roedd y
plant i gyd yn hyderus iawn ac wrth eu bodd yn perfformio o flaen
cynulleidfa enfawr. Byddai ennillwyr pob cystadleuaeth yn mynd ymlaen
i gystadleuaeth rhanbarthol. Roedd y cyfan oll mor debyg i rhagbrofion
Eisteddfod yr Urdd. Anhygoel!
Roedd y diwrnod olaf yn un emosiynol iawn hefyd.
Roedd y cyfnod wedi hedfan heibio, ac yn sydyn roedd hi`n amser dweud
ffarwel wrth bawb! Cyn gadael, roedd yr athrawon wedi trefnu seremoni
mawr i ddweud diolch i mi ac roedd y plant allan o`r dosbarthiadau yn
gwylio`r seremoni. Yr eironi mawr oedd mae fi dylai fod yn dweud
diolch wedi’r cwbl. Cyn gadael pleser oedd derbyn anrheg neu ddau y
byddaf yn eu trysori am byth anrheg fel llestri clai, basgedi a dillad
traddodiadol Affricanaidd,pob un ohonynt wedi eu gwneud yn lleol gan
blant yr ysgol. Ac wrth i mi gerdded allan o`r ysgol, fe wnaeth yr
ysgol gyfan floeddio’r geiriau "hwyl fawr"!
Yn ystod y penwythnosau roedd gynon ni’r dewis o
fynd yn ol i dref Masindi i gwrdd a’r athrawon eraill neu i aros allan
gyda`r teulu. Penderfynnais aros gyda`r teulu er mwyn profi bywyd
lleol ac er mwyn gweld rhai o nodweddion diddorol Uganda. Aeth Issac a
mi i Lyn Albert, dyma lle mae`r afon Nil yn mynd mewn ac yn dod allan
o. Taith anhygoel o tua dwy awr o Nyantonzi ydoedd, ac wrth ddod yn
agos i`r llyn, roedd y tir yn newid yn ddramatig iawn oherwydd dyma
lle mae`r "Rifft Valley". Diflannu a wnaeth y mynyddoedd a`r bryniau,
a`r tir yn newid yn sydyn i fod yn hollol wastad. Wrth edrych ar draws
y llyn, roedd hi`n bosib gweld mynyddoedd y Congo yn y pellter. Fe
wnaethon ni ymweld a pentref Butiaba, pentref sydd yn dibynnu ar y
llyn oherwydd y diwydiant pysgota sydd yn bwysig yma. Gwelsom
amrywiaeth eang o bysgod, y Talapia, a`r Nile Perch. Diddorol iawn
oedd clywed gan y pysgotwyr lleol mae allforio`r pysgod yma i wledydd
Ewrop sydd yn bwysig iddynt oherwydd dyma lle mae`r mwyafrif o arian
yn cael eu wneud. Yn ystod y penwythnos olaf, fe aeth Issac a mi ar
gefn beic modur i ymweld a`r cyhydedd ger tref Masaka. Yr unig beth
oedd yn dynodi y cyhydedd oedd llinell ar draws y ffordd a chylchoedd
bob ochr i`r llinell. Dywedodd un o`r trigolion lleol fod yna
gynlluniau i adeiladu gwesty moethus i lawr y ffordd, felly mae
effaith twristiaeth yn dechrau ymddangos yn Uganda.
Roedd y bum wythnos wedi hedfan, ac wrth feddwl
am ddod nol i Gymru, roedd un rhan ohonof yn teimlo`n drist i adael
pobl mor gyfeillgar a pharod eu cymwynas ac ardal a thirwedd mor
ddiddorol. Roedd yr hanner arall wrth gwrs yn edrych ymlaen at ddod
nol i Gymru i weld teulu a ffrindau a thirwedd cyfarwydd. Mae un peth
yn sicr anghofia i byth o’r profiadau a gefais yn byw a gweithio am
gyfnod byr yn Nyantonzi. Anodd iawn oedd edrych ar yr ysgol a dwued
i`r athrawon "Dyma`r ffordd o ddysgu" a "Dyma beth y ddylsech gwneud"
oherwydd roedd hi`n wyrth fod ysgol yn bodoli ac yn gweithredu yna yn
y lle cyntaf. I feddwl fod athrawon a`r holl blant yn cerdded i`r
ysgol yn droednoeth bob dydd o wahanol bellteroedd, i mi mae`r peth yn
rhyfeddol. Wrth mynd nol i ddysgu yn mis Medi nol yma yng Nghymru,
teimlaf fod problemmau y wlad yma yn rhai bychan iawn wrth feddwl am y
broblemmau a welais yn Uganda. Mae`r holl profiad wedi gwneud cryn
argraff arnai i, ac rwy`f yn edrych ar bywyd yn gyffredinol mewn
ffordd hollol wahanol. Mae pethau fel prynnu car newydd, prynnu ffon
symudol neu yn mynd allan dros y penwythnos yn edrych yn ddibwys iawn
ar ol fod allan yn Uganda am cymaint o amser. Fuaswn i yn cynghori
unrhyw athro neu athrawes sydd a ddiddordeb i weithio allan yn Uganda
i geisio am y cynllun yma – profiad gwych a fyddai i byth yn anghofio!
Y mae`r cynllun yn parhau y flwyddyn nesaf ac y
mae Link Community Development yn chwilio am mwy o athrawon Gymru
Cymraeg i fynd allan i Affrica yr haf nesaf. Allan o 53 o athrawon,
rhyw bedwar a oedd o Gymru a dau a oedd yn siarad Cymraeg. Am fwy o
wybodaeth, ac i ofyn am ffurflen gais, gweler gwefan Link:
www.lcd.org.uk
Am fwy o wybodaeth o`r daith yma, danfonwch e-bost
i: ioandyer@aol.com
Erthygl ysgrifennwyd gan: Mr. Ioan Dyer (athro
yn Ysgol Gymraeg Gilfach Fargoed, Bargoed, De Cymru) Lluniau gan: Mr.
Ioan Dyer
|