Croeso!  Dyma awgrymiadau ar sut i ddefnyddio Bore Da mis Rhagfyr ymhellach yn y dosbarth.  Themâu mis Rhagfyr ydy Nadolig, bwyd a diod, y tywydd, teulu a teganau.

View in English

Tudalen 2 Celt y Ceiliog

Ar ôl darllen y cartwn, holwch y disgyblion pa anrhegion fasan nhw'n eu rhoi i gymeriadau’r cartwn.  Yna rhowch y rhestr yma o anrhegion ar y bwrdd du/ gwyn.  Rhaid i'r disgyblion benderfynu pa anrheg mae Celt yn roi i bob un o'i ffrindiau - mae ambell gliw yn y lluniau.

tedi; tractor; pêl; ffrog

Nawr dywedwch wrth y plant feddwl am bedwar person sy'n cael anrheg Nadolig ganddyn nhw - yn aelodau o'r teulu neu yn ffrindiau.  Dywedwch wrthynt ysgrifennu rhestr o bwy sy'n mynd i gael beth.

Tudalen 3 Gweithlen 1 Nadolig llawen!

Ar ôl gwneud y weithlen gall y plant liwio'r lluniau, eu torri allan a'u gludo ar ddarnau o gerdyn.  Drwy ddefnyddio tyllwr i wneud twll, a rhuban tenau, gall y plant wneud labeli bach ar gyfer anrhegion Nadolig.

Tudalen 6 7 Annwyl Celt y Ceiliog

Ddarllenwch y llythyron gyda'r dosbarth.  Yna dywedwch wrth y plant ddewis un o'r llythyron a thynnu llun o dri pheth sy'n cael ei grybwyll yn y llythyr ee llun merch, pry cop a chi ar gyfer llythyr Beth.  Yna rhannwch y dosbarth yn grwpiau a rhowch rai o'r lluniau i bob grwp.  Eu tasg ydi penderfynu pa lythyr sy o dan sylw ym mhob llun.

Tudalen 8 9 Poster Nadolig llawen!

Rhannwch y dosbarth yn ddau neu dri tîm.    Rhowch gopi o'r poster Nadolig i bob tîm.  Rhowch sêr neu saethau wedi eu rhifo, gyda blu tac ar gefn pob un, i bob tîm.  Yna, ar y bwrdd gwyn, ysgrifennwch y rhestr ganlynol. Rhaid i'r timau ffeindio'r seren/ saeth gywir a'i gludo yn y man cywir ar y poster.  Yna casglwch y posteri, eu harddangos o flaen y dosbarth a phenderfynu pa grwp sydd wedi ennill.

1. carw  2. lleuad  3. robin goch  4. cloch  5. Siôn Corn  6. aeron  7. sach  8. uchelwydd  9. eglwys  10. dyn eira  11. celyn  12. cracer  13. coeden Nadolig  14. pwdin Nadolig 

Tudalennau 11 Posau a Gwobrau

Anfonwch y posau at Bore Da, Swyddfa'r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, SY23 1EY cyn y flwyddyn newydd. Mae llu o wobrau i'w hennill a bydd enw’r enillwyr a’r ysgol yn ymddangos yn Bore Da.

Tudalennau 12 13 Nadolig llawen!

Dyddiadur Nadolig  Gallwch wneud copïau o ddyddiadur Jamie a'i dorri yn baragraffau a dyddiadau.  Rhowch setiau mewn amlenni a rhoi amlen i bob grwp.  Tasg y grwp fydd ail adeiladu'r dyddiadur gan roi'r cyfan mewn trefn.  Gall y disgyblion roi cynnig ar ysgrifennu dyddiadur eu hunain hefyd.

Sgwrsio gyda Santa  Gallwch ddilyn yr un gweithgaredd gyda sgwrs Santa a Ben.  Gall y disgyblion wneud hyn mewn parau, yna actio'r sgwrs i weddill y dosbarth.

Tudalen 14 15 Criw'r Bys Stop

Cyn darllen y stori gallwch ddefnyddio paent gwyn i guddio'r ysgrifen yn y bybyls yn y lluniau. Ar ôl darllen y stori, gall y disgyblion ddychmygu beth sy'n cael ei ddweud yn y lluniau.  Gallant hefyd wneud poster yn hysbysebu'r ffair Nadolig.