Dechrau
Canu Dechrau Canmol Ym mis Mai eleni
recordiwyd rhaglen Dechrau Canu Dechrau Canmol ar thema Neges Heddwch
ac Ewyllys Da yr Urdd o wersyll yr Urdd yn Glan-llyn. Gwelwyd côr
plant Ysgolion Betws Gwerfyl Goch a Dinmael yn canu a Chôr Aelwyd Bro
Gwerfyl. Rhoddodd Branwen Niclas o Cymorth Cristnogol sgwrs i blant
Ysgol Gynradd Nefyn am fywyd Shompa sy'n byw yn Calcutta. Roedd yr
emynau cynulleidfaol yn dod o Nefyn a sgwrsiwyd gyda aelodau o Aelwyd
Bro Gwerfyl am eu teimladau nhw ynglyn â chynnal yr arfer o anfon
Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd bob blwyddyn. Roedd yn raglen
llwyddiannus iawn.
|