Mae gan Urdd Gobaith Cymru dair canolfan breswyl - Glan-llyn yn y Gogledd a Llangrannog a Phentre Ifan yn y De-Orllewin. Maent ymysg y canolfannau mwyaf modern a chynhwysfawr o'u bath yn Ewrop!

Cynigir ystod eang o gyrsiau addysgol yng Nglan-llyn a Llangrannog. Cysylltwch a'r Swyddogion Addysgol yn y canolfannau yma am ragor o wybodaeth 

.

.

Gwersyll Glan-llyn

Safle'r We

Cerdyn1.jpg (81653 bytes)

Cerdyn2.jpg (101672 bytes)


Am fanylion cysylltwch â :-
Gwersyll Glan-llyn
Llanuwchllyn
Y Bala
Gwynedd
LL23 7ST
Ffôn (01678) 541000 Ffacs (01678) 541001

E-Bost :
Glanllyn@urdd.org

 

Canolfan Awyr Agored ar lannau Llyn Tegid ger y Bala ydi Glan-llyn wedi ei thrwyddedu gan AALA (yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur). Mae'r Gwersyll yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau i blant ac i bobl o bob oed yn eu plith cyrsiau Gweithgareddau - gan gynnwys y cyfle i geisio am dystysgrifau cydnabyddedig - cyrsiau addysg (yn arbennig cyrsiau maes daearyddiaeth) a chyrsiau iaith o bob math.
Mae'r Gwersyll yn cynnig rafftio dwr gwyn, canwio, hwylio, pwll nofio,
llafnrolio, dringo, neuadd chwaraeon, mynydda, adeiladu rafft, gemau adeiladu tîm, cwrs antur, hwyl fyrddio, sgïo (yng nghanolfan Rhiw-goch), Bowlio 10, llithren, cerdded afon, disgo a llawer llawer mwy.

Gwersyll Llangrannog

Safle'r We

  • Saif Llangrannog ar lecyn yn edrych dros Fae Ceredigion. Mae'r ganolfan ar agor trwy'r flwyddyn ar gyfer ystod eang o gyrsiau.
Datblygwyd Llangrannog yn eang yn ddiweddar ac mae'n cynnwys ystafelloedd cysgu moethus, ystafelloedd dosbarth a neuadd fwyta newydd.
  • Gall Llangrannog letya hyd at 350 o bobl.
  • Cynigir llu o weithgreddau amrywiol yma e.e merlota, sgïo, gwibgartio, nofio, sglefrolio a beiciau modur.
  • Mae llu o lefydd o ddiddordeb addysgiadol o fewn cyrraedd hwylus i Langrannog e.e. Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Amgueddfa Forwrol ac Amgueddfa Wlân.
  • Mae neuadd aml-bwrpas, ystafell gyfrifiaduron a phwll nofio yn rhan o gyfleusterau'r gwersyll hefyd, Sleid Awyr 50 medr o hyd!
  • Cynigir ystod eang o gyrsiau addysgol o bob math i gyd-fynd ag anghenion eich grwp trwy gydweithrediad Swyddog Addysgol y gwersyll.

Canolfan

Pentre Ifan

  • Lleolir Pentre Ifan tua 2 filltir o Drefdraeth, rhwng Aberteifi ac Abergwaun ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
  • Canolfan addysgol yw Pentre Ifan a'i chanolbwynt yw'r hen sgubor o oes y Tuduriaid (1485) sydd wedi ei moderneiddio i safon uchel.
  • Gall letya hyd at 18 o bobl a darperir bwyd ar y safle.
  • Mae ystafell gynadledda fawr yn rhan uchaf yr hen ysgubor sy'n gallu eistedd hyd at 50 o bobl.
  • Mae Pentre Ifan wed'i gofrestru'n swyddogol ar gyfer priodasau felly gallwch briodi a chynnal eich gwledd briodas yma os mynnwch!
  • Gweithgareddau amgylcheddol yw arbenigedd Pentre Ifan gan fod y goedwig gyfagos yn llawn cyfoeth byd natur. Lle delfrydol i gynnal cyrsiau i astudio'r amgylchfyd.
  • Mae Pentre Ifan mewn ardal wledig iawn sy'n adnabyddus am ei golygfeydd trawiadol, olion hanesyddol a bywyd gwyllt unigryw.
  • O fewn cyrraedd hwylus i'r ganolfan mae Cromlech Pentre Ifan, Castell Henllys, y llwybr arfordirol, gwarchodfa Ty Canol, y Preselau a Chwm Gwaun.
  • Gellir llogi beiciau mynydd a cheffylau gerllaw.

Am ragor o fanylion, cysylltwch â:

Gwersyll yr Urdd Llangrannog,
Llangrannog, Llandysul,
Ceredigion, SA44 6AE
Cymru
 
Ffôn: (01239) 654 473
Ffacs: (01239) 654 912
 

 

Canolfan Mileniwm Cymru

Tudalen Wê

Bydd Canolfan Mileniwn Cymru yn agor ym Mae Caerdydd a bydd Urdd Gobaith Cymru yn rhan ohoni. Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnwys Theatr ar gyfer sioeau cerdd, dramâu, opera a dawns, ac yn gartref i Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru, canolfan breswyl a gweithgareddau i'r Urdd, siopau, llefydd bwyta, sinema 3D a bydd cyfle i aelodau'r Urdd aros yno, gan ddefnyddio'r cyfleusterau. Bydd y Ganolfan yn agor ym mis Tachwedd 2004.

Am fwy o wybodaeth cysyllter â:

Swyddfa'r Urdd,
Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth,
Ceredigion, SY23 1EY
Cymru
Ffôn: (01970) 613 100
Ffacs: (01970) 626 120
E-bost: aber@urdd.org