Cynllun Gwlad Pwyl
 |
Ymweliad a
Cartref Plant yn Legnicia,
Gwlad Pwyl, Gorffennaf 2002 |
Diweddglo y daith
Hoffai criw yr Urddaholics ddiolch i bawb a wnaeth helpu gyda’r codi
arian. Llwyddwyd i brynu ystafell gyfrifiaduron cyfan iddynt, 5
cyfrifiadur, byrddau, cadeiriau addas ar gyfer cyfrifiaduron, paent a
rhoddion. Yn ogystal a hyn byddwn yn gallu eu gwahodd yn ôl i
Langrannog neu Lan-llyn, unai dros wyliau’r Pasg neu Haf 2003.
Mi roedd hi’n daith hynod o lwyddiannus, gyda nifer
o’r criw yn gadael yn teimlo’n emosiynol iawn am y profiadau ar hyn
cafodd ei gyflawni ar y daith.
Ar ôl y daith nododd un o’r Urddaholics,
"Wna i byth gymryd dim byd yn ganiataol eto."
Dyna oedd y teimlad cyffredinol ar ôl y daith gan bawb.
Profiad bythgofiadwy a’r gobaith yw cyflawni
taith debyg yn y dyfodol agos.
Nôl i ddarllen yr hanes
 |