Croeso i daflen athrawon Bore Da mis Ebrill 2006

Croeso!  Dyma awgrymiadau ar sut i ddefnyddio
Bore Da
mis Ebrill ymhellach yn y dosbarth. 

Themâu mis Ebrill ydy dillad, y corff,
Ff
ŵl Ebrill a salwch.

View in English

   

Clawr a thudalen 8 a 9

Cyn dangos Bore Da i'r plant holwch nhw pa siwpyr-arwr ydi eu ffefryn.  Sawl arwr maen nhw'n gallu eu henwi?  Dywedwch bod llun un o'r arwyr hyn ar glawr Bore Da, a chynhaliwch bleidlais i weld faint o'r plant sy'n dyfalu'n gywir mai Spiderman sydd ar y clawr.

Ar ôl darllen am Spiderman yn Bore Da gall y plant wneud poster yn rhoi sylw i un arall o'r siwpyr-arwyr.  Dywedwch wrthynt ysgrifennu ychydig o frawddegau o dan y poster yn disgrifio gwisg yr arwr.

Tudalen 2 Celt y Ceiliog

Ar ôl darllen y cartwn, beth am gynnal diwrnod gwisgo dillad eu hun yn yr ysgol, a chreu sioe ffasiynau yn y dosbarth.  Gallwch rannu'r plant yn grwpiau, a byddai pob grp yn gyfrifol am ysgrifennu sgript ar gyfer pawb yn eu grŵp nhw. 

Tudalen 3 Gweithlen 1 Dillad

Ar ôl gwneud y weithlen dywedwch wrth y plant rannu'n barau, ac ysgrifennu beth mae eu partner yn wisgo, gan wneud llun ohono/i hefyd.  Yna dylai pob plentyn ddilyn y patrwm yn y weithlen, gan dynnu llun person dychmygol ac ysgrifennu dau ddisgrifiad, un yn gywir a'r llall yn anghywir. Casglwch y cyfan a naill a'i mynd trwy'r lluniau gyda'r dosbarth cyfan, neu rannu'r dosbarth yn grwpiau a rhoi tri neu bedwar o'r posau i bob grwp eu datrys.

Tudalen 4 5 Dei Diog 

Rhowch gopïau o gartwn Dei Diog i bob grwp, a thaflen ar wahân gyda'r testun (ddim yn y drefn gywir).  Tasg y plant ydi penderfynu pa destun sy'n mynd i ba flwch.

Tudalen 6 7 Annwyl Celt y Ceiliog

Mae croeso i chi anfon llythyron gan blant eich ysgol i Bore Da, a byddwn yn siwr o gyhoeddi rhai ohonynt yn ystod y flwyddyn ysgol newydd.  Gallwch ysgrifennu llythyron cyffredinol, neu ddilyn un o'r themâu sy'n cael eu rhestru ar y daflen amgaeëdig. 

Tudalennau 11 Posau a Gwobrau

Anfonwch y posau at Bore Da, Swyddfa'r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, SY23 1EY erbyn 1 Mai. Mae llu o wobrau i'w hennill a bydd enw’r enillwyr a’r ysgol yn ymddangos yn Bore Da.

Tudalen 12

Rho gynnig ar… wneud cwpan ŵy

Rhowch gopi o'r dudalen wedi ei llungopïo, heb y testun, i'r dysgwyr mwyaf hyderus - ond gadewch y rhestr deunyddiau ar y dudalen.  Esboniwch bod y dudalen yn dangos sut i wneud cwpan ŵy.  Dywedwch wrthynt edrych ar y lluniau a dyfalu beth ydi'r cyfarwyddiadau o dan bob un, a'u hysgrifennu yn Saesneg.  Yna darllenwch y cyfarwyddiadau Cymraeg.  Dylai'r plant ei chael yn haws i'w deall gan eu bod eisoes yn hanner gwybod beth i'w ddisgwyl yn y testun.

Tudalen 14 15 Criw'r Bys Stop

Rhannwch y dosbarth yn bedwar grwp.  Rhaid i bob grwp actio chwarter y stori.  Rhaid iddyn nhw benderfynu pwy sy'n actio'r cymeriadau, pwy sy'n cyfarwyddo, a gall gweddill y grwp actio gweddill y dosbarth.  Efallai byddai cael bathodynnau gydag enwau'r cymeriadau yn syniad da.  Ar ôl rhoi cyfle i'r grwpiau ymarfer gallwch gynnal perfformiad o'r stori yn y dosbarth.