Tudalen 2 Celt y Ceiliog
Gwnewch gopïau o'r cartwn
a thorri pob un yn fframiau. Rhowch set o fframiau o bob grwpo dri neu bedwar.
Darllenwch y cartwn,
gan roi ychydig o'r stori, er enghraifft dechrau gyda: "Mae Modryb Celteg
wedi dod ar ei gwyliau i fferm yr Hafod. 'Diolch am ddod ar wyliau o Ynys
Môn, Modryb Celteg,' meddai Celt…" Rhaid i'r grwpiau roi'r fframiau yn eu
trefn gywir wrth i chi ddarllen.
Tudalen 3
Gweithlen 1 Llangrannog
Ar ôl gwneud y weithlen rhowch y
cyfarwyddiadau hyn i'r plant liwio'r lluniau:
-
Lliwiwch
gynffon y ceffyl yn felyn.
-
Lliwiwch y
brwsh dannedd yn felyn.
-
Lliwiwch y
ceffyl yn frown.
-
Lliwiwch y crys
t yn las.
-
Lliwiwch y gôt
aeaf yn wyrdd.
-
Lliwiwch y
sgïau yn las golau.
-
Lliwiwch yr
helmed farchogaeth yn borffor.
-
Lliwiwch yr
helmed sgïo yn goch.
Tudalen 4
5 Dei Diog
Mae gan dri gwersyll yr Urdd wefan
yr un. Dywedwch wrth y plant edrych ar y gwefannau (mae modd ffeindio'r
tair ar urdd.org) ac yna sgwennu cerdyn post o'u hoff wersyll gan ddilyn y
patrwm yn llun 11.
Tudalen 8
9 Poster Pasg Hapus!
Darllenwch
y cwestiynau hyn i'r dosbarth. Dylai'r plant ateb y cwestiynau ar lafar.
-
Sawl
cennin Pedr sydd yn y llun?
-
Sawl
cwningen sydd yn y llun?
-
Sawl
clust sydd yn y llun?
-
Sawl
cynffon sydd yn y llun?
-
Sawl wy
Pasg sydd yn y llun?
-
Sawl
deilen sydd yn y llun?
-
Sawl
haul sydd yn y llun?
-
Sawl wy
Pasg gyda rhuban sydd yn y llun?
-
Sawl wy
Pasg glas sydd yn y llun?
Tudalennau 11 Posau a Gwobrau
Anfonwch y posau at Bore Da,
Swyddfa'r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, SY23 1EY erbyn 1 Ebrill. Mae
llu o wobrau i'w hennill a bydd enw’r enillwyr a’r ysgol yn ymddangos yn
Bore Da.
Tudalen 6
7 Annwyl Celt y Ceiliog
Ar ôl
darllen y llythyron rhowch grid fel y canlynol i'r disgyblion ei lenwi.
ENW |
OED |
MIS PEN-BLWYDD |
UN FFAITH ARALL… |
Daniel |
|
|
|
|
|
Ionawr |
|
|
|
Mai |
|
|
|
_________ |
Ci o'r enw Sally |
Alexie |
|
|
|
Charie |
|
|
|
|
|
|
Brawd o'r enw Sean, chwaer o'r enw Caitlin |
Thomas |
|
|
|
|
|
|
Hoffi Blue Peter |
Emma |
|
|
|
|
|
|
Hoffi Britney Spears |
|
|
Tachwedd |
|
Tudalen 13 Gwyliau George
Ar ôl
gwneud y chwilair gall y plant ddefnyddio atlas i ffeindio enwau wyth gwlad
arall, a mewn parau gallan nhw lunio eu chwilair eu hunain. Yna gall y
parau gyfnewid chwileiriau a datrys posau ei gilydd.
Tudalen 14 15 Criw'r Bys Stop
Cyn
darllen y stori chwyddwch y pedwar llun, cuddio'r ysgrifen yn y swigod, a
dangos y lluniau i'r plant. Ysgrifennwch y testun ar y bwrdd du. Naill ai
mewn grwpiau, neu fel dosbarth, trafodwch beth sy'n digwydd ym mhob llun, a
pha eiriau maen nhw'n feddwl sydd yn mynd i bob swigen. Wedyn wrth ddarllen
y stori cewch weld a oedd damcaniaethau'r plant yn gywir.
|