cylchbach.jpg (11207 bytes)

Sut i Ymaelodi

 

 

Sut i ymaelodi â'r Urdd

Uwchradd: A) I bawb sydd ym mlwyddyn 10 a iau

I ymaelodi dylech yn gyntaf holi eich ysgol ac ymaelodi fel rhan o gangen yr ysgol neu os nad yw'r ysgol yn ymaelodi fel cangen, gallwch holi a oes cangen o'r Urdd yn cwrdd yn lleol fel Adran Bentref/Aelwyd.

Os nad oes cangen ysgol nac Adran Bentref/Aelwyd yn eich ardal gallwch ymaelodi fel unigolyn trwy argraffu'r ffurflen ymaelodi yma ac anfon siec o £5.50 yr aelod at Swyddog Aelodaeth, Swyddfa'r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1EY.
( 01970 613 102 e-bost: aelodaeth@urdd.org Ffacs: 01970 626 120 )

Cofiwch mae'n rhaid i bawb fod yn aelod o'r Urdd cyn cymryd rhan mewn gweithgareddau'r Urdd, ac mae'n rhaid i'r Urdd dderbyn yr arian aelodaeth cyn rhoi rhif aelodaeth er mwyn i'r aelod fedru cystadlu ar unrhyw lefel.

Argraffu ffurflen - ffurflen iau na blwyddyn 10 yma

Ymuna gyda’r URDD cyn 24 Rhagfyr 2006 i gael beiro  yr Urdd am ddim!
Am dâl aelodaeth o £5.50 yn unig.

Am dâl aelodaeth o £5.50 yn unig fe gei di:
Fand Garddwn yr Urdd

OND, MAE ’NA FWY!

Wrth fod yn aelod o Urdd Gobaith Cymru cei gyfle i:
 

gystadlu mewn dros 180 o gystadlaethau llwyfan a 290 o gystadlaethau eraill fel celf a chrefft neu wyddoniaeth yn Eisteddfod yr Urdd gystadlu yn Chwaraeon yr Urdd – o gala nofio i draws gwlad ac o bêl-droed a rygbi i bêl-rwyd a hoci aros neu 'swogio' yng Ngwersylloedd yr Urdd (Llangrannog, Glan-llyn neu Bentre Ifan) a mwynhau sgïo, gwibgartio, hwylio, canwio, merlota…..a llawer mwy!
wneud ffrindiau newydd yn Adran/Aelwyd yr Urdd a chymryd rhan mewn pob math o weithgareddau cyffrous fynd ar Deithiau Tramor i Barcelona, Iwerddon, Eurodisney i enwi ond ychydig! fynd ar Dripiau i barciau a chanolfannau lleol ynghyd â pharciau cenedlaethol a sioeau cerdd

YMUNA YN YR HWYL – YMUNA GYDA’R URDD HEDDIW!

Sut i ymaelodi - Cynradd
Sut i ymaelodi - Urddaholics

Tâl Aelodaeth:  £5.50 yw'r tâl aelodaeth am 1 Medi 2006 hyd 31 Awst 2007.
Dylid gwneud sieciau'n daladwy i 'Urdd Gobaith Cymru'.

Am unrhyw ymholiadau ynglyn ag aelodaeth, cysylltwch â'r:
Swyddog Aelodaeth,
Swyddfa'r Urdd,
Ffordd Llanbadarn,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 1EY.

Ffôn: 01970 613 102
e-bost: aelodaeth@urdd.org
Ffacs: 01970 626 120