Lle Chwech Gwell
Fore dydd Sadwrn, 3ydd Gorffennaf,
wedi’r oriau o baratoi roedd criw Ysgol Y Preseli, Crymych ar fin cychwyn am
Lesotho, De Affrica gyda ni'r arweinyddion.
Buan iawn, ar y daith i faes awyr
Heathrow, yr oeddem i gyd yn dechrau teimlo’n gynhyrfus, er braidd yn nerfus!
Tybed fyddem yn llwyddo i gyfathrebu a’r brodorion? Sut fwyd a gawn? Lle
fyddem yn aros? A ninnau yno i godi bloc o doiledau, pa gyfleusterau fyddem
ni yn eu defnyddio??!!
Pedair awr ar hugain a mwy o
deithio di-baid mewn bws, awyren enfawr, ac awyren propelor, simsan!
Cyrraedd maes awyr Maseru a dyna lle’r oedd Lineo, Swyddog Dolen Cymru
Lesotho, yn ein croesawu gan chwifio baner Cymru. Wrth deithio o'r maes awyr
i dref Teyateyaneng fe'n trawyd gan y tlodi, - yn union fel y lluniau a
welwn ar y teledu.
Cael ein cludo i’r cartref ble
byddem yn aros am y deng niwrnod nesaf. Yn amlwg, fe ddarparwyd un o’r
lleoedd gorau ar ein cyfer, - cartref digon cyfforddus ac yn fwy na dim dwr
poeth (er yn fudr!) a thoiled oedd yn ‘fflysio’!!
Bore Llun cawsom ddechrau
ffantastig! Methu â chredu’r croeso gawsom ym mhentref Ramachini! Daeth y
pentrefwyr i gyd i’n cyfarch pan gyrhaeddom yno am 10:30. Pawb am ein
cyfarch drwy ysgwyd llaw, dawnsio a chanu.
Ben bore Mawrth roedd pawb yn
gynhyrfus eisiau cyrraedd Ramachini er mwyn cael bwrw ati i adeiladu’r bloc
toiledau. Buan iawn y sylweddolom y byddai’n ddyddiau cyn y caem osod unrhyw
fricsen! Doedd y twll ddim yn barod eto, a gyda chaib a rhaw roedd hyn am
gymryd sbel go lew! Doedd dim glaw wedi disgyn ers wythnosau ar dir yn galed.
Ffordd dda iawn o fagu cyhyrau!
Erbyn ddydd Mercher roeddem wedi
blino’n lan, wedi gweithio’n galed a chario llawer o fagiau sment. Er hynny
roedd digon o hwyl a chwerthin pan geisiem gario bwced o ddr ar ein pen fel
y gwnâi merched y pentref yn ddidrafferth! Erbyn Ddydd Gwener, roedd y twll
yn ei le ar sylfaen yn gadarn ar gyfer dechrau codi’r waliau ddydd Llun.
Pan gaem seibiant o’r gwaith cawsom
gyfle i ddod i adnabod y trigolion a deall eu ffordd o fyw. Tra’n cerdded
gyda merched y pentref cwrddom a hen wreigan dlodaidd ei golwg. Roedd yn
erfyn arnom nôl ffisig i leddfu’r boen yn ei choesau. O ymweld ag ambell
gartref roedd yn amlwg eu bod yn ddigon cyntefig. Teimlem ein bod wedi mynd
‘nol mewn amser wrth weld y buchod a’r mulod yn gweithio. Diddorai grp o
blant eu hunain yn chwarae gem gyda darn o gortyn.
Roedd pawb yn y pentref yn edrych
yn iach, - a’r diet o ‘papa’ sef india-corn a digonedd o lysiau organig oedd
y rheswm. Roedd pob pryd bwyd yn faethlon. Er hyn, yn anffodus mae problem
alcoholiaeth, cyffuriau ac AIDS a HIV yn rhemp yno. Er bod Llywodraeth y
wlad yn cydnabod hyn a chamau yn cael eu cymryd, mae llawer o ffordd i fynd
a chryn dipyn o waith addysgu y trigolion am y peryglon.
Cawsom gyfle i ymlacio dros y
penwythnos. Treulio pnawn Sadwrn yng nghwmni côr sydd am ddod i gystadlu yn
Eisteddfod Llangollen flwyddyn nesaf. Ninnau erbyn hyn wedi dal y clwy canu,
- wedi dysgu llwythi o ganeuon traddodiadol y wlad. Fedrem fynd i ‘unlle heb
ganu!
Fore Sul cawsom gyfrannu yn y
gwasanaeth crefyddol a gynhaliwyd mewn capel bach tun, digon dinod.
Gwasanaeth gwahanol iawn i ni yn ein tawelwch, - yno roedd digon o guro
dwylo a gweiddi canu, heb fod mewn tiwn!
Gwelsom wir dlodi y wlad b’nawn Sul.
Teithio ar hyd llwybrau tyllog a charegog a thrwy afonydd mewn bws mini
annibenadwy! Cyrraedd pentref anghysbell a methu â chredu ein llygaid! Tai
crwn o fwd a hyd yn oed ogofau yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 1800au. Yn wir,
roedd pobl yn byw ynddynt o hyd, - un hen wraig yn fy annog i orwedd ar ei
gwely, sef croen buwch ar lawr caled, - hynod o anghyffyrddus.
Fore Llun oedd y cyfle olaf i
dreulio amser gyda brodorion Ramachini. Erbyn hyn roedd y waliau’n dechrau
ymddangos. Mae’r deunydd yno iddynt gwblhau’r gwaith dan ofalaeth yr
adeiladwr proffesiynol. Anghofiwn ni fyth yr ymateb ar wynebau trigolion o
bob oed pan roddwyd anrhegion iddynt, - bobl ifanc yn eu hugeiniau cynnar yn
gwirioni ar greonau a phapur ‘ysgrifennu. Pob un ohonom yn teimlo’n ddigon
digalon wrth ffarwelio. Profiad anhygoel a chyfoethog tu hwnt. Braint oedd
cael eu cyfarfod a bod yn rhan o’u bywyd bob dydd.
On Saturday, July 3rd six
young people from Ysgol Y Preseli, Crymych were ready to start their
adventure for the next ten days! After hours of organising, the group,
along with us - the leaders, started our journey to Ramachini, a village on
the outskirts of Teyateyaneng in Lesotho, South Africa. Our intention was
to build community toilets at this village (there were no facilities there
before).
On Monday morning,
we couldn't believe the welcome we received from the community - the singing
and dancing went on all morning!
By Tuesday morning
it was time to start the hard work, but with a pick and shovel we soon
realised that digging the hole was going to take most of the week! A good
way to gain muscles! By Friday, the hole was finished and the foundation
ready to start building the wall on Monday.
Monday morning
was our last chance to spend time with the Ramachini community. By now the
walls were beginning to appear. The materials were now available for them
to complete under supervision of the local builder. We will never forget
the children and young people's faces when they received the gifts. An
amazing experience from start to finish! It was a privilege to meet the
villagers and being a part of their every day life.