YSGOL GWYNLLYW
"Children should be seen and not heard". Ai dyma’n delfryd? Ai dyma beth sy’n digwydd yn ein cymdeithas ar hyn o bryd? On’d oes gennym ni, ieuenctid Cymru ac ieuenctid y byd, yr hawl i leisio’n barn, i gael ein cymryd o ddifrif, ac i gael ein parchu a’n trin yn gyfartal?

Diolch i fudiadau fel yr NSPCC a Childline, mae help ar gael 24 awr y dydd i oresgyn problemau fel bwlio a hiliaeth a phroblemau teuluol megis merched ifanc yn beichiogi, beichiogrwydd annisgwyl, a chamdrin corfforol, rhywiol ac emosiynol.

Yn ôl arbenigwyr, mae tuag un ym mhob deg o blant yn cael ei gamdrin. Yn wyneb ystadegau fel y rhain, dylid annog plant i droi at y mudiadau hyn, fel y cânt rywun i wrando arnynt pan fo angen.

Rhaid cydnabod bod y problemau yma yn bodoli ers blynyddoedd, ac yn anffodus fe fyddant yn dal gennym yn y dyfodol. Eleni, mae Childline wedi helpu eu miliynfed plentyn, gydag oddeutu 3,500 o blant yn derbyn cymorth a chefnogaeth bob dydd, wrth i 120 o dimau ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wneud ymchwil, a darparu llyfrau a phamffledi ar fwlio, er mwyn addysgu pobl am yr angen i sicrhau bod llais ymgyrchol ac annibynnol ar ran plant. Yn debyg i Childline, y mae’r NSPCC yn cynnig llinell ffôn 24 awr yn rhad ac am ddim. Ond yr NSPCC yw’r unig elusen a awdurdodir gan y gyfraith i ymgyrchu ar ran plant. Er mwyn gwireddu eu gweledigaeth heriol ar gyfer y dyfodol mae’r NSPCC yn dibynnu ar eich rhoddion chi, rhoddion y cyhoedd. Dibynna’r mudiad hwn ar roddion gwirfoddol am 85% o’i incwm, felly mae eich cefnogaeth chi yn hanfodol.

Rydym ni, disgyblion Ysgol Gwynllyw, yn galw arnoch chi, ieuenctid Cymru, i ymuno yn y frwydr yn erbyn creulondeb trwy’r byd. Cefnogwch fudiadau fel Childline a’r NSPCC er mwyn creu byd hapusach a gwell i’n plant. Byddwch yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd.

Ystyriwch, trafodwch, gweithredwch.


Nôl