Seminar Yr Ifanc

Ymweliad a chynhadledd arbennig yn Romania

Mae cyfleoedd arbennig iawn ar gael i Urddaholics! fod yn rhan o weithgareddau rhyngwladol drwy’r Urdd. Mae cyfle yn dod i’r amlwg yn aml erbyn heddiw i gael cymryd rhan neu hyd yn oed drefnu gweithgareddau rhyngwladol. Drwy drefnu taith gyfnewid, gwaith gwirfoddol dramor neu fynychu prosiectau arbennig, fe allwch chi ymestyn eich gorwelion a rhoi Cymru a’r Urdd ar y map a chael cyfleoedd arbennig iawn yn dysgu am ddiwylliannau eraill.

Yn Romania bu i’r Urdd fynychu seminar ar gyfer mudiadau pobl ifanc i greu cysylltiadau rhyngddynt, gyda’r nod o gydweithio yn y dyfodol. Mae nifer fawr o gysylltiadau wedi digwydd ers hyn gyda Gwlad Pwyl, Norwy, Y Weriniaeth Siec a’r Eidal. Yn ystod y seminar a gynhaliwyd yn ardal brydferth Transylfania – cartref yr enwog Draciwla! – bu trafodaethau mawr mewn gweithdai yn trafod teithiau cyfnewid, prosiectau arbennig a rhwydweithio. Cafwyd hefyd gyfle i ymweld a chartref plant Romani ac Ysgol Uwchradd leol, gweithdai rhyngwladol o ddawns, drama a cherddoriaeth, ac hefyd parti mawr gyda pawb wedi cyfrannu bwyd arbennig o’u gwlad eu hunain.

Mynychwyd y seminar hwn gan Urdd Gobaith Cymru gyda mudiadau gwirfoddol ieuenctid eraill o Bortiwgal, Yr Almaen, Yr Eidal, Y Weriniaaeth Siec, Gwlad Pwyl, Slovania, Norwy a Romania.

Nôl