Seminar Yr Ifanc
Youth Seminar
Ymweliad a chynhadledd arbennig yn Romania
A visit to a
conference at Romania
Mae cyfleoedd arbennig iawn ar gael i Urddaholics i fod yn rhan o
weithgareddau rhyngwladol drwy’r Urdd. Mae cyfle yn dod i’r amlwg yn
aml erbyn heddiw i gael cymryd rhan neu hyd yn oed drefnu
gweithgareddau rhyngwladol. Drwy drefnu taith gyfnewid, gwaith
gwirfoddol dramor neu fynychu prosiectau arbennig, fe allwch chi
ymestyn eich gorwelion a rhoi Cymru a’r Urdd ar y map a chael
cyfleoedd arbennig iawn yn dysgu am ddiwylliannau eraill.
Urddaholics have great opportunities to be part of international
activities through the Urdd. By organising an exchange trip, voluntary
work abroad, or attending special projects, you can extend your
horizons and put Wales and the Urdd on the map, and learn about other
cultures.
Yn Romania bu i’r Urdd fynychu seminar ar gyfer
mudiadau pobl ifanc i greu cysylltiadau rhyngddynt, gyda’r nod o
gydweithio yn y dyfodol. Mae nifer fawr o gysylltiadau wedi digwydd
ers hyn gyda Gwlad Pwyl, Norwy, Y Weriniaeth Siec a’r Eidal.
Yn ystod y seminar a gynhaliwyd yn ardal brydferth
Transylfania – cartref yr enwog Draciwla! – bu trafodaethau mawr mewn
gweithdai yn trafod teithiau cyfnewid, prosiectau arbennig a
rhwydweithio. Cafwyd hefyd gyfle i ymweld a chartref plant Romani ac
Ysgol Uwchradd leol, gweithdai rhyngwladol o ddawns, drama a
cherddoriaeth, ac hefyd parti mawr gyda pawb wedi cyfrannu bwyd
arbennig o’u gwlad eu hunain.
In Romania, the Urdd attended a
seminar for youth organisations to communicate between them, with the
aim of co-operating in the future. We have been keeping in contact
with Poland, Norway, Czech Republic and Italy. During the seminar
which took part in Transylvania - Dracula's famous home! - discussions
were held in workshops discussing exchange trips, networking etc. We
also had the opportunity to visit a Romanian orphange, a local
Secondary school, a party with everybody bringing food from their own
country.
Mynychwyd y seminar hwn gan Urdd Gobaith Cymru
gyda mudiadau gwirfoddol ieuenctid eraill o Bortiwgal, Yr Almaen, Yr
Eidal, Y Weriniaaeth Siec, Gwlad Pwyl, Slovania, Norwy a Romania.
This seminar was
attended by Urdd Gobaith Cymru along with other voluntary youth
organisations from Germany, Portugal, Italy, Poland, Czech Republic,
Slovania, Norway, and Romania
|