Croeso! Dyma awgrymiadau ar sut i ddefnyddio Bore Da mis Tachwedd ymhellach yn y dosbarth. Themâu mis Tachwedd ydy hobïau, gwneud pethau, Guto Ffowc a dyddiau'r wythnos. |
||
Tudalen 2 Celt y Ceiliog Ar ôl darllen y stori gall y disgyblion mwyaf hyderus, mewn parau, lunio eu cartwn eu hunain am hobïau, gan ddilyn patrwm stori Celt a thrio meddwl am dro trwstan yn ymwneud ag un o'u hobïau nhw. Mae mwy o syniadau yng nghartwn Dei Diog. Tudalen 3 Gweithlen 1 Hobïau Ar ôl gwneud y weithlen dywedwch wrth y plant ysgrifennu dyddiadur hobïau eu hunain, gyda llun i fynd efo bob diwrnod. Yna rhowch y dosbarth i gyd i eistedd mewn cylch. Gofynnwch i un plentyn "Beth ydy dy hobi di?" Dylen nhw ateb "Fy hobi i ydy nofio" yna holi'r plentyn nesaf "Beth ydy dy hobi di?" Dylai hwnnw ateb "Fy hobi ydy chwarae piano hobi Jac ydy nofio. Beth ydy dy hobi di?" (i'r plentyn nesaf). Y gamp ydi cofio ac ailadrodd hobïau pawb yn y cylch. Dywedwch wrth y disgyblion feddwl am un hobi a meimio'r hobi hwnnw. Rhaid i weddill y disgyblion ddyfalu beth ydi'r hobi ac mae'r un sy'n dyfalu'n gywir yn cael mynd nesaf. Tudalen 6 7 Annwyl Celt y Ceiliog Dewiswch frawddeg yr hoffech ganolbwyntio arni o'r llythyron, er enghraifft 'Mae'n gas 'da fi Home and Away achos mae'n ddiflas.' Ysgrifennwch bob gair o'r frawddeg honno ar ddarn o gerdyn. Rhowch gerdyn yr un i'r disgyblion a gofynnwch iddyn nhw sefyll mewn rhes gan ddangos trefn gywir y geiriau yn y frawddeg. Wrth i'r disgyblion ddarllen eu gair yn uchel gall y disgyblion eraill wneud yn sir eu bod yn gywir. Gellir ailadrodd hyn gyda sawl brawddeg wahanol. Tudalen 8 9 Haka Caerdydd Ar ôl darllen yr erthygl am Seland Newydd beth am holi'r disgyblion, mewn grwpiau, i lunio eu haka eu hunain ar gyfer un o dimau chwaraeon eich ysgol chi? Gallan nhw ymarfer yr haka ac wedyn ei pherfformio hi i weddill y dosbarth. Dyma gyfieithiad Saesneg o'r rhan o'r haka sydd ar y dudalen - Death! Death! Life! Life! Death! Death! Life! Life! This is the hairy man who went to get the sun and make it shine again. Step up, another step up, step up. The sun shines! Fel gwaith cartref gall y disgyblion ffeindio tair ffaith am Fiji, De Affrica ac Awstralia i'w rhannu efo gweddill y dosbarth cyn y gemau rygbi hynny. Tudalen 10 Gweithlen 2 Pa hobi? Defnyddiwch baent gwyn i guddio pob un o'r geiriau sydd yn y bocs geirfa yn y testun. Gwnewch gopïau o'r dudalen a dywedwch wrth y disgyblion lenwi'r bylchau gyda'r geiriau o'r bocs geirfa cyn gwneud y cwis. Tudalennau 11 Posau a Gwobrau Anfonwch y posau at Bore Da, Swyddfa'r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, SY23 1EY cyn 30 Tachwedd 2005. Mae llu o wobrau i'w hennill a bydd enw’r enillwyr a’r ysgol yn ymddangos yn Bore Da. Tudalennau 12 13 Gwneud Pethau Mae'r eirfa ar y dudalen yma yn weddol anodd, ond dywedwch wrth y plant wneud defnydd o'r bocs Geirfa, a chofio edrych ar y lluniau am gliwiau ac eglurhad pellach o'r cyfarwyddiadau. Gallan nhw ddilyn y cyfarwyddiadau a gwneud yr addurn ffenest fel gwaith cartref efallai.
|