Mae Gwersyll yr Urdd Glan-llyn yn
un o’r canolfannau gweithgareddau awyr agored fwyaf adnabyddus ym
Mhrydain a chyda miloedd o bobl ifanc yn llythrennol wedi cael profiad
o’r cyfleusterau ers dros hanner canrif. Mae lleoliad y ganolfan ar
lannau Llyn Tegid ger y Bala a'r ardaloedd amgylchynol yng Ngogledd
Cymru fel Llanuwchllyn yn hynod o brydferth ac yn le delfrydol ar
gyfer gweithgareddau awyr agored.
Gwefan Glan-llyn |
Saif Llangrannog ar lecyn yn edrych
dros Fae Ceredigion. Mae'r ganolfan ar agor trwy'r flwyddyn ar gyfer
ystod eang o gyrsiau.
Datblygwyd Llangrannog yn eang yn ddiweddar ac mae'n cynnwys
ystafelloedd cysgu moethus, ystafelloedd dosbarth a neuadd fwyta
newydd.
Gall Llangrannog letya hyd at 350 o bobl.
Cynigir llu o weithgreddau amrywiol yma e.e merlota, sgïo, gwibgartio,
nofio, sglefrolio a beiciau modur.
Gwefan
Llangrannog |
Mae Urdd Gobaith Cymru yn rhan o
Ganolfan Mileniwn Cymru ym Mae Caerdydd . Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnwys Theatr ar gyfer sioeau cerdd,
dramâu, opera a dawns, ac yn gartref i Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru,
canolfan breswyl a gweithgareddau i'r Urdd, siopau, llefydd bwyta,
sinema 3D a bydd cyfle i aelodau'r Urdd aros yno, gan ddefnyddio'r
cyfleusterau.
Gwefan Gwersyll Caerdydd
|