Pererindod

 

Cynnwys
 
Rhagair gan Siân Swinton
 
Wyth erthygl allan o Cymru’r Plant 1940-1941 gan
W C Elvet Thomas
 
Pererindod 2004 gan Siân Swinton
 
Gair gan Alan Greedy Hâf 2004
 
Erthygl Gwyn Griffiths – Cymru’r Byd a’r y We
 
Ac i gloi

 

Rhagair

I’m mab Steffan ac wyrion Maxwell - Adam, Anghard, Geraint a Math



Gwinllan a roddwyd i’m gofal yw Cymru fy ngwlad – i’w thraddodi i’m plant – ac i blant fy mhlant

Er cof a diolch am y bererindod yn 1940

Diolch am fy rhieni - Max a Marged ac am eu ffyddlondeb a’u cariad i’w plant ac i blant eu plant.  Am gadw’r addewid i fod yn ffyddlon i Gymru a theilwng ohoni i’m Cyd-ddyn pwy bynnag y bo, ac i Grist a’i gariad Ef.

Mor braf oedd cael yr iechyd ar cryfder i gerdded ein pererindod bach ym mis Awst 2004, a chael cwmni fy annwyl ffrind Pat ar hyd y daith.  Bu farw’n nhad ddwy flynedd yn ôl, ac ar ôl edrych drwy sawl Cymru’r Plant, a’r hen ddarluniau, teimlais awydd personol i gerdded rhannau o’r llwybrau a gerddodd ef yn 1940, i glywed beth glywodd ef, ac i weled beth welodd ei lygaid ef.

Meddyliais hefyd am bwysigrwydd y bererindod yn 1940.  Wedi symud o Sir Benfro i’r brifddinas yn ferch fach, a mynychu Ysgol Gymraeg Bryntaf.  Allan o oriau’r ysgol,  ble’r roeddwn ni yn mynd i gymdeithasu drwy fy mamiaith?  Dechreuodd Elvet Thomas gangen yr Urdd yn Ysgol Cathays yn niwedd y 30au.  Tybed, a’u hymdrech nhw i gadw’n Cymru’n fyw, a chysegru baner yr Urdd a ieuenctid Cymru o flaen allor pob Eglwys Gadeiriol a ddylanwadodd ar fudiad yr Urdd yng Nghaerdydd – ac hefyd ar addysg Gymraeg.  Dwi’n sicr fod hyn yn wir.  Mi ges i am brawd Dafydd y fraint o fynd i Ysgol Rhydfelen – roedd Iwan yn flwyddyn yn rhy hen, ond fe aeth ef i’r un ysgol a’n tad – Cathays – o dan ofal cariadus ‘Wncwl Elfed’.

Yna, cangen o’r Urdd – yr Uwchadran a’r Aelwyd.  Mynd am benwythnosau o gerdded (Hosteli Ieuenctid) o dan ofal Ethni a Nia Daniel (Miss Daniel bryd hynny – oherwydd hi oedd fy athrawes Gymraeg).  Dysgu mwy am Gymru wrth gerdded nac yn yr ystafell ddosbarth!!  Capel y Ffin, Cric Howell, Mynydd y Garth …

Ar ôl cyrraedd adre, a’r esgid fach yn gwasgu – byddai mam yn llenwi padell gyda dwr ag Epsom Salts i’r traed bach – a dadi eisoes wedi paratoi llond sosbon o gawl – cwgen – a cwlffed o gaws.  Gweddi a bwyta, dim siarad, amhosib bwyta a siarad yr un pryd! Ac yna mam yn gofyn – “wel blantos shwd a’th y penwythnos?”  Dafydd yn ôl ei arfer – dim llawer i ddweud – popeth yn iawn.  Ond y fi, digon i’w ddweud fel arfer! “Ti’n gwybod dadi, ‘roedd yr hen Nia Daniel yn gweud bo fi ddim yn cael run sandwej nes cyrraedd top y mynydd, ac erbyn i fi gyrraedd y top ‘roedd pob un arall wedi bwyta – a cherddon ni filltiroedd cofia” – “Siân fach – wâc fach odd honno – ti am glywed am wâc iawn” – “Odw dadi – gwêd y stori to!”

 

I:  Pererindod i Dy Ddewi

Y PERERINION YM MHLAS WATFORD

O’r chwith – Maxwell Evans, Alan Greedy, W C Elvet Thomas a Mrs Coggins. 

Tynnwyd y llun gan Mr Roy Saunders, y pedwerydd pererin.

Tybiai pobl y Canol Oesoedd fod byw’n grefyddol yn golygu aberth a dioddefaint corfforol.  Tybient hefyd fod rhinweddau arbennig yn perthyn i greiriau’r seintiau, ac i’r lleoedd hynny lle bu’r saint yn byw ac yn addoli.  Credent fod bendith i bawb a ddeuai i weddïo yn y lleoedd cysegredig, a bod iechyd i’w gael o ymdrochi yn y ffynhonnau sanctaidd.   Anodd a pheryglus, yn y dyddiau hynny, oedd teithio o le i le, ac oherwydd hyn ystyrid y byddai gwerth neilltuol mewn aberthu pob cysur corfforol er ymweled â’r mannau cysegredig a gysylltid â’r hen saint.

Nid rhyfedd felly i bererindodau ddyfod yn gyffredin ym mywyd Cymru.  Ar hyd a lled y wlad gwelid y pererinion yn cyrchu at ryw gysegr neu’i gilydd, a llawer ohonynt yn dioddef yn enbyd.  Yr oedd, ac y mae o hyd, llawer o’r lleoedd cysegredig hyn yng Nghymru, ond y pwysicaf ohonynt oll yw Ty Ddewi, cysegr Dewi Sant ei hun, yn Sir Benfro.  Yr oedd mynd i Dy Ddewi ddwywaith, cystal â myned unwaith i Rufain, ac yr oedd tair pererindod i Dy Ddewi cystal â mynd yr holl ffordd i Gaersalem ei hun.

Ond, yn holl hanes y pererindodau i Dy Ddewi – a bu yno frenhinoedd, gwrêng, a bonedd, yn eu tro – ni chlywais fod neb erioed wedi myned yno ar bererindod yn enw Cymru, a daeth i’m meddwl mai gwych o beth, yn y dyddiau pryderus hyn, fyddai i rai o aelodau’r Urdd wneud pererindod i gysegr ein nawdd Sant, a hynny gyda dau amcan arbennig – sef talu teyrnged i wroniaid Cymru Fu, a dangos bod Ieuenctid Cymru heddiw yn cyflwyno eu cenedl i ofal Duw, ac, fel symbol o hyn, yn dodi baner ein gwlad, y Ddraig Goch, ar yr allor yn yr Eglwys Gadeiriol.

Croesawyd y syniad gan Swyddfa’r Urdd, ac aethpwyd ati i drefnu’r bererindod.  Penderfynwyd fod pedwar o aelodau Adran Arglwydd Faer Caerdydd i ymgymryd â hi, a phenderfynasant hwythau ddilyn dull y pererinion gynt drwy gerdded bob cam o’r daith hir o Gaerdydd i Dy Ddewi a cheisio llety rhad bob nos.

Dyma i chwi enwau’r pererinion – Mr Roy Saunders, yr arlunydd adnabyddus; G. Maxwell Evans ac Alan Greedy (y ddau yn amlwg ers blynyddoedd yng ngwaith yr Urdd yng Nghaerdydd); a minnau yn arweinydd ar y parti.  Gyda llaw, llanciau Fform VI yn Ysgol Uwchraddol Cathay’s Caerdydd, yw Max ac Alan.

Buom wrthi’n astudio mapiau Deheudir Cymru, ac yn union fel yr hen bererinion teimlem fod gwerth arbennig mewn taith galed, anodd.  Penderfynwyd felly, mai gwell fyddai peidio â mynd “fel yr ehed y frân” ac o’r herwydd trefnwyd taith o 180 milltir dros fynydd, cors, a gwaun, a thros ffyrdd a llwybrau anghysbell.

Aethpwyd ati o ddifrif i baratoi ar gyfer y daith, ac am wythnosau bu’r pedwar ohonom ar heiciau hir.  Cymerwyd diddordeb mawr yn ein hantur, ac yn neilltuol gan Arglwydd Faer Caerdydd (Yr Henadur Henry Johns, YH).  Yn wir, rhoes ef anrhydedd mawr arnom drwy ofyn inni wneud y bererindod yn enw dinas Caerdydd hefyd.  Gwahoddwyd ni i Neuadd y Ddinas a chawsom gan yr Arglwydd Faer lythyr Cymraeg, ac arno ei sêl aur ei hun, i’w ddwyn i Ddeon a Siapter Ty Ddewi.  Dyma i chwi gopi ohono;-

“Y mae’n bleser mawr gennyf gyflwyno i chwi Bererindod aelodau Adran Arglwydd Faer Caerdydd o Urdd Gobaith Cymru i Eglwys Gadeiriol Ty Ddewi.  Trwyddynt hwy, ar yr achlysur hwn, y mae Cymru heddiw yn talu teyrnged i Gymru Fu, a phan osodant Faner Cymru ar yr allor gwnânt hynny fel arwydd fod Ieuenctid Cymru, yn y dyddiau cythryblus hyn, yn cyflwyno’r genedl i Dduw.  Y mae Dinas Caerdydd, prifddinas Cymru yn ein golwg ni yn dymuno’n dda i’r pererinion ac yn mawrygu’r delfrydau uchel, a goleddir ganddynt hwy a mudiad yr Urdd.  Dygant i chwi, geidwad cysegr santaidd ein Nawdd Sant, gyfarchiadau diffuant dinasyddion Caerdydd” – Henry Johns Arglwydd Faer.

Dyma’r tro cyntaf i unrhyw ddinas yng Nghymru roddi cydnabyddiaeth swyddogol i bererindod i Dy Ddewi ac ymfalchïwn mai i’r Urdd y daeth yr anrhydedd.

Wedi hir ddisgwyl daeth y diwrnod cyn i’r bererindod gychwyn, ac ar y diwrnod hwnnw aeth y pedwar pererin i Eglwys Gymraeg Dewi Sant, Caerdydd, lle cawsom wasanaeth arbennig i ni ein hunain dan ofal y ficer hynaws, y Parch R M Rosser, un o gyfeillion pennaf yr Urdd yng Nghaerdydd.

Y bore canlynol, dydd Sadwrn, Ebrill 6, wele’r pererinion, yng ngwisg yr Urdd – fel y gwisgir hi gan Adran yr Arglwydd Faer – yn cyfarfod am 8.30 o’r gloch yn Rhiwbina, ger Caerdydd, a dyma’r bererindod o’r diwedd wedi cychwyn.

Yr oedd yn fore braf iawn, y tywydd ar ei orau i’n calonogi.  Yr oedd yn hyfryd iawn wrth groesi’r Wenallt a Mynydd Caerffili, ac yn fuan yr oeddem wedi cyrraedd Plas Watford, y ty enwog a gysylltir â Sasiwn gyntaf y Methodistiaid, yn 1743.  Yma y bu Williams Pantycelyn, Howell Harris, Daniel Rowland, George Whitfield, ac eraill yn cael croeso a lluniaeth.  Yr oedd y ty bob amser yn agored fel “llety fforddolion” i bregethwyr o bob iaith ac enwad.  Erys yr un ysbryd ym Mhlas Watford o hyd a’r hen draddodiad o gwrteisi a chroeso yn parhau yng ngharedigrwydd Mr. a Mrs. Coggins i bawb sy’n digwydd galw.  A chawsom ninnau yr un derbyniad gwresog.  Dyma’r cyntaf o “gartrefi Cymru” inni ymweld ag ef ar ein taith, a theimlem mai braint oedd cael ei weld.  O Blas Watford aethom i lawr y rhiw, gan sylwi ar gastell enfawr Caerffili ar y dde.  Cymerai gyfrolau i adrodd hanes hir y castell hwn.  Bu’r Rhufeinwyr, y Sacsoniaid, a’r Normaniaid yma, yn eu tro, yn ceisio gorchfygu’r Cymry a’u llethu â’u creulondeb ffiaidd, ond ofer, yn y diwedd, fu pob ymdrech o’u heiddo i ladd enaid y Cymro.

Teimlem wrth fyned heibio fod yn hanes Caerffili wers inni yn yr awr dywyll bresennol yn ein hanes.  Os byddwn ffyddlon inni’n hunain,  os penderfynwn, o ddifrif, fod “rhaid i Gymru fyw” deued a ddelo, gallwn wrthsefyll y dymestl hon eto.

Troesom ein cefnau ar Gaerffili ac wedi croesi drwy amryw gaeau dyma ni’n cyrraedd mynwent enwog y Groeswen – Westminster Abbey Cymru fel y gelwir hi weithiau.

 

II:  Pererindod i Dy Ddewi

Ar ôl croesi drwy amryw gaeau, dyma ni’n dod i’r Groeswen, lle claddwyd llawer o enwogion Cymru, ac yn eu plith Ieuan Gwynedd, arwr “Brad y Llyfrau Gleision” a Chaledfryn, un o feirniaid craffaf y ganrif ddiwethaf.

Bu Ieuan Gwynedd farw yn ddeuddeng mlynedd ar hugain oed wedi ennill serch Cymru gyfan am amddiffyn enw da’r genedl.  Codwyd colofn fawr ar ei fedd.  Wrth grwydro trwy’r fynwent buom yn sôn llawer am wrhydri’r cewri sy’n huno yno, ac, wrth fedd Caledfryn, teimlai Max fod yn rhaid iddo adrodd un o englynion y bardd hwnnw –

Mawryga gwir Gymreigydd – iaith ei fam
Mae wrth ei fodd beunydd;
Pa wlad wedi’r siarad sydd
Mor lân â Chymru lonydd?

Wedi gadael y Groeswen, aethom ymlaen dros y mynyddoedd gan edrych i lawr ar rai o’r gweithfeydd a chlywed eu swn ymhell.  Erbyn tua chanol dydd yr oeddem wedi cyrraedd Eglwys Ilan.  Yma y gorwedd William Edwards, y codwr pontydd enwog.  Dyma le i ddenu serch unrhyw arlunydd – yr eglwys hynafol gadarn, y porth gwyn-galchog a’r hen ywen fawreddog yn y cefn.

Ymlaen â ni wedyn tros Fynydd Senghenydd.  Un o’r pethau a’n trawodd fwyaf yma oedd y tawelwch a’r llonyddwch o’n hamgylch.  Er bod y byd yn llawn helbul, nid oedd ond tangnefedd ar fynyddoedd Cymru.  Cymerwyd hanner awr o seibiant ar y mynydd i gael ychydig fwyd a mwynhau’r olygfa odidog; wedi dadluddedu’n llwyr dyma ni’n dilyn llwybr y mynydd nes inni gyrraedd Cilfynydd.

Edrychai plant Cilfynydd yn syn arnom.  Yr oedd yn amlwg nad oeddynt hwy yn gyfarwydd â gwisg yr Urdd.  Meddyliai rhai ohonynt mae chwaraewyr pêl-droed oeddem – ein trowsus byr, wrth gwrs, oedd yn cyfrif am hyn.  Yn Adran yr Arglwydd Faer yr ydym oll – athrawon, swyddogion, aelodau cyflawn a dysgwyr, o’r hynaf i’r ieuengaf, yn gwisgo trowsus llwyd byr gyda chôt yr Urdd a’r crys gwyrdd, a’n profiad yw fod y wisg hon yn help mawr inni yn ein gwaith.

Cawsom groeso calonnog gan y Dr. Tudor Williams yng Nghilfynydd, ac, ar ei awgrym ef, croeswyd yr afon i ochr arall y glyn, ac yna dringo’r llethrau drachefn.  Ar bob llaw gwelem effaith tywydd caled y gaeaf diwethaf, ond yr oedd y gwanwyn yn torri trwodd i guddio difrod y rhew a’r eira.  Mewn byr amser yr oeddem wedi cyrraedd fferm Gelli Fendigaid, ac ymhen hanner awr yr oeddem yn pasio trwy Ynysybwl ac yn synnu bod lle glofaol mor hynod lân.  Cynghorwyd ni i ymweled â Llanwynno, ac felly ymlaen â ni i gyfeiriad pen y mynydd.  Lleisiau’r adar, yr ehedydd a’r gylfinir, a bref ambell ddafad ac oenig, yn unig a dorrai ar y distawrwydd.  O’r diwedd, cyrraeddasom gors eang wlyb, ac, yn y pellter draw, cawsom ein cip cyntaf ar eglwys unig Llanwynno.  Gwaith anodd a blinderus iawn oedd croesi’r fawnog i’r eglwys ond yr oedd yn werth y drafferth.

Cawsom weld yr eglwys a’r hen ffynnon yng nghanol y fynwent, ond y peth mwyaf diddorol inni oedd bedd Guto Nyth Brân, y rhedegwr enwog.  Ystyrid Guto yn rhedegwr heb ei ail, ac erbyn heddiw adroddir pob math o storïau amdano.  Y mae dwy garreg ar ei fedd.  Ar un ohonynt ni cheir ond “Griffith Morgan 1737 Aged 37” ond ar y garreg arall ceir tipyn o’i hanes.  Dyma ichwi’r arysgrifen – “Er cof am Griffith Morgan, o Nyth Brân, y plwyf hwn.  Bu farw yn y flwyddyn 1737 yn 37 mlwydd oed.  Yr oedd yn rhedegwr cryf.  Trechodd un o’r enw Prince, plwyf Bedwas, mewn rhedfa o 12 milltir, yr hyn a gyflawnodd 7 munud dan yr awr.

Rhedegwr gorheinyf a gwrawl – cawr
Yn curo’n wastadawl
Oedd Gruffydd; e fydd ei fawl,
Wr iesin, yn arosawl.

                                                            Gwilym Glanffrwd

Y garreg hon â’r geiriad – a roddwyd
I arwyddo cariad
Ar ei lwch gan wyr ei wlad
I gyfiawn ddal ei gofiant.

                                    Meuddwy Glan Elai

“Evan Thomas, Nantddyrus, Llanwynno, gyda chynhorthwy cyfeillion elusengar a gyfodasant y gofadail hon yn y flwyddyn 1866”
Dyma stori fer gyflawn ar garreg fedd!

Clywsom amryw storïau diddorol am eglwys Llanwynno hefyd.  Dyma un ohonynt.  Tua diwedd y ganrif ddiwethaf, rhoddwyd llawr newydd i’r eglwys, ac wrth symud yr hen lawr, darganfuwyd llawer iawn o ysgerbydau.  Codwyd y rhain a thaflwyd hwy i’r naill ochr – ond, am amser wedyn, bu plant y lle yn chwarae â’r penglogau.

Yr oedd digon o bethau yn yr ardal hon i’n cadw am amser hir, ond rhaid oedd mynd ymlaen.

Buom yn holi pedwar o bobl ynglyn â’r ffordd, ac er bod y pedwar yn byw yn yr ardal, cawsom gyfarwyddyd gwahanol gan bob un ohonynt, ac fel y digwyddodd, yr oedd pob un o’r pedwar yn anghywir!  Mewn canlyniad, buom yn crwydro’r mynyddoedd am filltiroedd, a phenderfynasom y dilynem ein mapiau bob amser o hyn ymlaen.

Mewn un man, daethom ar draws coedwigwr â chorn arian am ei wddf, ac, ym mhen rhyw hanner awr, dyma ni’n gweld bugeiles ar gefn ceffyl.  Y mae lleoedd anghysbell hyd yn oed ym Morgannwg ddiwydiannol!

Daethom i lawr i’r briffordd yn Abercwmboi, ac ar ôl hyn, nid oedd gennym ond dilyn y ffordd.  Synnai plant y lle ein bod yn siarad Cymraeg.  Tybiai rhai ein bod wedi “dod o’r wlad” ychydig oedd yn barod i gredu bod Cymry fel ni yn byw yng Nghaerdydd.  Cawsom lawer o sylw’r plant nes inni gyrraedd Aberaman.  Bu Max a minnau’n bwrw’r nos yng nghartref Mr. W B Davies, ac aeth Mr. Saunders ac Alan ymlaen i Lwydcoed i dreulio’r nos yn nhy Mr. Gwilym Ambrose, prifathro Ysgol Sir, Aberdâr.  A chyfrif ein crwydradau i gyd yr oeddem ar y dydd cyntaf hwn o’n taith, wedi cerdded tua deng milltir ar hugain, ac fel y gallwch ddychmygu, yr oeddem ill pedwar yn barod iawn i’r gwely.

 

III:  Pererindod i Dy Ddewi

Y pedwar pererin ger Scwd yr Eira

Bore drannoeth, dyma ni’n gadael Aberaman ac yn croesi’r bont i Gwmbach er mwyn osgoi cerdded drwy strydoedd Aberdâr.  O Gwmbach aethom ar hyd y ffordd haearn i gyfeiriad Llwydcoed, gan basio’r Ysguborwen ar ein chwith.  Yma y ganed y diweddar Arglwydd Rhondda, y gwr a fu’n gyfrifol am fwydo’r genedl yn ystod y rhyfel diwethaf.

Trist iawn oedd gweled, yma a thraw, arwyddion amlwg o’r dyddiau blin a ddaeth i’r diwydiant glo – gwagenni â’r rhwd yn drwch drostynt, adeiladau sinc hen byllau glo wedi eu dryllio, a’r borfa las mewn rhai mannau yn tyfu’n fras lle na welid yr un glaswelltyn pe bai’n ddyddiau llewyrchus yn ardaloedd “y gweithfeydd”.  Yn Llwydcoed daeth y pedwar ohonom ynghyd, a heb golli amser ymlaen â ni, weithiau ar hyd y priffyrdd ond gan amlaf drwy’r caeau.  Aethom ychydig allan o’n ffordd er mwyn osgoi strydoedd llwydion Hirwaun.  Y mae’r trefydd glofaol i gyd yn debyg i’w gilydd, ac i ni yr oedd llawer mwy o swyn yn y caeau a’r gwrychoedd.  Cyn hir yr oeddem wedi gadael Sir Forgannwg ac yn troedio Sir Frycheiniog.  Daeth i fwrw glaw’n drwm arnom ym Mhenderyn.  Argraff anffafriol iawn a gawsom ar y cyntaf yn y pentref hwn.  Yr oedd gennym ddigon o fwyd yn ein paciau ond dim i’w yfed.  Teimlem yn sicr y byddai’n ddigon hawdd prynu te yn rhai o’r tai, ond, er ein syndod, gwrthodwyd gwneuthur hyn o gymwynas â ni.  Mewn un neu ddau fan caewyd y drws yn ein hwynebau yn ddigon diseremoni ac ofnem yn wir y byddai’n rhaid inni adael Penderyn dan yr argraff mai lle anghwrtais, prin ei groeso yw’r lle a roes ei lysenw i’r enwog Ddic Penderyn.  Ond achubwyd enw da’r pentref drwy i’r wraig a drigai mewn ty ar bwys y capel Cymraeg fynegi, ar unwaith, ei pharodrwydd i wneud te inni.  Cawsom groeso ganddi a chaniatâd i aros yn ei thy i gysgodi rhag y glaw.  Yno y buom yn sgwrsio am dynged greulon Dic Penderyn.  Dyma i chwi ychydig o’r hanes.

Yn yr helynt ddiwydiannol a’r terfysgoedd ym Merthyr Tydfil yn 1831, Dic (neu Richard Lewis yn ôl ei enw bedydd) oedd un o arweinwyr y gweithwyr.  Ymgasglodd dros naw mil ohonynt ar y bryniau o amgylch Merthyr a daethpwyd â milwyr yno.  Bu ysgarmes fer a chlwyfwyd un o’r milwyr.  Daliwyd amryw o’r terfysgwyr ac yn eu plith Dic Penderyn.  Protestiai Dic ei fod yn gwbl ddieuog o’r trosedd y cyhuddwyd ef ohoni, ond ym Mrawdlys Caerdydd condemniwyd ef i farw.  Yn rhestr dedfrydau’r llys ceir y geiriau hyn – “Richard Lewis, 23, Miner.  Riotiously assembling, with others, at Merthyr Tydfil, and feloniously attacking and wounding Daniel Black of the 93rd Regiment with a bayonet whilst he was on duty – death”.

Arwyddwyd deiseb ar ei ran gan dros 11,000 o bobl ond ofer fu pob ymdrech i achub ei fywyd.  Crogwyd Dic yn gyhoeddus yng Nghaerdydd, Awst 13, 1831.  Ystyrid ef yn ferthyr; ar ddiwrnod ei grogi caewyd bron bob siop yng Nghaerdydd a rhoddwyd iddo angladd tywysogaidd.  Hyd heddiw y mae amheuaeth gref a oedd yn euog o gwbl.

Lle bychan, tawel yw Penderyn a lle cyfleus iawn i aros ynddo os dymunwch ymweld â gwlad y rhaeadrau.  Wedi gadael y pentref crwydrasom i fyny ac i lawr dros y bryniau.  Cawsom lawer o gawodydd a chan mor serth ochrau’r llethrau yr oeddynt yn llithrig iawn.  Yr oedd y daith yn bur galed, ond yr oedd gan bob un ohonom gyfaill da yn ei ffon.  Digon o dâl am ein holl drafferthion oedd canfod gogoniant y rhaeadrau.  Buom yn syllu’n hir ar Scwd yr Eira a gwrando ar ddwndwr y dyfroedd yn llifo’n wyllt fel Niagra fechan dros y graig.  O dan y graig y mae math o silff a thrwy sefyll ar hon gellir gweled y rhaeadr megis o’r tu mewn.  Weithiau torrai’r haul drwy’r cymylau gan droi’r fan yn baradwys o liwiau’r enfys.  Aethpwyd i weled rhaeadrau eraill yn yr ardal, ond er bod iddynt hwythau hefyd eu gogoniant yr oedd Scwd yr Eira ar y diwrnod hwn yn frenhines arnynt i gyd.

Wedi troi’n cefnau ar y rhan yma o’r wlad buom yn cerdded ar ddarn o Sarn Helen, hen ffordd y rhufeiniaid, ac yn croesi corsydd a gweunydd eang.  Weithiau, gan fod rhai o’r llwybrau a farciwyd ar ein map wedi diflannu, yr oeddem yn bur ansicr o’n ffordd.  Unwaith aethom i dy-fferm i geisio cyfarwyddyd.  Daeth gwraig y ffermwr i’r drws ac wedi dweud ein neges wrthi addawodd yn bendant y câi ei phriod ddangos y ffordd inni – a dyma hi’n bloeddio enw’r gwr nes bod ei llais yn diasbedain dros y lle.  Ar unwaith dyma’r ffermwr (ufudd a charedig wr!) yn dyfod allan o’r beudy ac wedi cael gair o esboniad gan ei wraig yn dyfod cryn bellter gyda ni rhag ofn inni golli’r ffordd ar y gweundir.  Dro arall, cawsom yr un caredigrwydd gan wr ieuanc o fwthyn bychan digon llwm a diaddurn.  Gweithwyr cyffredin oedd y rhain ond gwyddent sut i ymddwyn fel pendefigion – a phwy a wyr nad yw gwaed yr hen uchelwyr yn llifo drwy eu gwythiennau?  Yr oeddynt yn Gymry teilwng hefyd mewn iaith ac ysbryd, ac yn cwyno’n arw oherwydd dwyn Mynydd Epynt gan y Llywodraeth.

Llawenydd mawr inni oedd clywed pawb yn siarad Cymraeg.  Synnem fod y rhan yma o Sir Frycheiniog mor Gymreig.  Pan oeddem yn dynesu at Abercraf daeth rhai o garedigion yr Urdd i gyfarfod â ni, ac wrth fynd i lawr y rhiw dangoswyd inni ddwy res o dai a elwir yn “Spain” a “Portugal” am y rheswm fod gweithwyr yn hanfod yn wreiddiol o’r gwledydd hynny yn byw ynddynt.  Diddorol iawn oedd clywed bod eu plant yn gallu siarad Cymraeg rhugl.

Mewn byr amser yr oeddem yn cael croeso cynnes ar aelwyd Mr. Rowland Roderick, ac yno hefyd yr oedd Mr. Elwyn Jones, trefnydd yr Urdd, a llawn ty o bobl i’n gwneud yn gartrefol.  Wedi cael pryd o fwyd blasus, buom am oriau yn treulio amser hapus iawn – yn sôn am helyntion y daith ac yn canu’r emynau a’r alawon sy’n annwyl i galon pob Cymro.  Y nos honno arhosodd dau ohonom yn nhy Mr Roderick a’r ddau arall yn nhy Mr. Ivor Morgan gerllaw.  O’n hystafell wely clywid afonig yn llifo’n llon wrth ymyl y ty, ac yn swn peraidd ei chân syrthiasom i drwmgwsg.

 

IV:  Pererindod i Dy Ddewi

Bore Llun, Ebrill 8, yr oedd yn naw o’r gloch arnom yn dihuno o’n trwmgwsg.  Bu’n cwsg yn felys, ond, os rhywbeth, yr oedd ein deffro’n felysach fyth gan inni fod yn ymwybodol ar unwaith o ryw aroglau pêr o’n hamgylch – aroglau cig moch ac wyau yn cael eu ffrio yn y gegin islaw.  Fel y gellwch ddychmygu nid oedd ond ychydig funudau cyn ein bod – wedi ymolchi a gwisgo – yn eistedd wrth y bwrdd, yn mwynhau brecwast da ac yn sgwrsio am ryfeddodau Abercraf a’r cylch.  Lle diddorol iawn yw’r cylch i un sy’n hoffi ymwneud â hynafiaethau ac yn sicr fe dalai i unrhyw un gymryd oriau i astudio enwau lleoedd yr ardal.  Clywsom gyplysu enw’r Apostol Paul ag un lle.  Dywedwyd i’r apostol mawr ei hun ymweled â’r lle i bregethu’r efengyl.  Boed hynny fel y bo, ymddengys fod graen ar grefydd yn yr ardal hon heddiw ac fel y gweddai i fro Gymreig, yr oedd yn amlwg ddigon fod crefydd a phethau gorau’n cenedl wrth fodd y bobl.

Wrth edrych tua’r gogledd gwelem fod cymylau du bygythiol yn gorchuddio’r mynyddoedd – Mynyddoedd y Fan – a phan ddywedasom wrth ein ffrindiau ein bod yn bwriadu croesi’r mynyddoedd hyn cawsom rybuddion taer i beidio â mentro ar y fath siwrnai beryglus.  Gwelsom mai gwell oedd aros i weld sut y troai’r tywydd ond yr oedd yn pigo glaw pan adawsom Abercraf a ninnau, o’r herwydd, yn teimlo’n bur isel ein hysbryd.  Nid ymddangosai’n debyg y gallem ddringo’r mynyddoedd.  Daeth rhai o garedigion Abercraf i’n hebrwng ar y ffordd.  Aberthodd un neu ddau ohonynt ddiwrnod o waith er mwyn bod yn ein cwmni.  Ni chymerodd ond ychydig funudau i gyrraedd Castell Craig y Nos.  Adeiladwyd y castell yn y flwyddyn 1842 ond tua 1878 daeth i feddiant y gantores fyd-enwog Madam Adelina Patti.  Y mae’n amheus a gafodd unrhyw gantores erioed fwy o glod ac enwogrwydd na hi.  Ganed hi yn Madrid, prifddinas Sbaen, a chafodd ei haddysg gerddorol yn Efrog Newydd.  Cymerai ddiddordeb mawr ynom ni’r Cymry a gwnaeth ei chartref yng Nghraig y Nos.  Helaethodd gryn dipyn ar y castell a gwnaeth ef yn un o’r rhai gwychaf yn y rhan hon o’r wlad.  Yma y bu farw ond ym Mharis y claddwyd hi.  Dyna i chwi yrfa ramantus – ei geni yn Sbaen, ei haddysgu yn America, swyno cyfandiroedd â’i llais, marw yng Nghymru a’i chladdu yn Ffrainc.  Clywsom amryw storïau amdani – am ei haelioni, am ei thymer wyllt ac, wrth gwrs, am ei llais gogoneddus.

Ers blynyddoedd bellach y mae Castell Craig y Nos yn ysbyty ac erbyn heddiw y mae atyniad arall yn yr ardal.  Yn y flwyddyn 1912 darganfu’r brodyr Morgan, Ty Mawr, Abercraf, ogofeydd yn ochr y mynydd gerllaw Craig y Nos.  Sylweddolwyd ar unwaith fod i’r ogofeydd hyn wychder dihafal; buwyd am flynyddoedd yn treiddio i berfeddion y ddaear ac yn archwilio’r lle yn fanwl, ac yn Awst 1939, agorwyd yr ogofeydd i’r cyhoedd.  Ni allem feddwl am basio’r lle heb ei weled, ac felly, i fyny â ni i gyfeiriad yr ogof ac wedi talu am docynnau dyma ni’n mynd i mewn.  Am ryw dri chwarter awr buom yn crwydro dan y ddaear gan synnu’n fawr at y rhyfeddodau o’n cwmpas.  Ni wyddem ba un i’w edmygu fwyaf, ysblander godidog y stalactites a’r stalagmites neu’r modd deheuig (ac anghyffredin o hardd) y goleuwyd y lle â golau trydan o bob lliw.  Yn sicr nid oedd harddwch y plasau hynny y darllenir amdanynt yn storïau’r Arabian Knights yn fwy na harddwch tanddaearol Dan yr Ogof.  Aethom yn fud gan syndod wrth syllu ar ffurfiau cywrain y creigiau a’r bysedd calch.  Bu natur yn brysur yma yn cerfio delwau; yr oedd amryw ar lun pen eliffant ond yr angel a’r colomennod wrth ei draed oedd y rhyfeddaf o’r delwau i gyd.  Mewn cilfach, ymhell dan y ddaear, dyna lle saif yr angel – yr un ffunud â syniad pob plentyn am angel – dyn (neu fenyw) mewn gwisg laes hyd y traed ac adenydd yn tyfu allan o’r ysgwyddau.  Yr angel hwn, efallai, yw prif drysor Dan yr Ogof heddiw ond y mae natur wrthi o hyd yno yn creu delwau hynod eraill.  Rhywle yn yr ogof yr oedd afon yn llifo’n chwyrn ac wrth wrando ar ei swn dwfn prudd, ni allwn beidio â meddwl am linellau Coleridge yn Kubla Khan – “where Alph, the sacred river, ran through caverns measureless to man, down to a sunless sea”

Wedi dyfod allan, dyma ni’n torri’n henwau ar lyfr yr ymwelwyr ac yn mynegi mai pererinion yr Urdd oeddem ar ein ffordd i Dy Ddewi bell.

Erbyn hyn yr oedd y glaw yn clirio a’r haul yn dechrau torri trwodd ac felly penderfynasom ddringo’r mynyddoedd.  Gwaith anodd iawn oedd croesi’r clogwyni yn enwedig yn y mannau hynny lle’r oedd y llethrau yn serth iawn.  A ni ar y Mynydd Du, gallem sylweddoli mor wir oedd pob gair a ddywedwyd am ei beryglon.  Teimlem yn bryderus rhag ofn i’r cymylau tew ymgasglu eto ond bu ffawd o’n tu ac erbyn cyrraedd i ben y bannau (Bannau Caerfyrddin) nid oedd cwmwl i’w ganfod o gwbl.  Ein tâl am ddringo mor galed oedd gweld golygfa odidog – gweld gwlad Cymru yn ymestyn fel rhyw baradwys ar bob ochr a Llyn y Fan Fawr fel crisial i lawr yn y gwaelod.  Chwythai gwynt oed cryf, ac felly, heb aros, ymlaen â ni dros grib y mynydd gan gerdded dros dwmpathau a chorsydd i ben Llyn y Fan Fach.  Gwyddoch oll am chwedl Llyn y Fan Fach, ‘rwy’n sir, ond ni welsom ni na morwyn dlos yn eistedd ar wyneb y llyn na gwartheg ger y glannau.  Gallem weled gwlad Meddygon Myddfai a’i ffermydd cryno, ac o edrych i gyfeiriad arall, draw yn y pellter gwelem gastell Carreg Cennen, yn gadarn fawreddog ar ei graig uchel yn parhau o hyd i herio grym y drycinoedd.  Ymhen ychydig amser wedyn yr oeddem yn ymlwybro i lawr ar hyd yr afonig Sawdde, a chyrraedd fferm Blaen Sawdde.  Yma medd y chwedl y trigai’r llanc a briododd Rhiain Llyn y Fan.  Wedi cael gair o gyfarwyddyd gan y ffermwr ar y buarth dyma ni’n awr yn cymryd at y ffordd ac yn dringo i bentref tlws Llanddeusant.  Wrth edrych yn ôl, gwelem y Mynydd Du yn ei holl ogoniant.  Yr oedd yr haul wrth fachlud yn taflu gwawl euraid dros yr holl lechweddau ac yn taenu’r fath ledrith dros y fro fel na synnem o gwbl mai’r ardal hon a roes i’n cenedl un o’i chwedlau prydferthaf.

Gan ei bod yn hwyrhau nid oedd gennym amser i oedi.  Rhaid oedd rhuthro ymlaen er ein bod yn bur flinedig a dau ohonom wedi datblygu pothell ar ein sodlau.  Yr oedd wedi tywyllu pan gyraeddasom Langadog.  Aeth Mr. Saunders ac Alan ymlaen i Lanrhyd i dreulio’r nos yng nghartref Mr Perkins, Gwestfa; a Max a minnau i dy Mr W J Lloyd, prifathro Ysgol Llanddeusant.  Yr oedd Mr a Mrs Lloyd yn dechrau pryderu yn ein cylch.  Gwyddent yn dda am beryglon y mynydd ac yr oeddent wedi danfon eu mab droeon i chwilio amdanom.  Er bod Mrs Lloyd wedi paratoi cinio oddi ar saith o’r gloch, a ni’n cyrraedd tua deg o’r gloch, yr oedd y cinio, a chroeso’r teulu – yn ardderchog.

 

V:  Pererindod i Dy Ddewi

Y pererinion wrth Gastell Dryslwyn

Y peth cyntaf bore drannoeth oedd mynd drwy Langadog ac edmygu glendid y dreflan a’r awyrgylch cartrefol ar bob llaw.  Yr oedd Max a minnau wedi addaw cyfarfod â’r ddau arall ger fferm Dan yr Allt, ac felly yng nghwmni Derek, mab Mr a Mrs Lloyd, dyma ni’n dau’n gadael Llangadog.  Yr oedd fel bore gogoneddus o haf a’r heulwen a’r awyr iach yn gwneud inni deimlo mai braf oedd bod yn fyw.  Yr oeddem braidd yn hwyr yn cyrraedd Dan yr Allt a chlywsom yno fod Mr Saunders ac Alan eisoes wedi pasio heibio.  Gwnaeth hyn inni bryderu ychydig, gan na fynnem golli ar ein gilydd, ond wedi chwilio am beth amser a chwibanu a gweiddi dros y wlad dyma ni’n cael y ddau yn eistedd yn gyfforddus ddigon wrth fôn clawdd.  Gyda hwy yr oedd Mrs Roy Saunders.  Yn yr ardal hon y mae ei chartref hi ac yr oedd wedi dod o Gaerdydd i weld sut raen oedd ar y pererinion.  Yr oedd yn rhaid iddi gydnabod bod golwg lewyrchus arnom!  Bu’n gwmni diddan inni ar y ffordd am rai milltiroedd.

Aethom drwy bentref bychan Bethlehem, ond gan nad oedd yma ddim o bwys i’n denu i aros ymlaen â ni ar y briffordd, gan sylwi’n arbennig ar dir da’r ffermydd.  Yn fuan iawn dyma ni’n gweld yn y pellter dref bert Llandeilo – clwstwr o adeiladau ar fryn – ac wedi croesi drwy gae neu ddau a mynd dros bont fechan sigledig dyma ni yng nghanol y dref sy’n dwyn enw un o seintiau enwocaf y chweched ganrif.  Y mae yng Nghymru lawer o eglwysi yn dwyn enw Teilo, ond y mae gennym ni yng Nghaerdydd hawl arbennig ar y sant hwn gan mai yn Llandaf y claddwyd ef – ac y mae Llandaf ers blynyddoedd bellach yn rhan o Gaerdydd. 

Croeso Llandeilo i ni oedd cawod drom o law ond ni pharhaodd ond am ychydig funudau ac erbyn bod Alan a Max wedi ymweled ag un o’r siopau – ac Alan wedi anghofio’i ffon yn y siop – yr oedd yn braf unwaith eto.  Aethom heibio’r eglwys a’r twr cadarn a sylwi ar y ffynnon o dan wal y fynwent.  Wedi troi’n cefnau ar y dref dyma ni’n croesi’r bont hardd ac yna’n gadael y ffordd a mynd eto dros y caeau nes inni ddyfod i’r ffordd haearn.  Ni chymerodd ond ychydig funudau inni gyrraedd ffermdy Pentrecwn, ac yma eto cawsom brofiad o’r croeso gwych hwnnw sydd mor nodweddiadol o’r gwir Gymry, ac yr oedd Mrs Roberts – siriolaf o wragedd – wedi paratoi cinio campus ar ein cyfer.  Yr oedd yn flin gennym adael Pentrecwn ond gan ein bod i fwrw’r nos yng Nghaerfyrddin ni allem fforddio aros.  Dyma ni’n dychwelyd eto i ochr y ffordd haearn.  Heb fod yn nepell, ar ben bryn, gwelem gastell Dinefwr, hen gartref y Rhysiaid, tywysogion y Deheubarth.  Bu yma frwydro ffyrnig yn y dyddiau gynt, ond ni chaniatâ gofod i mi gyfeirio at yr hanes yma.  Soniwyd llawer am ardderchowgrwydd sefyllfa Castell Dinefwr, ond rhaid cyfaddef i mi gael fy siomi yn yr olwg a gawsom ni arno.  Golwg drist, golwg un wedi gweld dyddiau gwell ac wedi “dyfod i lawr yn y byd” oedd arno.  Y mae rhai cestyll, Harlech a Chilgerran er enghraifft, yn parhau’n heriog eu golwg, ond gwgu’n anfoddog yn hytrach na herio’n eon a wnâi Dinefwr pan oeddem ni’n pasio heibio.  O amgylch y tyrau hedai cigfrain – tair ohonynt – sydd ar bais-arfau teulu Dinefwr.

Wedi cefnu ar brif lys y Deheubarth daethom yn fuan i’r Gelli Aur, lle bu teulu’r Iarll Carberry y Fychaniaid, yn eu dydd yn arglwyddiaethu.  O dan ddylanwad yr uchelwyr hyn bu’r ardal hon yn gryf iawn o blaid y brenin Charles I adeg y Rhyfel Cartrefol.  Yma y daeth Jeremy Taylor – y diwinydd a’r llenor o Sais – i geisio noddfa rhag ei elynion.  Ei lyfr ef a gyfieithwyd gan Elis Wynne o Las Ynys dan y teitl “Rheol Buchedd Sanctaidd” (1701).

Ymlaen â ni wedyn hyd gastell Dryslwyn – hwn eto yn adfeilion.  Yma hefyd yr oedd y cigfrain crochlais yn teyrnasu a’r hen fawredd i gyd wedi darfod.  Draw yn y pellter gwelem y bryn hwnnw “George Hill” y bu John Dyer, mab cyfreithiwr o Gaerfyrddin, yn canu amdano tua dwy ganrif a hanner yn ôl.

Cadwasom i’r briffordd wedi gadael Dryslwyn ac yma eto yr oedd digon i’n diddori.  Mewn un lle gwelsom sipsiwn mewn carafán ar ochr yr heol.  Golwg afler oedd ar eu fen ac nid wyf yn credu y gallai hyd yn oed yr Archdderwydd Crwys ganfod rhamant yn yr esiamplau hyn o dylwyth y Romani.  Mae’n debyg mai Gwyddyl oeddynt ond siaradent Gymraeg yn ddigon rhugl a buont yn ddigon hynaws i ddymuno rhwydd hynt inni.  Wrth ddynesu at Gaerfyrddin a phasio Abergwili, preswyl Esgob Ty Ddewi, synnem fod pobl ar y ffordd yn gwybod pwy oeddem ac wrth ddyfod i mewn i Gaerfyrddin yr oedd yn amlwg bod yno lawer yn ein disgwyl.

A ni’n cyrraedd banc Barclay, dyma un o ffenestri’r llofft i fyny a Gwallter Dyfi, rheolwr y banc, yn rhoi ei ben allan i’n cyfarch.  Yma yr arhosodd Mr Saunders dros y nos.  (Tua phythefnos ar ôl hyn bu farw Gwallter Dyfi yn ddisymwth iawn.  Enillasai gryn enwogrwydd fel Cludydd y Cledd yn seremonïau a gorymdeithiau Gorsedd y Beirdd.  Edrychai mor iach â heini pan welsom ef fel na ddaeth i’n meddwl am foment fod y diwedd mor agos.  Heddwch i’w lwch).  Yn nhy’r Parch James Thomas yr arhosodd Max, a bu’r ddau wrth eu bodd yng nghwmni ei gilydd.  Bu Alan, yntau yn bwrw’r nos yng nghartref Mrs Rees, Heulfryn, gerllaw a minnau yn nhy’r prifardd enwog Dyfnallt.  Nid oedd ball ar garedigrwydd a chroeso’r ffrindiau hyn.  Yng nghwmni Dyfnallt a’i deulu treuliais innau oriau diddan iawn yn sgwrsio – am Lydaw yn fwyaf arbennig.  Y mae teulu Dyfnallt yn awdurdodau ar Lydaw a’i hanes a’i diwylliant, a chan fy mod i hefyd wedi bod yn aros yn Llydaw ac yn adnabod rhai o’u ffrindiau – megis yr Abbe Perrot o Scrignac – gellwch ddychmygu gymaint oedd gennym i’w ddweud wrth ein gilydd.  Gresyn na buasai Cymru’n llawn o gartrefi fel eiddo Dyfnallt.  Dyma gartref lle’r oedd popeth, iaith dlos ac ymddygiad y teulu, a hyd yn oed y darluniau a’r celfi o gwmpas y ty, yn dangos parch amlwg i bethau gorau’n cenedl ac yn gosod urddas teilwng ar y bywyd Cymreig.

Bore dydd Mercher ein gorchwyl cyntaf ar ôl dyfod at ein gilydd oedd galw yn ysgol Pentrepoeth i roddi hanes ein taith i’r plant a chwrdd â Miss E H Goodwin, Cymraes wlatgar sy’n gweithio’n galed dros yr Urdd.  Wedi gadael yr ysgol aethom ar unwaith i Eglwys Sant Pedr i weld bedd Syr Rhys ap Thomas, y Cymro a wnaeth gymaint i wneud Harri Tudur yn frenin Lloegr.  Yr oedd gwasanaeth yn yr eglwys – gwasanaeth Saesneg – ond un yn unig oedd yn y gynulleidfa.  Ni allwn lai na theimlo’n ofidus wrth glywed yr offeiriad yn parablu ei Saesneg – a hyn yn yr eglwys enwocaf ym mhrif dref un o’r siroedd mwyaf Cymreig.  Yn agos i feddrod Syr Rhys ap Thomas ceir cofeb i Syr Richard Steele, y llenor o Sais a gladdwyd gerllaw ym meddrod teulu ei wraig – merch o Langunnor.

Wedi dyfod allan o’r eglwys buom yn cerdded ar y briffordd ac ar hyd llawer o fân ffyrdd.  Hyfryd oedd gweld blodau’r gwanwyn, briallu a Chennin Pedr yn arbennig, ar bob llaw.  Yma yn Sir Gâr câi’r blodau siawns i dyfu i’w gogoniant llawn.  Pe baent yng nghyffiniau Caerdydd ofnaf y diwreiddiwyd hwy’n ddigon buan.

Yn gynnar yn y prynhawn dyma ni’n aros ar ben bryncyn ac yn gweld pentref Cynwil Elfed a’r wlad oddi amgylch – y wlad, a roes i Gymru un o’i phrif emynwyr – Dr. Elvet Lewis – y Prifardd Elfed.  Tybed ai rhywbeth yn yr ardal hon sy’n cyfrif am yr addfwynder sydd mor amlwg yng nghymeriad Elfed?  Ar y dydd braf hwn ymddangosai’r wlad fel pe bai mewn hun.  Trigai rhyw ddistawrwydd llethol dros y lle ac yn y pentref, hyd yn oed, nid oedd neb na dim yn symud.  Pan ddaethom i mewn i’r pentref glân, mae’n wir, yr oedd un swn i’w glywed, sef swn gramaffôn, o ryw dy gyfagos, yn canu’r gân Gymraeg – “Y Bwthyn ar y Bryn”.

 

VI:  Pererindod i Dy Ddewi

Y Pererinion yng ngweithdy’r turniwr, Abercuch.  Mr James Davies y turniwr, ar y chwith.

Yng Nghynwyl Elfed cawsom ginio mewn ty hen ffasiwn – ty ag iddo simnai fawr.  Er bod yr awyr las i’w chanfod drwy’r simnai yr oedd yr aelwyd yn hyfryd gynnes.  Nid ennill i gyd yw gratiau modern tai diweddar, ac i mi o’r ddinas fawr, yr oedd rhywbeth deniadol a chartrefol yn yr aelwyd lân â’i sgiw o dderi’r ardal.

Wedi gadael y pentref hwn dyma ni’n cyfeirio’n camau tua’r gogledd, gan gerdded am filltiroedd lawer ar hyd lonydd tawel y wlad.  Yr oeddem yn awr yn troi’n cefnau ar Sir Gâr ac o’n blaen gwelem fryniau gogledd Dyfed – “Gwlad yr Hud”.  Yn Nyfed (ac yn yr un cantref hefyd) y ganed Max a minnau, ac er inni gael ein codi yng Nghaerdydd erys ein serch at fro ein geni yn ddwfn iawn, ac wrth ddynesu at gyffiniau Dyfed ar y prynhawn teg hwn teimlem y gallem ganu gyda’r emynwyr – a rhoddi ystyr cwbl lythrennol i’r geiriau – “Tuag adref ‘rwyf yn teithio” a “Draw mae ‘ngenedigol wlad”.  Teimlem yn falch mai’n Dyfed ni oedd y wlad gain a ymestynnai o’n blaen.  Gogoniant ei lliwiau a’n trawodd fwyaf – gwyrdd a phorffor a glas yn arbennig – ar cyfan yn profi’n sicr fod yr hud a’r lledrith a ddisgynnodd ar Ddyfed yn parhau eto yn ei rym.  Yn y “Mabinogion” wrth gwrs, y cewch hanes yr hud yn disgyn ar Ddyfed.  Ni allem beidio â “thynnu coes” y ddau bererin arall ac edliw iddynt na chawsant hwy’r fraint o’u geni yng ngwlad yr hud!  Ond chwarae teg iddynt, yr oeddent yn fodlon cyfaddef mai anodd fyddai curo harddwch y fro a phan eisteddwyd wrth fôn clawdd i orffwys, y peth cyntaf a wnaeth Mr Saunders – ar ôl tynnu ei esgidiau – oedd cymryd ei bensel a gwneud llun o’r olygfa.  Draw yn y pellter yr oedd niwlen denau yn ymgasglu o gwmpas pen urddasol Carn Ingli.

Wedi dadluddedu, ymlaen â ni eto ac o’r diwedd dyma ni’n troedio daear Sir Benfro.  Aethom drwy Cwm Morgan a sylwi ar yr olwyn ddwr ar y dde ac yna ymlaen heb oedi nes cyrraedd yr enwog Gwm Cuch – Glyn Cuch y “Mabinogion”.  Yr oeddem i fwrw’r nos ym mhentref Abercuch – dau ohonom yn nhy Mr James Davies, y turniwr enwog, a dau yn nhy Mr Smith, y gweinidog ieuanc.

Yr oedd gwledd yn aros inni yn nhy Mr Davies, ac amryw wedi dyfod ynghyd i ddymuno’n dda inni ar ein taith.  Croesawyd ni â phenillion o eiddo’r turniwr ei hun.

Buom am oriau yn mwynhau’r danteithion a’r cwmni diddan yn nhy’r turniwr.  Dangoswyd inni drysorau lawer o’i waith ac ni allem gelu’n hedmygedd o’i grefftwaith.  Gresyn na buasai llawer yn debyg i’r crefftwr gwlatgar hwn.  Ynddo ef ceir esiampl dda o ddiwylliant uchel Cymru wledig. 

Yr oedd yn hwyr ar ddau ohonom yn gadael ty’r turniwr ac yn cyrraedd ty’r gweinidog.  Cymro glân gloyw, ar waethaf ei enw, yw’r gweinidog!  Cawsom groeso calonnog ganddo ef a’i briod; dyma ail ddechrau sgwrsio, ac yr oedd yn tynnu at ganol nos pan ddringwyd y grisiau i’r llofft.  Digwyddodd un peth rhyfedd wedi mynd i’r llofft.  Hyd yn oed mewn pentref anghysbell fel Abercuch rhaid gofalu nad oes golau’n dangos yn ystod oriau’r tywyllwch.  Ar ôl diffodd y golau yn yr ystafell wely aeth Max i dynnu llenni’r ffenestri yn ôl, ac yn y tywyllwch dudew collodd ef ffordd yn yr ystafell eang!  Digri tu hwnt oedd ei glywed yn ymbalfalu yn y tywyllwch.  Fel y digwyddai, yr oedd drws yr ystafell yn agored ac yn lle dyfod at y gwely mynd allan o’r ystafell a wnaeth Max.  Sylweddolodd ei gamgymeriad bron ar unwaith, ond nid mor haws, er hynny, oedd darganfod y gwely!

Bore drannoeth yr oeddem braidd yn hwyr yn codi – yn wir, dihunwyd ni gan Mr Saunders yn galw’n henwau o dan y ffenestr.  Ar ôl brecwast aethom oll i lawr at yr afon a’r coryglau.  Gwlad y coryglau yw hon a’n braint ni oedd mynd ar afon Teifi yn y cychod bregus hyn.  Dangoswyd inni sut i gadw’n sedd mewn cwrwgl gan un oedd yn feistr yn y gwaith.  Aethom i mewn i’n coryglau yn Sir Gaerfyrddin, croeswyd yr afon i Sir Aberteifi, ac yna aethpwyd i lawr yr afon a glanio yn Sir Benfro.  Yr oedd hyn yn bosibl am fod y tair sir yn cyfarfod yn Abercuch.  Nid anghofiwn y bore gogoneddus hwn ar yr afon; yn wir, ysbrydolwyd Max gymaint fel y dechreuodd gynganeddu am yr hyfrydwch a geir: “Yng Nglyn Cuch, yng nglan y cychod – helfan a hwylfan dibechod”!

Tri o’r pererinion mewn coryglau ar Afon Teifi.  Tynnwyd y llun gan yr awdur. 

Ar ôl hyn buom yng ngweithdy’r turniwr a chawsom ei weled wrth ei waith.

Bu un digwyddiad prudd ond diddorol yn ardal Abercuch ar y diwrnod hwn, sef angladd Iddew.  Gan nad oedd unrhyw rabi i gymryd y gwasanaeth, gofynnwyd i’n cyfaill, y gweinidog, ddyfod i’r adwy – ac efe, gweinidog gyda’r Bedyddwyr, a gymerodd y gwasanaeth claddu, gan ei gyfyngu ei hunan i’r Hen Destament a rhoddi boddhad arbennig i’r weddw drwy ddefnyddio Hebraeg yn y gwasanaeth.

Yr oedd wedi canol dydd arnom yn gadael Abercuch, ac yna aethom i hen eglwys Manordeifi i dalu teyrnged i Alun, y Bardd a’r Llenor, a gladdwyd yma.  1940 oedd canmlwyddiant Alun a theimlem mai’n dyletswydd oedd galw heibio.  Bu Alun (neu John Blackwell, yn ôl ei enw bedydd) yn offeiriad yn y lle hwn, ond fel bardd y daeth yn enwog.  Yn rhinwedd ei gerddi swynol enillodd le sicr yn serch ei genedl.  Yr oedd rhywun arall heblaw ni wedi cofio am Alun, oherwydd yr oedd pwysi o flodau newydd wedi’u gosod wrth droed y groes goffa ar ei fedd.  Y mae hen eglwys yn lle yn werth ei gweld hefyd.  Ceir ynddi hen gorau mawrion ac mewn ambell gôr yr oedd grât a lle tân!  Yr oedd yr hen ysweiniaid a’r beilchion gynt yn benderfynol o fod yn gynnes pan ddeuent yn eu tro i eglwys y plwyf.  Erbyn hyn codwyd eglwys newydd – mewn rhan arall o’r plwyf, gan fod yr hen eglwys yn rhy agos i afon Teifi a’r afon weithiau’n gorlifo’i glannau ac yn treiddio i mewn i’r eglwys.

VII:  Pererindod i Dy Ddewi

Y parti a’u baner ger porth Eglwys Gadeiriol Ty Ddewi

Wedi gadael Eglwys Manordeifi dilynwyd yr afon i Lechryd, ac yma rhaid oedd aros i edmygu’r bont gerrig hardd – un o’r harddaf yng Nghymru – a’r elyrch ar y dwr.  Yna ymlaen â ni eto ar hyd glannau Teifi.  Adlewyrchid y coed a’r glannau yn nwr clir yr afon a braidd na ddenai honno ni i ymdrochi ynddi.  Yr oedd Mr Saunders a Max yn awyddus iawn i nofio (mae’r ddau yn nofwyr campus), ond daeth chwa oeraidd heibio i’n hatgofio nad oedd yr haf eto yn ymyl, ac felly penderfynwyd peidio â mentro i’r dwr.  Dilynasom yr afon hyd Gastell Cilgerran, castell a baentiwyd gan rai o’r arlunwyr enwocaf – yn eu plith y Cymro, Richard Wilson.  Perthyn rhyw urddas anghyffredin i adfeilion y castell hwn ar ei fryn uchel, serth.  Bu llawer o ymladd o’i gwmpas o dro i dro, ond heddiw er bod rhyfel yn rhwygo’r byd heddwch sy’n teyrnasu yma, a’r Gymraeg yw iaith yr ardal.  O Gilgerran cerddwyd dros lawer o gaeau, a daethom allan i’r ffordd fawr yn agos i bont Aberteifi.  Croeswyd y bont dlos ac i fyny â ni, heibio muriau’r hen gastell, i’r dref honno – nid yn unig er mwyn ei gweld hi, ond er mwyn cael dweud inni fod yn Sir Aberteifi hefyd ar ein pererindod!  Wedi cael tro drwy’r dref, dyma ni’n dychwelyd at y bont ac yn sylwi ar aber yr afon.  Bu cyflafan erchyll yma ganrifoedd yn ôl.  Llifai’r afon pryd hynny yn goch gan waed y meirw, a dywedir y gellid ei chroesi’n droedsych gan mor niferus y cyrff.  Y mae i dref Aberteifi hanes hir, diddorol, ond ni ellir ymdrin â hwnnw yma.

A ninnau’n ôl eto yn Sir Benfro, daethom mewn byr amser i Landudoch a thy Nyrs Owen, nyrs ragorol gwersyll Llangrannog.  Gwyr pob gwersyllwr am ei charedigrwydd a’i thynerwch hi.  Cawsom groeso calonnog ganddi hi a’i brawd a’i chwaer; ac yn wir, yr oedd yn ffodus mai yn nhy’r nyrs yr oeddem, gan fod dau o’r pererinion erbyn hyn yn bur lluddedig a’u traed yn eu blino’n arw.  Yr oedd gwir angen nyrs neu feddyg arnynt!  Efallai y dylwn roddi gair o rybudd yma i unrhyw un sy’n meddwl am efelychu taith fel ein taith ni.  Cymharol hawdd yw cerdded pum milltir ar hugain neu ragor mewn diwrnod; daw’r anhawster a’r dreth ar y corff pan geisir gwneud hynny bob dydd.  Hwyr y chweched dydd y cyrhaeddwyd Llandudoch, ac er bod gwir angen seibiant arnom oll, ni chaniatâi’n trefniadau inni aros ond un nos yn y pentref hwn.  Arhosodd dau yn nhy’r nyrs a dau yn nhy Miss Arianwen Williams.  Wedi myned i’r gwely bum ar ddihun am ychydig, yn gwrando ar rai pentrefwyr hwyrfrydig yn cyrchu tuag adref.  Amheuthun oedd clywed eu Cymraeg - y Ddyfedwys gain “iaith bereiddia’r ddaear hon” i ddau ohonom.

Bore drannoeth aethom i weld adfeilion abaty Llandudoch ym mynwent Eglwys y plwyf.  Fe’m siomwyd gan yr eglwys foel, ddiaddurn; ychydig o’r awyrgylch cysegredig a gysyllter ag eglwysi sydd yma.  Am yr abaty, ychydig iawn ohono sydd ar ôl; bu Gerallt Gymro yn treulio’r nos ynddo unwaith, ond heddiw nid oes yno “un erddigan ond y gwynt”.  Darfu’r gogoniant yn llwyr, a “drych o dristwch” erbyn hyn yw hen fangre’r Ffydd.

Wedi cefnu ar yr abaty – a’r garreg ogam yn y fynwent – dyma ni’n myned drwy Cwm Degwel ac i fyny’r rhiw gan basio bedyddfa capel enwog Blaen Waun, ac ymlaen wedyn i blas Pont Saeson, cartref y Fonesig Mallt Williams, un o gyfeillion pennaf yr Urdd.

Cyrraedd yr Eglwys Gadeiriol

Mor hyfryd oedd gweld bonesig glodus fel hi yn rhoddi’r fath fri ar iaith a diwylliant Cymru.  Gwahoddwyd ni i aros i ginio, ond yn anffodus, ni chaniatâi amser, ac felly daeth nai’r fonesig, Mr Elystan Williams, i’n hebrwng dros gaeau’r ystâd hyd Drewyddel.

Diwrnod teg oedd hwn eto.  Yr oeddem bellach yn tramwyo ffordd yr hen bererinion, ond ni ddigwyddodd dim o bwys nes inni gyrraedd Nanhyfer.  Heb fod ymhell o eglwys Nanhyfer y mae Croes y Pererinion – croes wedi ei naddu allan o’r graig ei hun, a lle i bererinion benlinio wrth ei throed.  Yr oeddem yn paratoi i dynnu llun pan sylwodd Max ar neidr hir wrth draed Mr Saunders.  Gwaeddodd Max arno, a symudodd Mr Saunders ychydig i’r naill ochr, ond ar unwaith sylwais innau ar ddwy wiber arall wrth droed Mr Saunders! Dyma finnau, ‘nawr yn gweiddi, a Mr Saunders yn neidio’n ôl.  Yr oeddem wedi sangu ar nythaid o nadroedd gwenwynig, ac y mae’n wyrth i’r pedwar ohonom ddianc yn ddianaf.  Ar ôl y profiad annifyr hwn aethom i fynwent yr eglwys i weld yr “ywen waedlyd” fel y’i gelwir, a Chroes Nanhyfer, un o’r croesau Celtaidd harddaf.

Oddi yno aethom heibio i blasty Llwyngwair ac i Drefdraeth, gan alw yng nghartref Mr Lloyd richards, yr awdur lleol, i gael bwyd.  Ar hyd y briffordd â ni wedyn i bentref Dinas, ac yna i Abergwaun enwog – bro fy nghyndeidiau – i fwrw’r nos, dau yn Awelfor, cartref Miss Edith Thomas a dau yn nhy Mr W E Nicholas, Prifathro Ysgol y Cyngor.  Cawsom hwyl a charedigrwydd mawr yma eto a chan inni gyrraedd yn gynnar aethpwyd am dro o gwmpas y dref.  Tri digwyddiad pwysig sydd yn hanes yr ardal hon – glaniad y Ffrancod (yn 1797) creu’r harbwr hardd a dyfod â’r ffordd haearn i Wdig gerllaw, ac yn 1936 cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol.  Mynnwch wybod am wrhydri merched Abergwaun, a’u hystryw, dan arweiniad Jemima Nicholas gadarn, i orchfygu’r Ffrancod.  Erbyn hyn, gan i’r digwyddiad cyffrous roddi’r dreflan “ar y map” fel petai, y mae trigolion Abergwaun yn falch iawn mai yn eu hardal hwy y glaniodd y Ffrancod!

Dyma wlad teidiau Mr Lloyd George ac y mae perthnasau iddo yma o hyd – llawer ohonynt yn Gymry selog ac yn cefnogi’r Urdd.  Yng nghartref Mrs B J George, Scleddy Ganol, y cawsom ninnau ginio ar ein ffordd o Abergwaun, ddydd Sadwrn.  Wedi gadael pentref Scleddy aethom i weld bedd William George – tad Mr Lloyd George – ym mynwent Eglwys Trefwrdan – eglwys fechan unig yng nghanol gwlad dlos.  Cerddwyd rhai milltiroedd ar y briffordd ac yna troesom i lawr i Drefin – “cant o dai ar un graig” i weled olion yr hen felin a anfarwolwyd gan yr Archdderwydd Crwys.  Yn Nhrefin cawsom dderbyniad gwresog iawn ar aelwyd Mr J W Evans YH, a chyflwynwyd inni benillion gan Olif o Drefin.  Dyma i chwi’r pennill cyntaf:

“Pwy welaf drwy’r pentref yn dod
‘Rôl siwrnai ddiddorol ond maith
Ond pedwar Pererin yr Urdd

Yn nesu at derfyn eu taith.

 

VIII:  Pererindod i Dy Ddewi

CYSEGRU BANER CYMRU GER ALLOR EGLWYS GADEIRIOL TY DDEWI

Ar y chwith Mr W C Elvet Thomas ac ar y dde Maxwell Evans

Diwrnod pwysig iawn oedd dydd Sul, Ebrill 14 – diwrnod yn yr Eglwys Gadeiriol ei hun – a chredwn inni, fel cynrychiolwyr ieuenctid Cymru, greu hanes o’r newydd.  Yn y gwasanaeth ar fore Sul, wrth yr allor gain ac yn ymyl delw o Ddewi Sant, cyflwynwyd baner sidan godidog y Ddraig Goch, baner Cymru, a neges Arglwydd Faer Caerdydd i’r Deon Watcyn Morgan. [Gwnaeth y Deon ymdrech arbennig i ddyfod i’r gwasanaeth.  Yr oedd yn amlwg i bawb fod ei nerth yn pallu, ac ysywaeth, ymhen rhyw dair wythnos bu farw].

Yn y prynhawn y cynhaliwyd y cyfarfod pwysicaf, yn Nghapel y Drindod Sanctaidd, y capel hardd lle cedwir yr hyn a gredir yw gweddillion Dewi Sant mewn cist yn y wal.  Cludwyd baner y Ddraig Goch drwy’r Eglwys i Gapel y Drindod a dodwyd hi, nid ar yr allor y tro hwn, ond wrth ymyl y gist, yn wynebu’r allor.  Credwn mai dyma’r tro cyntaf erioed i faner Cymru gael ei hanrhydeddu fel hyn ym Mhrifeglwys Dewi.  Yr oedd y capel yn llawn a’r gwasanaeth yng ngofal y Canon J J Evans.  Efe a offrymodd “Weddi Dewi Sant” ac a arweiniodd y gynulleidfa yng Ngweddi’r Arglwydd.  Darllenwyd rhannau o’r Ysgrythur gan Mr Roy Saunders, Alan a Max a darllenais innau hanes marw Dewi o “Lyfr yr Ancr” hen lyfr Cymraeg a ysgrifennwyd tua chwe chanrif yn ôl.

Fel hyn y buom, yn enw’r Urdd, yn talu teyrnged i’n nawdd sant ac i wroniaid Cymru Fu.  Ar ôl y gwasanaeth cludwyd y faner eto drwy’r Eglwys fawr a’i gostwng wrth feddrodau rhai o’r enwogion – Gerallt Gymro; yr Arglwydd Rhys; Edmwnd Tudur (Iarll Richmond), tad y brenin Harri VII; y Deon Howell (Llawdden); ac eraill.  Efallai nad oedd Edmwnd Tudur yn gwbl haeddu’n teyrnged, ond pan gofiwyd mai’r Ddraig goch oedd baner Harri VII ei hun, tybiwyd nad amhriodol oedd dwyn y faner genedlaethol at feddrod ei dad.

CYFLWYNO’R FANER GER YR ALLOR

Mr Elvet Thomas yn derbyn y faner gan Maxwell Evans, Mr Roy Saunders ac Alan Greedy yn sefyll.

Yn uchafbwynt i’n seremoni dygwyd y faner i’r Uchel allor, a thrwy ganiatâd arbennig tynnwyd y llun hwnnw o Max a minnau yn ei dal o flaen yr allor.  A welwyd erioed o’r blaen unrhyw lun o’r Ddraig Goch yn cael ei dyrchafu fel hyn mewn Eglwys Gadeiriol?  Ni thybiaf hynny, ac ymfalchïwn mai aelodau o’r Urdd, yng ngwisg yr Urdd, a gafodd y fraint a’r anrhydedd o roddi’r urddas newydd hwn ar faner y genedl.  Bu’r faner yn y Brif eglwys dros nos.

Bore drannoeth ymwelwyd eto â’r Brif eglwys, paciwyd y faner a danfonwyd hi mewn bws i Hwlffordd.  Cerdded i Hwlffordd, wrth gwrs, a wnaethom ni.  Yr oedd hiraeth yn ein calonnau wrth ganu’n iach i Dy Ddewi ond cawsom fwynhad mawr hyd yn oed ar y diwrnod hwn.  Cerddasom ar hyd y creigiau a rhoes natur wledd i’n llygaid.  Nid yn fuan yr anghofiwn ogoniant llachar yr heulwen ar donnau glas y môr.

Daethpwyd i Solfach dawel – pentref o Gymry – ond o hyn ymlaen yr oeddem yn dynesu at ranbarth Seisnig Sir Benfro a phan gyrhaeddwyd traeth Newgale a chastell Roch ni allem beidio â sylweddoli ein bod wedi cefnu ar Benfro Gymraeg ac wedi dyfod i diriogaeth y “down belows” fel y gelwir pobl de Penfro gan Gymry gogledd y sir, Cyrhaeddwyd Hwlffordd yn yr hwyr brynhawn a chael bod rhai Cymry selog hyd yn oed yn y dref bwysig, ddiddorol hon.  Cawsom groeso gwir Cymreig a llety dros nos gan Mr Thomas Davies, Llyfrgellydd y Sir, a chan Mr John Llewellyn a’i deulu.  Drannoeth, dydd Mawrth Ebrill 16, dangoswyd inni drysorau llyfrgell ac amgueddfa Hwlffordd, ac yna tua chanol dydd, daeth y Llyfrgellydd mwyn i’n hebrwng i’r orsaf i ddal y trên yn ôl i Gaerdydd.

 

Pererindod 2004 – Siân Swinton

Cyrraedd Llandudoch ar y nos Sul a chael gwely a brecwast yn y ‘Berwyn’ o dan ofal Eiddwen, Warden y Ficer.  Mi adawodd Pat a finnau Eglwys Sant Tomos Llandudoch am 10.30 bore Llun 23ain Awst 2004, ar ôl cael cymundeb a bendith o dan ofal caredig y Parchedig Dorrian Davies.  Fe ganodd gloch yr eglwys nes bo ni wedi mynd heibio bedyddfa a Capel Blaenwaun. 

Yna, allan a ni i Croft ac ar ein ffordd i Nanhyfer.  Un storm ar y ffordd – a gwlychu yn sops – ond ymlaen a ni.  Cyrraedd Nanhyfer – a chwrdd â’m cyfnither Eiry Ladd Lewis.  Mynd i ymweld â’r eglwys a’r goeden waedlyd ac yna clywed llais adnabyddus Ethni Daniel, ond Ethni Jones ers llawer blwyddyn erbyn hyn!  Fe gerddom lwybr y pererinion hyd Trefdraeth, a chofiais am stori Roy Saunders yn darganfod nyth – o nadroedd!!!  Tony, gwr Eiry yn ein cwrdd yn Nhrefdraeth.  Roedd Ethni wedi dod pob cam o Gaerdydd i’m cefnogi, ac roedd hi yn aros mewn bwthyn yn Nhrefdraeth gyda’i gwr Michael a’u mab, Garmon ap Michael.  Atgofion melys tra’n cerdded gyda Ethni. 

Pat a fi yn cael bath, pryd o fwyd da, a gwely cyfforddus ym mwthyn Eiry a Tony.

Bore Mawrth – cwrdd â Ethni, Michael a Garmon y tu allan i’r siop lyfrau am ddeg.  Yna, i draeth Parrog ac ar hyd yr arfordir i Cwm yr Eglwys.  Yno Michael a Garmon yn troi am nôl.  Ymlaen a Pat, Ethni a mi i Pwll Gwaelod.  Cawl moron ac oren i ginio.  Yna ymlaen i Abergwaun.  Ffarwelio ag Ethni, a diolch o galon iddi am ei ffyddlondeb.  Fy ffrind Mandy yn dod i’n casglu ac aros gyda hi a’r teulu yng Nghastell Newydd Bach.  Noswaith gysurus unwaith eto.

Bore Mercher – cychwyn o Abergwaun i Trefin, nid ar hyd yr arfordir ond drwy’r wlad.  Diwrnod braf a theimlo awel y môr.  Teimlo tipyn o hiraeth, ond mae gennyf atgofion melys.  Bws yn ôl i Abergwaun a thaith hyfryd drwy’r pentrefi bach ac roeddwn yn adnabod llawer o enwau’r pentrefi o’r bererindod yn 1940.  Aros gyda Mandy eto a chwrdd a rhai o aelodau Cymdeithas Hanes Sir Benfro.  Noswaith braf a’r traed yn iawn, dim ond un blister bach!

Bore Iau – Mandy yn mynd â ni at ‘wely a brecwast’ yn Groesgoch Llanrhian i arbed cario’r bagiau trwm! Dechrau cerdded yr arfordir o Llanrhian i Berea, yr un ffordd a’r pererinion o’n blaen.  Fy mab Steffan a Rebecca yn dod i’m cyfarfod, pryd o fwyd bendigedig i ni yn y Sloop Porthgain heno!

Bore Gwener – brecwast gwych a chwrdd a Eiry yng nghyffiniau Ty Ddewi.  Emosiynau cymysglyd – y daith yn dod i ben.  Cyrraedd top grisiau yr Eglwys Gadeiriol Ty Ddewi yn nerfus iawn – braf gweld wynebau adnabyddus y teulu – Eiry, Pat a Steffan wrth fy ochr, a Math a Geraint yn dod i fyny’r grisiau i’n cwrdd.  Teimlo bod ail agor yr hanes yn cyfiawnhau’r daith, wrth ysgwyd llaw gyda’r deon – Y Gwir Barchedig Wyn Evans a groesawodd fy nhad pan aeth y faner yn ôl i Dy Ddewi i orffwys am y tro olaf.  

Ac yna, gweld wyneb cyfeillgar Alan Greedy, y pererin ar ffrind ffyddlon a gerddodd gyda’n nhad, Elvet a Roy Saunders ar y bererindod yn 1940.  Gwasanaeth ddyledus yn yr Eglwys, a’r fraint o weddïo a chanu emyn wrth ochr Alan Greedy – a chofio – a DIOLCH.

Diolch arbennig i Gareth a Jeanne Davies am gynllunio’r Crysau-T.

 

Gair gan Alan Greedy

Ar fore braf mis Ebrill dros 64 o flynyddoedd yn ôl, pan gerddodd y pedwar ohonom ni i fyny’r trac ar ochr y Wenallt yn Rhiwbeina nid oedd y ffaith ein bod ni’n bererinion mor flaenllaw yn ein meddyliau a rhai problemau eraill fel y sgidiau rhy newydd, y pryd o fwyd nesa a’r deg ar hugain o filltiroedd i’w teithio ar y diwrnod cyntaf hwnnw cyn cyrraedd Aberdâr!  Ond daeth yn amlwg yn fuan bod y ddau athro a’r ddau fachgen o Ysgol Cathays yn mynd i ffurfio pedwarawd diwyd a chydweithredol a allai helpu i roi hwb i enw’r Urdd fel mudiad ieuenctid heddychlon yn nyddiau cynnar y rhyfel.

Roedd Elvet Thomas ein harweinydd wedi creu rhestr o bobl ddiddorol a lleoedd o bwys ar hyd y ffordd reit lawr i Dy Ddewi ac ymddangosai fod y fenter yn codi peth brwdfrydedd a diddordeb.  Fe hefyd wnaeth y trefniadau holl bwysig â’r  Esgob a’r Urdd a’r Arglwydd Faer.  Roedd Elvet yn fwy nag athro arbennig a gwladgar.  Heb ei ail – roedd ei enaid eisoes ar allor Cymru.

Roy Saunders oedd yn hen gyfarwydd a chefn gwlad Cymru a chroesawodd y cyfle i ofalu am ddeuaryddiaeth y daith a sicrhau ein bod ni’n dilyn y ffyrdd a’r llwybrau mwyaf priodol a dymunol a cheisiodd gyfuno dolennau Elvet yn gadwyn ymarferol.  Roedd eisoes yn adnabyddedig fel arlunydd ac yn y blynyddoedd i ddod daeth yn enwog fel awdur a nofelydd natur.  Gyda’i gi defaid Tess yn chwilio am waith prynodd braidd o ddefaid, a nhw ysbrydolodd hunangofiant Tess i’r silff lyfrau, a ddilynwyd gan hunangofiant eog a hanes codi’r llong werthfawr Vasa o waelod porthladd Stockolm ar ôl pedwar can mlynedd.

Roedd Max Evans a minnau wedi bod gyda’n gilydd a bechgyn eraill Ysgol Cathays yn y gwersylloedd yn Llangrannog a Phorth Dinllaen a phryd y bererindod roedden ni yn y chweched dosbarth.  Ond, effeithiwyd ar y blynyddoedd nesa gan y rhyfel ac er bod y ddau ohonom ni yn Adran Gymraeg Coleg y Brifysgol yng Nghaerdydd dan lygaid yr Athro W J Gruffydd a’r Athro G J Williams roeddwn i i ffwrdd o’r coleg tan 1946.

Aeth Max i fod yn athro ac yn addysgwr o fri ac wedyn yn Weinidog poblogaidd iawn yn Eglwys Dewi Sant yng Nghaerdydd lle y bendithiwyd ni y diwrnod cyn y bererindod gan ein rhagflaenydd y Parch R M Rosser.  Yno hefyd y cynhaliwyd gwasanaeth angladd i Max cyn iddo fynd yn ôl i Landudoch lle y ganwyd ef yn 1923 a chlywsom ni yn yr eglwys y diwrnod hwnnw, ymysg ein tristwch, rai o fanylion bywyd cyfoethog a chyflawn gwladgarwr a oedd yn hen gyfaill a chyd-bererin annwyl dros ben.

Yn ôl yn y coleg ar ôl tair blynedd gyda’r Fleet Air Arm, ar ôl graddio a chwarae rygbi i’r coleg a chlwb Caerdydd ces i swydd yn y CO1 yng Nghaerdydd i ysgrifennu erthyglau i’r papurau Cymraeg a chyfieithu cyhoeddiadau.  Nes ymlaen roeddwn i’n gyfrifol am ymgyrchiadau ac arddangosfeydd swyddogol a gwaith i’r Swyddfa Dramor ynglyn ag ymweliadau gwesteion tramor a dirprwyaethau â Chymru.

Drwy’r blynyddoedd yr oeddwn yn ddringwr ac ogofawr brwd ac yn hwyliwr angerddol ac ar ôl ymddeol cyfnewidiais fy nghwch “Madog” am “Hiraeth” ac fe aeth yntau â baner Cymru a minnau rownd y byd yn yr wythdegau.

Pa mor arbennig oedd i mi gael y pleser yn ddiweddar o groesawu Sian Swinton, merch Max Evans, a’i chyfeilles Pat Kingston i Dy Ddewi ar ôl iddynt hwy ddilyn rhan o’r un daith er cof am yr hyn wnaethom ni yn 1940.

    

Yn awr mewn mileniwm gwahanol mae canolfan newydd y celfyddydau ar fin agor yn y brifddinas ac ynddi cartref newydd i Urdd Gobaith Cymru.  Ni allaf ond colli deigryn na all y pedwar pererin a safodd o flaen allor Dewi rhyw ddiwrnod amser maith yn ôl ymuno â’i gilydd i gerdded i mewn yn eu siacedi gwyrdd i gartrefle newydd sbon yr Urdd.

Alan Greedy Hâf 2004

Erthygl ymddangosodd ar safle We – Cymry’r Byd
gan Gwyn Griffiths

Pererindod i gofio pererindod
Roedd naws pererinion i'r dyrfa fach ddaeth i gyfarfod Siân Swinton wrth borth Eglwys Gadeiriol Tyddewi am hanner dydd, dydd Gwener, Awst 27.

Gwahanol iawn i'r llu twristiaid penwythnos gŵyl banc oedd yn crwydro o amgylch Dinas Dewi. Dyrnaid yng nghrysau T yr Urdd, ambell un wrth ffon fuasai'n deilwng o'r oes pan oedd Tyddewi yn un o dair cyrchfan bwysicaf gwledydd cred.

Bu Siân a chyfeilles, Pat Kingston, yn cerdded ers dydd Llun o Landudoch i Ddinas Dewi, weithiau y nhw eu dwy, weithiau gydag eraill fel Ethni Jones yn ymuno â nhw am ran o'r daith.

Aros amdanyn nhw tu allan i'r Eglwys Gadeiriol oedd gŵr Siân, ei mab Steffan, ei brawd Iwan, ac amryw ffrindiau, perthnasau a chyfeillion.

Cawsom groeso gan Ddeon yr Eglwys Gadeiriol, Y Gwir Barchedig Wyn Evans, a'n gwahodd fewn i Gapel Mair lle cynhelir gwasanaethau Cymraeg yr Eglwys Gadeiriol bob bore Sul.

Offrymodd weddi a chanwyd emyn Lewis Valentine, 'Tros Gymru'n Gwlad'. Uwch ein pennau crogai baner y Ddraig Goch. Baner ag iddi arwyddocâd arbennig i amryw o'r rhai ddaeth ynghyd, a'r rheswm dros bererindod Siân a'r gwasanaeth byr.

Pererindod y 1940au
Oherwydd ym 1940 a 1941 roedd ei thad, y diweddar Maxwell Evans, wedi mynd ar bererindod - ar droed - o Gaerdydd i bob un o Gadeirlannau Cymru yn eu tro lle cysegrwyd y faner yn enw Urdd Gobaith Cymru a ieuenctid Cymru.

Cafodd y faner ei chyflwyno i Adran yr Urdd, Ysgol Uwchradd y Bechgyn, Cathays, Caerdydd, gan ŵr o'r enw Arthur McTaggart Short, edmygydd mawr o waith Ifan ab Owen Edwards (Syr Ifan, wedi hynny) ac Urdd Gobaith Cymru.

"Pan oeddwn i'n blentyn ac yn aelod o Uwch-Adran yr Urdd yng Nghaerdydd fe fydden i'n amal yn mynd ar deithiau cerdded gydag arweinwyr y gangen, Nia Daniel a'i chwaer Ethni (Jones)," meddai Siân.

"Bydden ni'n dod adre'n flinedig ond gelen ni ddim llawer o gydymdeimlad gyda nhad. 'Twt, we hynna ddim byd,' wede fe. 'Pan we'n i'n mynd ar y pererindodau ...' Wedyn bydden i'n gweud 'Gwed y stori wrthon ni 'to, Dad'. Fe gês i'n magu gyda hanes y teithie hynny.

"Dyna pam gerddes i o Landudoch - lle mae nhad wedi ei gladdu -i Dyddewi, i weld rhai o'r golygfeydd welodd fy nhad, i deimlo'r wefr deimlodd e wrth gerdded mewn i Dyddewi ac i gyflwyno'r hanes i'r genhedlaeth nesaf. Achos mae hi'n rhan o stori'r Urdd ac o hanes adfywiad y Gymraeg yng Nghaerdydd."

Ysbrydoliaeth W. C. Elvet Thomas
Disgybl yn Ysgol Uwchradd y Bechgyn Cathays, Caerdydd, oedd Maxwell Evans yn 1940. Roedd athro Cymraeg Cathays, W. C. Elvet Thomas, yn ddyn arbennig iawn. Sefydlodd Adran o'r Urdd yn yr ysgol yn y tridegau, adran daflodd ei hun fewn i holl weithgareddau'r mudiad yn y cyfnod cynhyrfus hwnnw.

Ysbrydolodd Elvet Thomas genedlaethau o ddisgyblion - y mwyafrif o gartrefi di-Gymraeg - i ddysgu'r iaith yn rhugl. Daeth llawer ohonyn nhw'n enwau cyfarwydd ledled Cymru: y diweddar Rowland Lucas fu'n brif swyddog hysbysrwydd BBC Cymru am flynyddoedd; Alan Greedy fu'n swyddog hysbysrwydd yn y Swyddfa Gymreig gyda chyfrifoldeb dros gyflwyno Cymru i wleidyddion a swyddogion o wledydd eraill; yr Athro Bobi Jones, Athro Cymraeg Coleg y Brifysgol Aberystwyth; Tedi Millward, o Adran Addysg Aberystwyth; Bili Raybould, chwaraewr rygbi adnabyddus yn y chwedegau a gŵr amlwg mewn addysg yng Nghymru; y diweddar Gilbert Ruddock, bardd ac ysgolhaig yn yr Adran Geltaidd, Prifysgol Dulyn. Gellid enwi llawer o rai eraill. Mae'n rhestr ryfeddol.

Aeth Elvet Thomas a thri bachgen o'r ysgol gydag e ar y bererindod i Dyddewi - Maxwell Evans, Roy Saunders ac Alan Greedy.

Alan Greedy - disgybl Elvet Thomas
Roedd Alan Greedy - yr unig un sydd bellach yn fyw - wrth borth yr Eglwys Gadeiriol i groesawu Siân ar ddiwedd ei thaith.

"Syniad Elvet Thomas oedd rhoi hwb i Gymru a'r Gymraeg a'i diwylliant," meddai Alan, oedd yn fachgen un ar bymtheg oed ym 1940. "Doedd hi ddim yn daith hawdd, ryw igam-ogam o daith. Fe aethon ni lan y Wenallt, drwy Gaerffili, y Groeswen, Eglwys Llan, drosodd i Senghennydd a nôl lan i Gilfynydd, i Ynysybwl, Llanwynno a throsodd i Abercwmboi yng Nghwm Cynon.

"Rwyn cofio ni'n mynd heibio Sgwd yr Eira ym mhen ucha' Cwm Nedd ...wedi i ni gyrraedd Abergwaun, fe ddilynon ni'r glannau i Dyddewi. Rwy'n cofio lletya noson yn Nhrefîn gyda'r Prifardd a'r Archdderwydd Trefîn a'i wraig Maxwell Fraser.

"Fe ddysges i gymaint am Gymru ar y daith honno - roedd Elvet Thomas yn adnabod Cymru mor dda. Rwy' mor falch fod Siân wedi meddwl gwneud ei phererindod ei hun fel rhyw fath o deyrnged i Max a'r gweddill ohonon ni."

Daeth Alan a hen gopïau o Cymru'r Plant gydag e, copïau oedd yn cynnwys erthyglau manwl a lluniau o'r daith wedi eu hysgrifennu gan Elvet Thomas.

Ym 1941 aeth Elvet Thomas a Maxwell Evans ar bererindod o Gaerdydd i Eglwys Gadeiriol Llanelwy ac oddi yno i Gadeirlan Bangor a channoedd o bobl yn aros i'w croesawu yn y ddau le.

Wedi i'r faner gael ei chysegru ar allor pob un o Eglwysi Cadeiriol Cymru - fe wnaed hynny yn Llandaf cyn cychwyn a thaith deuddydd oedd hi i Aberhonddu - arferwyd defnyddio'r faner ar Ŵyl Ddewi yn Ysgol Cathays a'i chludo i fewn i Eglwys Dewi Sant Caerdydd adeg gwasanaethau arbennig gan yr Urdd.

Hefyd yn bresennol yn Nhyddewi ddydd Gwener oedd Iwan Evans, mab Maxwell Evans a brawd hŷn Siân. "Rwy'n meddwl mai fi oedd yr olaf i gael y fraint o gario'r faner fewn i Eglwys Dewi Sant," meddai Iwan, fu hefyd yn un o ddisgyblion Elvet Thomas yn ysgol Cathays.

Gwelwyd chwyldro mewn addysg Gymraeg yng Nghaerdydd ers y dyddiau hynny. Roedd Siân yn un o ddisgyblion cyntaf Ysgol Gyfun Rhydfelen a agorwyd ym 1962. Gofalwyd am y faner yng nghartref Elvet Thomas, ac wedi ei farw ef cytunodd ei weddw, Mair Elvet Thomas, ei throsglwyddo i ofal Eglwys Gadeiriol Tyddewi, ac ym 1997 fe'i derbyniwyd mewn gwasanaeth dan ofal Archesgob Cymru, y Parchedicaf George Noakes.

Oddi ar hynny bu yng Nghapel Mair yn y Gadeirlan.

Er ei eni yn Sir Benfro, magwyd Maxwell Evans yng Nghaerdydd. Yn ystod ei fywyd bu'n weinidog gyda'r Bedyddwyr, yn athro ysgol yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, yn Drefnydd Cymraeg Ysgolion Uwchradd Morgannwg Ganol a wedi hynny'n Offeiriad gyda'r Eglwys yng Nghymru.

Erbyn hyn mae dwy ysgol uwchradd ac oddeutu dwsin o ysgolion cynradd Cymraeg yng Nghaerdydd. Gwyrth yn wir. Wrth lawenhau yn y cynnydd hwnnw, roedd yn briodol cofio ddydd Gwener am waith mawr W. C. Elvet Thomas yn cynnal Cymreictod yng Nghaerdydd, yn cysylltu'r Cymreictod hwnnw â gweddill Cymru ac yn ysbrydoli bechgyn fel Maxwell Evans. Hynny mewn cyfnod pan nad oedd addysg cyfrwng Cymraeg yn ddim mwy na breuddwyd.

"Gwnewch y pethau bychain ..." ys dywedodd Dewi. Ond roedd yr hyn gyflawnodd Elvet Thomas yn ei ddydd yn Cathays yn wyrth. Gwych o beth wnaeth Siân Swinton yn ein hatgoffa ni o hynny.

Gwyn Griffiths – Medi 2004

Ac i gloi …

y ddau bererin yn cyfnewid esgidiau …

Daeth W C Elvet Thomas a Maxwell Evans at ei gilydd wedi’r bererindod i Dy Ddewi.  Y tro hwn aeth y ddau ar bererindod i’r Gogledd ac i Eglwys Gadeiriol Llanelwy.  Bu’r daith yr un mor anturus, ac yn wir bu’r ddau ar goll ar fynyddoedd rhwng Rhaeadr a St Hermon ambell i dro, heb fap na chwmpawd.  Fodd bynnag bu i’r ddau ‘obeithio am y gorau a chyrraedd pen y daith.  Hefyd, roedd teithio hyd a lled Cymru yn ystod cyfnod y rhyfel (1942) yn dangos penderfyniad y ddau a’u brwdfrydedd i gyflawni pererindod bwysig arall.

Llandrindod, Llanyre, Cwm Clywedog, Llanbrynmair … roedd traed Elvet yn boenus iawn a chafodd drwsio ei esgidiau.  Ond, yn ôl traddodiad gan yr hen bererinion dros y canrifoedd – cyfnewid esgidiau oedd yr ateb i wella traed blinedig.  Dyna’n union wnaeth y ddau, gan bod traed y ddau yr un maint! Ac aethpwyd ymlaen â’r daith ddymunol iawn – “newid gwaith, chystal â gorffwys” meddai W C Elvet Thomas.

Dilynwyd y ‘lein’ o Lanuwchllyn, i’r Bala ac ymlaen i Llandderfel a Llandrillo ac er mor bryderus oedd teithio yn ystod cyfnod y rhyfel bu’r croeso ar aelwydydd Cymru yn gynnes iawn bob tro.