1 8 9 Clawr a Rownd a Rownd
Rhowch y brawddegau hyn i'r dosbarth a dywedwch wrth y disgyblion
lenwi'r bylchau.
Helô, ________ ydw i. Dw i'n _________ oed. Mae gwallt ________, hir gyda
fi a _________ glas. Dw i'n actio ar Rownd
a Rownd.
Ffion Llwyd; llygaid; melyn; un deg pedwar
Ar ôl darllen yr erthygl ar y
tudalennau canol, gall y disgyblion ddewis un o'r tri actor arall, a
pharatoi ymarfer llenwi bylchau eu hunain, yna'u cyfnewid gyda phartner i'w
datrys.
2 Celt y Ceiliog
Gwnewch gopïau o gartŵn Celt gan guddio'r ysgrifen yn y swigod siarad.
Mewn amlen, rhowch y geiriau mewn swigod crwn. Mewn grwpiau bach, gall y
dosbarth ddefnyddio blue tack i roi'r swigen gywir yn y lle cywir ar
y cartwn.
3 Gweithlen 1 / Pen‑blwyddi
Tynnwch lun cerdyn pen‑blwydd i Dei Diog ar y bwrdd du. Tynnwch lun
gwely a chlustog a lleuad. Yna gwnewch gerdyn i Harry Potter gyda het
bigfain, tylluan ac ati. Gofynnwch am yr eirfa wrth dynnu llun pob eitem a
gall y disgyblion ddyfalu i bwy mae'r cerdyn. Unwaith mae'r plant yn deall
y syniad gallan nhw wneud cerdyn pen-blwydd iddynt nhw eu hunan/ hoff ganwr
pop/ aelod o'r teulu/ ffrind. Trafodwch yr eirfa a'r lliwiau wrth weithio,
ac ysgrifennwch Pen-blwydd hapus ar y tu mewn.
Ysgrifennwch Pryd mae dy ben-blwydd? ac Mae fy mhen-blwydd ar
__________ y ____________. Dysgwch y geiriau hyn. Dywedwch wrth y
dosbarth holi pen‑blwyddi ei gilydd ac yn creu llinell o ben‑blwyddi o
Ionawr i Ragfyr.
6 7 Annwyl Celt y Ceiliog
Rhowch yr holl eiriau sydd yn y bocs 'Geirfa' mewn amlen - y rhai
Cymraeg a Saesneg ar wahân. Mewn parau dywedwch wrth y disgyblion fatio'r
ddau air cywir gyda'i gilydd. Gall hwn fod yn gyfle iddynt ddysgu defnyddio
geiriadur.
12 13 Tŷ'r Cyffredin
Gofynnwch i'r dosbarth enwi adeiladau enwog yng Nghymru neu yn eu hardal
nhw. Ysgrifennwch yr adeiladau ar y bwrdd du ac fel gwaith cartref dylai'r
plant ffeindio gwybodaeth am yr adeiladau ee maint yr adeilad, oed yr
adeilad. Yna gall y plant ddewis un adeilad a chreu cerdyn post gyda llun
yr adeilad ar un ochr a disgrifiad o'r adeilad ar y cefn. Mae croeso i chi
anfon y cardiau hyn i Bore Da ac fe ddangoswn y goreuon cyn diwedd y
flwyddyn.
14 15 Criw'r Bys Stop
Yn y stori mae dau ddisgybl newydd yn y dosbarth. Mae'r criw yn holi'r
ddau blentyn newydd yn dwll… dywedwch wrth y disgyblion lenwi ail hanner y
sgwrs yma:
Aled: Helô, beth ydi dy enw di?
Carys:
Gwyndaf: Oes brawd gyda ti?
Carys:
Ahmed: Pwy wyt ti?
Eifion:
Lea: Lle wyt ti'n byw Carys?
Carys:
Sara: Oes anifail anwes gyda ti?
Carys:
Aled: Wyt ti'n hoffi chware pêl-droed
Eifion?
Eifion:
|