Childline ac NSPCC 2000 - 2001
Ymgyrch y Flwyddyn 2000 - 2001
Llinellau cymorth Childline ac NSPCC yw canolbwynt ymgyrch arbennig gan yr Urdd
am eleni. Anogir Ysgolion/Adrannau ac Aelwydydd i drefnu gweithgaredd i godi
arian tuag at y ddwy elusen hon. I'r Urddaholics! mae cyfle i chi dderbyn mwy o
wybodaeth am waith gwirfoddol gyda'r ddau fudiad trwy gysylltu ar canolfannau
isod i dderbyn gwybodaeth am gyrsiau arbennig sydd yn cael eu cynnal yn gyson.
Lluniau staff swyddfeydd yr Urdd ar daith gerdded noddedig
o Gwm Cywarch Dinas Mawddwy dros yr Aran Fawddwy a'r Aran Benllyn i Lanuwchllyn.
Cafwyd diwrnod bendigedig a codwyd £880 tuag at y gronfa. Da iawn!

|