Lle Chwech Gwell

Fore dydd Sadwrn, 3ydd Gorffennaf, wedi’r oriau o baratoi roedd criw Ysgol Y Preseli, Crymych ar fin cychwyn am Lesotho, De Affrica gyda ni'r arweinyddion.

Buan iawn, ar y daith i faes awyr Heathrow, yr oeddem i gyd yn dechrau teimlo’n gynhyrfus, er braidd yn nerfus! Tybed fyddem yn llwyddo i gyfathrebu a’r brodorion? Sut fwyd a gawn? Lle fyddem yn aros? A ninnau yno i godi bloc o doiledau, pa gyfleusterau fyddem ni yn eu defnyddio??!!

Pedair awr ar hugain a mwy o deithio di-baid mewn bws, awyren enfawr, ac awyren propelor, simsan! Cyrraedd maes awyr Maseru a dyna lle’r oedd Lineo, Swyddog Dolen Cymru Lesotho, yn ein croesawu gan chwifio baner Cymru. Wrth deithio o'r maes awyr i dref Teyateyaneng fe'n trawyd gan y tlodi, - yn union fel y lluniau a welwn ar y teledu.

Cael ein cludo i’r cartref ble byddem yn aros am y deng niwrnod nesaf. Yn amlwg, fe ddarparwyd un o’r lleoedd gorau ar ein cyfer, - cartref digon cyfforddus ac yn fwy na dim dwr poeth (er yn fudr!) a thoiled oedd yn ‘fflysio’!!

Bore Llun cawsom ddechrau ffantastig! Methu â chredu’r croeso gawsom ym mhentref Ramachini! Daeth y pentrefwyr i gyd i’n cyfarch pan gyrhaeddom yno am 10:30. Pawb am ein cyfarch drwy ysgwyd llaw, dawnsio a chanu.

Ben bore Mawrth roedd pawb yn gynhyrfus eisiau cyrraedd Ramachini er mwyn cael bwrw ati i adeiladu’r bloc toiledau. Buan iawn y sylweddolom y byddai’n ddyddiau cyn y caem osod unrhyw fricsen! Doedd y twll ddim yn barod eto, a gyda chaib a rhaw roedd hyn am gymryd sbel go lew! Doedd dim glaw wedi disgyn ers wythnosau ar dir yn galed. Ffordd dda iawn o fagu cyhyrau!

Erbyn ddydd Mercher roeddem wedi blino’n lan, wedi gweithio’n galed a chario llawer o fagiau sment. Er hynny roedd digon o hwyl a chwerthin pan geisiem gario bwced o ddr ar ein pen fel y gwnâi merched y pentref yn ddidrafferth! Erbyn Ddydd Gwener, roedd y twll yn ei le ar sylfaen yn gadarn ar gyfer dechrau codi’r waliau ddydd Llun.

Pan gaem seibiant o’r gwaith cawsom gyfle i ddod i adnabod y trigolion a deall eu ffordd o fyw. Tra’n cerdded gyda merched y pentref cwrddom a hen wreigan dlodaidd ei golwg. Roedd yn erfyn arnom nôl ffisig i leddfu’r boen yn ei choesau. O ymweld ag ambell gartref roedd yn amlwg eu bod yn ddigon cyntefig. Teimlem ein bod wedi mynd ‘nol mewn amser wrth weld y buchod a’r mulod yn gweithio. Diddorai grp o blant eu hunain yn chwarae gem gyda darn o gortyn.

Roedd pawb yn y pentref yn edrych yn iach, - a’r diet o ‘papa’ sef india-corn a digonedd o lysiau organig oedd y rheswm. Roedd pob pryd bwyd yn faethlon. Er hyn, yn anffodus mae problem alcoholiaeth, cyffuriau ac AIDS a HIV yn rhemp yno. Er bod Llywodraeth y wlad yn cydnabod hyn a chamau yn cael eu cymryd, mae llawer o ffordd i fynd a chryn dipyn o waith addysgu y trigolion am y peryglon.

Cawsom gyfle i ymlacio dros y penwythnos. Treulio pnawn Sadwrn yng nghwmni côr sydd am ddod i gystadlu yn Eisteddfod Llangollen flwyddyn nesaf. Ninnau erbyn hyn wedi dal y clwy canu, - wedi dysgu llwythi o ganeuon traddodiadol y wlad. Fedrem fynd i ‘unlle heb ganu!

Fore Sul cawsom gyfrannu yn y gwasanaeth crefyddol a gynhaliwyd mewn capel bach tun, digon dinod. Gwasanaeth gwahanol iawn i ni yn ein tawelwch, - yno roedd digon o guro dwylo a gweiddi canu, heb fod mewn tiwn!

Gwelsom wir dlodi y wlad b’nawn Sul. Teithio ar hyd llwybrau tyllog a charegog a thrwy afonydd mewn bws mini annibenadwy! Cyrraedd pentref anghysbell a methu â chredu ein llygaid! Tai crwn o fwd a hyd yn oed ogofau yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 1800au. Yn wir, roedd pobl yn byw ynddynt o hyd, - un hen wraig yn fy annog i orwedd ar ei gwely, sef croen buwch ar lawr caled, - hynod o anghyffyrddus.

Fore Llun oedd y cyfle olaf i dreulio amser gyda brodorion Ramachini. Erbyn hyn roedd y waliau’n dechrau ymddangos. Mae’r deunydd yno iddynt gwblhau’r gwaith dan ofalaeth yr adeiladwr proffesiynol. Anghofiwn ni fyth yr ymateb ar wynebau trigolion o bob oed pan roddwyd anrhegion iddynt, - bobl ifanc yn eu hugeiniau cynnar yn gwirioni ar greonau a phapur ‘ysgrifennu. Pob un ohonom yn teimlo’n ddigon digalon wrth ffarwelio. Profiad anhygoel a chyfoethog tu hwnt. Braint oedd cael eu cyfarfod a bod yn rhan o’u bywyd bob dydd.

 
 

 
Nôl