Croeso i daflen athrawon Bore Da mis Mehefin 2006.

Croeso!  Dyma awgrymiadau ar sut i ddefnyddio
Bore Da mis Mehefin ymhellach yn y dosbarth. 

Themâu mis Mehefin ydy gwyliau, chwaraeon,
Cwpan y Byd Pêl-droed
, Sioe Llanelwedd
a gwledydd y byd.

View in English

   

Tudalen 3 Gweithlen 1 Chwaraeon

Ar ôl i'r plant gwblhau'r weithlen dywedwch wrthynt, mewn parau, baratoi gweithlen eu hunain gan ddilyn yr un patrwm a meddwl am yr offer gwahanol sydd ei angen ar gyfer amrywiol chwaraeon, er enghraifft pêl, beic, gwialen, bat, gogls, helmed, bwts. 

Tudalen 4 5 Dei Diog 

Eisteddwch mewn cylch a chwaraewch gêm cofio.  Rhaid i un ddisgybl ddechrau drwy ddweud
"Dw i'n mynd i'r Almaen am wyliau.”  Yna dylai'r disgybl nesaf ddweud "Mae xx yn mynd i'r Almaen a dw i'n mynd i America ar wyliau…" ac felly yn y blaen.

Ar ôl i’r plant ddarllen y cartŵn, gofynnwch iddynt sgwennu cerdyn post gan Dei Diog a Nain at
ei fam.

Tudalen 8 9 Cwpan Pêl-droed y Byd

Rhowch enwau'r gwledydd i gyd mewn het, gan roi ambell enw i mewn mwy nag unwaith fel bod un ar gyfer pob aelod o'r dosbarth.  Fesul un gall y disgyblion ddewis enw gwld o'r het.  Gofynnwch iddyn nhw ddefnyddio'r we i ffeindio gwybodaeth a gwneud poster yn hysbysebu eu gwlad nhw.  Dylen nhw hefyd ddilyn taith y wlad honno yn y gystadleuaeth a'ch helpu chi i lenwi'r siart bob bore ar ôl gemau.  Gall y dysgwyr gorau ddweud brawddeg neu ddwy am eu gwlad wrth weddill y dosbarth ar y bore yn dilyn neu cyn gêm.

Tudalen 10 Gweithlen 2 Gwyliau Delfrydol

Ar ôl ateb y cwestiynau ar y weithlen gofynnwch i'r plant ddefnyddio'r brawddegau i ysgrifennu am eu gwyliau delfrydol.  Gallan nhw hefyd dynnu llun eu gwyliau delfrydol.

Tudalennau 11 Posau a Gwobrau

Anfonwch y posau at Bore Da, Swyddfa'r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, SY23 1EY erbyn 1 Gorffennaf. Mae llu o wobrau i'w hennill a bydd enw’r enillwyr a’r ysgol yn ymddangos yn Bore Da.  

Tudalen 12 Gwyliau George

Paratowch restr o bob math o ddillad a rhoi pob enw dilledyn ar ddarn o bapur A4.  Rhowch ddarn o bapur yr un i'r plant a dywedwch wrthyn nhw dynnu llun y dilledyn arno.  Yna, ar y bwrdd du ysgrifennwch Gwyliau ar y traeth yn Sbaen a dylai pob plentyn sy'n meddwl bod angen pacio ei ddilledyn ef ddod i flaen y dosbarth gyda'u poster.  Gwnewch yr un peth gyda Gwyliau sgïo yn Awstria, Gwyliau gwersylla yng Nghymru, Gwyliau cerdded yn yr Alban, Gwyliau hwylio yn Ynysoedd Groeg ac yn y blaen. 

Tudalen 13 David Davies

Cyn darllen yr erthygl gwnewch gopïau o'r bocs Geirfa a'i dorri fyny yn eiriau Cymraeg a geiriau Saesneg.  Rhowch set o eiriau ym mhob amlen a rhowch amlen i bob grwp.  Tasg y grwp ydi ail adeiladu'r bocs, a matsio'r gair Cymraeg gyda'r gair Saesneg.  Wedyn pan awn nhw ati i ddarllen yr erthygl byddant yn gyfarwydd gyda'r eirfa anodd.

Tudalen 14 15  Criw'r Bys Stop

Ar ôl darllen y stori dywedwch wrth y plant ddewis un o gymeriadau'r criw ac ysgrifennu tri diwrnod o ddyddiadur gwyliau y person hwnnw - byddai brawddeg y dydd yn ddigon.

Bydd Bore Da yn ôl ym mis Medi.