|
|
Croeso! Dyma awgrymiadau ar sut i ddefnyddio
Themâu mis Ionawr ydy eich ardal, y dref, |
||||||||||||||||||||||||
Rhannwch y dosbarth yn grwpiau bychan. Rhowch bum munud iddyn nhw astudio'r clawr, yna casglwch y copïau. Ddarllenwch y cwestiynau isod i'r dosbarth a dylai'r timau ysgrifennu'r atebion.
Tudalen 2 Celt y Ceiliog Gwnewch lungopïau o'r cartwn gan ddefnyddio paent gwyn i guddio'r testun a rhoi un copi i bob grwp. Ysgrifennwch y testun, gan gymysgu'r drefn, ar y bwrdd du/ gwyn. Tasg y grwpiau ydi penderfynu pa destun sy'n mynd gyda pha lun. Tudalen 3 Gweithlen 1 Blwyddyn Newydd Dda! Ar ôl gwneud y weithlen gall y plant dynnu llun eu hadduned blwyddyn newydd nhw, ac ysgrifennu Fy adduned blwyddyn newydd i ydy… o dan y llun. Tudalen 6 7 Annwyl Celt y Ceiliog Dewiswch rai o'r brawddegau mae'r plant yn eu defnyddio yn y llythyron. Ysgrifennwch y brawddegau, a'u torri fyny yn eiriau unigol. Rhowch y geiriau i bob brawddeg mewn amlen ar wahân. Rhowch amlen i bob grwp a dywedwch wrth y disgyblion ail adeiladu'r brawddegau gan roi'r geiriau yn y drefn gywir. Atgoffwch nhw i ddefnyddio unrhyw gliwiau mae'r atalnodi yn ei roi iddynt. Tudalen 8 9 Poster Y Tymhorau Rhowch y rhestr eiriau ganlynol i'r dosbarth. Rhaid iddyn nhw benderfynu i ba lun mae pob gair yn perthyn - llun y gwanwyn, yr haf, yr hydref neu'r gaeaf barcud; blodau; cap a sgarff; cregyn; dail yn cwympo; dyn eira; haul poeth; môr; ŵyn bach Tudalen 10 Gweithlen 2 Y Dref Ar ôl gwneud y weithlen ac ymarfer rhoi cyfarwyddiadau, ysgrifennwch enwau llefydd ac ystafelloedd yn yr ysgol ar ddarnau o bapur a'u plygu a'u rhoi mewn amlen fawr. Gofynnwch i ddau ddisgybl ddod i'r blaen a dewis enw yr un o'r amlen. Rhaid iddyn nhw esbonio i weddill y dosbarth ble maen nhw, rhoi cyfarwyddiadau i'r ail le, a dylai'r dosbarth ddyfalu i ble maen nhw'n mynd. Tudalennau 11 Posau a Gwobrau Anfonwch y posau at Bore Da, Swyddfa'r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, SY23 1EY erbyn 31 Ionawr. Mae llu o wobrau i'w hennill a bydd enw’r enillwyr a’r ysgol yn ymddangos yn Bore Da. Tudalen 14 15 Criw'r Bys Stop Ar ôl darllen y stori rhowch grid fel y canlynol i'r disgyblion ei lenwi.
|