Fflam Heddwch
Crewyd Fflam Heddwch y Byd gan arweinwyr ysbrydol a gweithwyr dros
heddwch ym mhym cyfandir y byd. Fe gynwyd y Fflam yn y pum cyfandir
ac fe'u hynwyd yng Nghynhadledd Rhyngwladol Life ym Mangor ar 31
Gorffennaf 1999. Gwelwyd cydweithrediad arbennig gan rhai o awyrluoedd
y byd, trwy hedfan y 7 fflam i Brydain. Heddiw mae'r Fflam yn llosgi
ddydd a nos yn Snowdon Lodge, Nant Ffrancon ger Bethesda. Yn ogystal
mae'r Fflam wedi teithio led-led y byd, ac erbyn hyn mae'n cael ei
gynnau gan 800,000 o bobl dros heddwch. Cyflwynwyd Fflam Heddwch y
Byd i Lywydd yr Urdd 2000 Daniel Evans yn Eisteddfod yr Urdd Bro Conwy
gan Anwyn Jones, fel cydnabyddiaeth o gyfraniad yr Urdd at heddwch yn
ein byd.
|