![]() |
Croeso i daflen athrawon Bore Da mis Mai 2006.
Croeso! Dyma awgrymiadau ar sut i ddefnyddio Themâu mis Mai ydy anifeiliaid, Neges Ewyllys Da, Eisteddfod yr Urdd, yr amgylchedd a disgrifiadau. |
Rhowch gopi o Bore Da i bob grwp. Ar y clawr mae lluniau mwnci, jiráff, arth cwala, parot, eliffant, sebra, llew, crocodeil, rheino a neidr. Rhowch ddeg amlen i bob grwp - ym mhob amlen mae'r llythrennau sy'n sillafu enw un o’r anifeiliaid. Rhaid i’r grwp ddatrys yr anagram a'i osod ar y ddesg wrth ymyl y clawr ger yr anifail dan sylw. Tudalen 2 Celt y Ceiliog Cyn darllen cartwn Celt y Ceiliog, rhowch y rhestr ganlynol i'r plant benderfynu pa anifail sy'n hoffi beth. Twm Tarw dodwy wyau Cara Ceffyl bwyta popeth Moi Mochyn bwyta gwellt Celt y Ceiliog neidio yn y cae Clasirsa'r Iâr bwyta siocled Tudalen 3 Gweithlen 1 Anifeiliaid Anwes Os nad oes gan y plant anifail anwes gallan nhw dynnu llun ac ysgrifennu am anifail anwes dychmygol. Cyn gwneud y weithgaredd adolygwch beth geirfa berthnasol gyda'r plant ee enwau anifeiliaid anwes, ble maen nhw'n byw a beth maen nhw'n fwyta. Ar ôl gwneud y weithgaredd gall y plant ddarllen eu gwaith i weddill y dosbarth. Tudalen 4 5 Dei Diog Ar ôl darllen y cartwn rhowch y cwestiynau hyn i'r plant eu hateb:
Tudalen 6 7 Annwyl Celt y Ceiliog Mae croeso i chi anfon llythyron gan blant eich ysgol i Bore Da, a byddwn yn siwr o gyhoeddi rhai ohonynt yn ystod y flwyddyn ysgol newydd. Gallwch ysgrifennu llythyron cyffredinol, neu ddilyn un o'r themâu sy'n cael eu rhestru ar y daflen amgaeëdig. Tudalen 8 9 Doctor Who Holwch y dosbarth ydyn nhw'n gwylio Doctor Who? Ydyn nhw'n hoffi Doctor Who? Ydyn nhw wedi gweld K9 ar Doctor Who? Ar ôl darllen y dudalen, gall y plant wneud poster yn hysbysebu'r rhaglen gan gofio cynnwys manylion darlledu'r rhaglen. Tudalennau 11 Posau a Gwobrau Anfonwch y posau at Bore Da, Swyddfa'r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, SY23 1EY erbyn 1 Mehefin. Mae llu o wobrau i'w hennill a bydd enw’r enillwyr a’r ysgol yn ymddangos yn Bore Da. Tudalen 12 Poster Eisteddfod yr Urdd Pob lwc i bawb sy'n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun ddiwedd y mis. Cofiwch ddod draw i gornel yr Urdd yn y Pafiliwn Croeso i gyfarfod Mistar Urdd a phrynu diod yn y bar coctels dialcohol yno. Welwn ni chi yno! |