![]() |
|
Gofynnwch i'r plant ydyn nhw'n adnabod y ferch ar y clawr. Chwaraewch un o ganeuon Jem i'r dosbarth a holi'r plant ydyn nhw'n hoffi ei chaneuon hi. Rhannwch y plant yn grwpiau. Mae angen deuddeg amlen i bob grwp, ac ym mhob amlen dylai bod y brawddegau ar dudalennau 8 a 9 wedi eu torri i fyny yn eiriau unigol. Rhaid i'r plant ail adeiladu pob un o'r brawddegau gan roi'r geiriau yn y drefn gywir. Dywedwch wrthynt ddefnyddio cliwiau fel prif lythrennau ac atalnodi. Tudalen 2 Celt y Ceiliog Ar ôl darllen y stori dywedwch wrth y plant benderfynu pa wisg ffansi fasa nhw'n hoffi ei wisgo i barti Calan Gaeaf, a gwneud llun ohonyn nhw yn y wisg. Dylen nhw labelu'r llun hefyd. Tudalen 10 Yr Ysgol Rhowch ddeuddeg cadair mewn cylch a'u labelu o 1 i 12. Gofynnwch i un plentyn eistedd ar gadair rhif 12. Gofynnwch i blentyn arall wrando ac eistedd ar y sedd gywir. Dywedwch 'mae'n un o'r gloch', ac mae'r disgybl yn eistedd ar gadair rhif un. Yna rhaid ymarfer mae hi'n hanner awr wedi tri, mae hi'n chwarter i chwech ac ati. Yna gofynnwch i ddeuddeg plentyn eistedd ar y cadeiriau. Rhannwch weddill y dosbarth yn ddau dîm. Mae un tîm yn funudau ac un tîm yn oriau. Mae un person o bob tîm yn rhedeg. Mae rhedwr tîm y munudau yn rhedeg y tu allan y cylch a rhedwr tîm yr oriau yn rhedeg y tu mewn i'r cylch. Maen nhw'n rhedeg rownd nes eich bod chi'n gweiddi stop ac mae'n rhaid i'r timau ddweud faint o'r gloch ydi hi. Mae'r tîm cyntaf i ddweud yr amser cywir yn ennill pwynt. Y disgyblion ar y cadeiriau ydi'r beirniaid - gallan nhw edrych ar y labeli ar y cadeiriau a dweud os oedd y gweddill yn gywir. Tudalennau 11 Posau a Gwobrau Anfonwch y posau at Bore Da, Swyddfa'r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, SY23 1EY cyn 31 Hydref 2005. Mae llu o wobrau i'w hennill a bydd enw’r enillwyr a’r ysgol yn ymddangos yn Bore Da. Tudalennau 12 13 Twit tw hw Rhannwch y dosbarth yn grwpiau, a rhowch set o atebion y ffeil ffeithiau i bob grwp. Darllenwch chi'r cwestiynau fesul un, a'u hysgrifennu ar y bwrdd gwyn. Ar ôl bob cwestiwn, mae pob grwp yn anfon un aelod i flaen y dosbarth gyda'r ateb, ac yn sticio'r ateb cywir yn eu barn nhw ar y bwrdd gwyn. Y grwp gyda'r nifer mwyaf o atebion cywir sy'n ennill. Fel gwaith cartref, gall y disgyblion ddewis eu hoff aderyn, a gwneud gwaith ymchwil er mwyn llunio ffeil ffeithiau tebyg i'r un yn Bore Da. Tudalen 14 15 Criw'r Bys Stop Ar ôl darllen y stori dywedwch wrth y plant liwio'r lluniau ar dudalen 3 ac 11. Yna gallant ddefnyddio'r lluniau i lunio poster yn hysbysebu helfa drysor a pharti Calan Gaeaf criw'r Bys Stop.
|