NEWYDDION AM DDIGWYDDIADAU I GODI ARIAN TUAG AT EISTEDDFOD URDD GOBAITH CYMRU MôN 2004 DEWCH YN LLU I GEFNOGI!Bydd Iona ac Andy yn Nhafarn y Rhos nos Wener, 10ed Hydref 2003. Maer noson yn cychwyn am 8pm a phris tocyn yw £6. Gellir prynu tocyn yn Siop Guest ar Cwpwrdd Cornel, Llangefni ac Awen Menai, Porthaethwy.
Pris tocyn yw £3 i oedolyn a £1 i blentyn ac mae croeso cynnes i bawb ymuno yn yr hwyl.
Nos Sul, 12ed Hydref 2003 am 7.30 or gloch, bydd Côr Seiriol, dan arweiniad Gwennant Pyrs, a Caren Buse yn cynnal Cyngerdd Mawreddog yng Nghapel Rhos y Gad, Llanfairpwllgwyngyll. Pris tocyn yw £5 a gellir archebu tocyn drwy ffonio Rowena Ellis Thomas ar 01248 714488 neu Gwyneth Morris Jones ar 01248 713912. Bydd gan Bwyllgor Apêl y Borth stondin drwyr dydd yn Ffair y Borth ar 24ain Hydref 2003. Gwerthir cynnyrch cartref yno felly cofiwch alw draw am jam, marmalêd, sgons, bara brith a llawer mwy! Cofiwch gadw dydd Sadwrn yr 8ed o Dachwedd yn rhydd. Bydd rhaglen Twrio yn cael ei darlledu o westyr Bulkeley, Biwmares. Dymar rhaglen gyntaf mewn cyfres newydd o Twrio gan gwmni teledu annibynnol Pedol. Cewch gyfle i gael prisio eich trysorau gan arbenigwyr. Rydym hefyd yn chwilio am gasglwyr diddorol ar yr ynys cysylltwch ag Aled Pennant (01248 450486) neu Ruth Davies (01248 713194). Bydd tair o eitemaun cael eu gwerthu yn y brif arwerthiant syn fyw ar S4C a S4C Digidol. Cynhelir ail arwerthiant cyn y prif ddigwyddiad ar y noson. Cadwch eich llygaid ar agor am docyn ac am y catalog. Rydym yn sicr o godi elw sylweddol ir Eisteddfod os cawn eich cefnogaeth. Cynhelir Cyngerdd Mawr yr Hydref yn Ysgol Gyfun Llangefni ar nos Sadwrn, 15ed Tachwedd 2003 am 7.30. Bydd Gwyn Hughes Jones yn canu ynghyd â Côr CF1 Caerdydd a Dewi Ellis Jones. Arweinydd y noson fydd Nia Lloyd Jones. Pris tocyn yw £12 a gellir prynu tocyn yn y Cwpwrdd Cornel, Llangefni ac Awen Menai, Porthaethwy neu drwy ffonio Swyddfar Urdd ar 01248 363104.
Bydd cyfle eto eleni i gyd-ganur Meseia yng Nghapel Mawr, Porthaethwy am 7 nos Sul, 7ed Rhagfyr 2003. Arweinydd - Enid Griffiths; Organydd - Martin Brown; Unawdwyr - Carys Lloyd Jones, Iona Stephen Williams, Bryn Roberts, Trebor Lloyd Evans.
2004 Ar 7ed Chwefror bydd Bwffe a Chân yn Neuadd Syr John Morris Jones, Bangor yng nhwmni Arfon Gwilym a Sioned Webb yn diddanu. Tocynnau: £10 Bydd y beirdd yn eich difyrru ar 27ain Chwefror 2004 yn Noson gydar Beirdd yn Nhafarn y Fic, Porthaethwy gydar Prifardd Myrddin ap Dafydd a chriw o feirdd. Y noson i gychwyn am 8. Sioe ffasiynau yn Pringles, Llanfairpwll - Nos Fercher, Mawrth 24ain 2004. |
Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru - Môn 2004 |