Croeso!  Dyma awgrymiadau ar sut i ddefnyddio Bore Da mis Chwefror ymhellach yn y dosbarth.  Themâu mis Chwefror ydy Dewi Sant, Cymru, Steddfod yr Ysgol, Dydd Mawrth Crempog, lliwiau a gorchmynion.

View in English

Clawr Cwis, a thudalennau 8 a 9

Gorchuddiwch y clawr gyda darnau o gerdyn o liwiau gwahanol.  Rhaid i'r plant alw'r lliwiau, a byddwch chi yn tynnu'r cerdyn y lliw hwnnw oddi ar y clawr i ddatguddio fesul ychydig llun pwy sydd ar y clawr.  Ar ôl gweld llun Charlotte Church, holwch y plant beth maen nhw'n wybod am Charlotte Church.  Gofynnwch:

  1. Ble mae Charlotte yn byw?
  2. Beth mae Charlotte yn wneud?
  3. Pwy ydy cariad Charlotte?

Gallwch chwarae un o ganeuon Charlotte i'r dosbarth efallai.

Tra'n edrych ar y poster yng nghanol Bore Da holwch y disgyblion pa liw ydi jîns Charlotte, ei belt, ei llygaid, y tri thop mae hi'n wisgo, ei ffôn a'i sgarff fflyffi.

Nawr gwnewch gopïau o'r bocs Ffeil Ffeithiau ar dudalen 8.  Torrwch y wybodaeth yn gwestiynau ac atebion a rhowch y cyfan mewn amlen - un i bob grp.  Tasg y grwpiau ydy matsio'r ateb a'r cwestiwn cywir i ail adeiladu'r ffeil ffeithiau.

Nawr rhowch gopi o'r ffeil ffeithiau i bob disgybl i'w lenwi eu hunain.  Casglwch nhw i gyd a'u rhoi mewn amlen fawr.  Gofynnwch i un o'r plant ddewis un ffeil ffeithiau o'r amlen a'i ddarllen i weddill y dosbarth. Ydi'r plant yn gallu dyfalu ffeil ffeithiau pwy ydi o?

Tudalen 3 Gweithlen 1 Gorchymyn! 

Dysgwch orchmynion eraill i'r plant, er enghraifft Rhedwch!  Eisteddwch!  Codwch ar eich traed!  Stopiwch!  Byddwch ddistaw!  Siaradwch!  Cerddwch!  Treuliwch beth amser yn ymarfer y gorchmynion gyda'r dosbarth.  Nawr, rhowch ddau orchymyn i bob grwp, a dywedwch wrthynt lunio gweithlen fechan eu hunain.  Rhaid iddyn nhw feddwl am sefyllfa, tynnu llun, ac ysgrifennu o dan y llun.  Er enghraifft Mae'r Prifathro yn dod i'r dosbarth.  Beth mae Miss Jones yn ddweud? (Codwch ar eich traed!) 

Tudalen 6 7 Annwyl Celt y Ceiliog 

Rhannwch y dosbarth yn grwpiau.  Rhowch gopi o'r dudalen (o bosib wedi ei chwyddo) fyny o flaen y dosbarth, a blutack a chyflenwad o sêr lliw gwahanol i bob grp.  Gofynnwch y cwestiynau hyn ar lafar.  Rhaid i'r grwpiau ganfod yr ateb, a’r grp cyntaf i ddod i flaen y dosbarth a gludo seren ar y lythyr cywir sy'n cael pwynt.    

  1. Ffrindiau pwy ydy Melanie, Sophie a Hetty?
  2. Tair chwaer pwy ydy Stacey, Sara a Shannon?
  3. Gan bwy mae un chwaer a thri brawd?
  4. Pwy sydd ddim yn hoffi wy?
  5. Pwy sy'n gwisgo siwmper goch, crys-t coch, trowsus du, sanau glas ac esgidiau gwyn i'r ysgol?
  6. Pwy sy'n byw yn Ninbych?
  7. Pwy sy'n hoffi rygbi a marchogaeth?
  8. Moch gini pwy ydy Sniffy a Mazzy?
  9. Pwy sy'n berchen ar ddau gi a dwy gath?
  10. Ci pwy ydy Jake?
  11. Gwallt pwy sy'n frown?

Tudalen 10 Gweithlen 2 Lliwiau

Ar ôl lliwio'r cylchoedd gall y plant liwio'r lluniau hefyd.

Tudalennau 11 Posau a Gwobrau

Anfonwch y posau at Bore Da, Swyddfa'r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, SY23 1EY erbyn 1 Mawrth. Mae llu o wobrau i'w hennill a bydd enw’r enillwyr a’r ysgol yn ymddangos yn Bore Da.

Tudalen 12 Os gwelwch yn dda ga'i grempog?

Rhowch enwau'r chwe gwlad ar y bwrdd du a'u ffeindio gyda'r plant ar fap neu glôb.  Yna rhannwch gopïau o'r dudalen gyda enwau'r gwledydd wedi eu cuddio.  Rhaid i'r plant benderfynu pa grempog sy'n dod o ba wlad.  Ydyn nhw'n gallu enwi bwydydd eraill sy'n cael eu bwyta yn y gwledydd hynny hefyd?