Sut i Ymaelodi |
|
Sut i ymaelodi â'r Urdd
Uwchradd: B) I bawb sydd ym mlwyddyn 11 a hyn: Mae pawb sydd ym mlwyddyn 11 a hyn (hyd at 25 oed) yn Urddaholic. Felly mae angen i bob Urddaholic lenwi ffurflen ymaelodi Urddaholic yn unigol fel y gallwn ohebu'n uniongyrchol â'r Urddaholics ar ôl iddynt ymaelodi. Bydd hyn yn ein galluogi i anfon gwybodaeth am weithgareddau sydd o ddiddordeb i'r Urddaholics yn unig.
Cofiwch mae'n rhaid i bawb fod yn aelod o'r Urdd cyn cymryd rhan mewn gweithgareddau'r Urdd, ac mae'n rhaid i'r Urdd dderbyn yr arian aelodaeth cyn rhoi rhif aelodaeth er mwyn i'r aelod fedru cystadlu ar unrhyw lefel.
Argraffu ffurflen ymaelodi Urddaholics
|
Wyt ti rhwng 16 - 25 oed? |
Wyt ti eisiau Blwyddiadur i'w roi ar y wal? Wel Ymuna gydar Urddaholics! |
|
||
|
||
Mae bod yn Urddaholic yn golygu y gelli di gystadlu ar lu o gystadlaethau llwyfan a chystadlaethau eraill fel celf a chrefft neu wyddoniaeth yn Eisteddfod yr Urdd. | Cei gyfle i gystadlu ar lwyth o gystadlaethau chwaraeon hefyd e.e. pêl-droed, rygbi, nofio, pêl-rwyd, pwl a hoci. |
Fe elli di hefyd fod yn swog yn Llangrannog neu Glan-llyn, a chael y cyfle i sgïo, rafftio, hwylio, gwibgartio, mynydda a llawer mwy! |
Ymuna nawr! |
Tâl Aelodaeth: £5.50 yw'r
tâl aelodaeth am 1 Medi 2006 hyd 31 Awst 2007.
Dylid gwneud sieciau'n daladwy i 'Urdd
Gobaith Cymru'.
Am unrhyw ymholiadau ynglyn ag aelodaeth, cysylltwch
â'r:
Swyddog Aelodaeth ,
Swyddfa'r Urdd,
Ffordd Llanbadarn,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23
1EY.
Ffôn: 01970 613 102
e-bost: aelodaeth@urdd.org
Ffacs: 01970 626 120